1 Corinthiaid 3:1-9
1 Corinthiaid 3:1-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan oeddwn i acw, frodyr a chwiorydd, roedd hi’n amhosib siarad â chi fel Cristnogion aeddfed. Roedd rhaid i mi siarad â chi fel petaech chi heb dderbyn yr Ysbryd! – yn fabis bach yn eich dealltwriaeth o’r bywyd Cristnogol. Roedd rhaid i mi eich bwydo chi â llaeth, am eich bod chi ddim yn barod i gymryd bwyd solet! Ac mae’n amlwg eich bod chi’n dal ddim yn barod! Dych chi’n dal i ymddwyn fel pobl sydd heb dderbyn yr Ysbryd. Mae’r holl genfigennu a’r ffraeo sy’n mynd ymlaen yn warthus. Dych chi’n ymddwyn fel petaech chi ddim yn Gristnogion o gwbl. Pan mae un yn dweud, “Dw i’n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i’n dilyn Apolos,” dych chi’n ymddwyn yn union fel pawb arall! Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi’i ddweud wrthon ni. Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i’w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni! Dydy’r plannwr a’r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy’n rhoi’r tyfiant. Mae’r plannwr a’r dyfriwr eisiau’r un peth. A bydd y ddau’n cael eu talu am eu gwaith eu hunain. Dŷn ni’n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy’r maes mae Duw wedi’i roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad
1 Corinthiaid 3:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Minnau, gyfeillion, ni ellais lefaru wrthych fel wrth rai ysbrydol, ond fel wrth rai cnawdol, fel babanod yng Nghrist. Llaeth a roddais i chwi'n ymborth, ac nid bwyd solet, oherwydd nid oeddech eto'n barod. Ac nid ydych yn barod yn awr chwaith, oherwydd cnawdol ydych o hyd. Oherwydd, tra bo cenfigen a chynnen yn eich plith, onid cnawdol ydych, ac yn ymddwyn yn ôl safonau dynol? Pan yw un yn dweud, “Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul”, ac un arall, “Minnau, i blaid Apolos”, onid dynol ydych? Beth ynteu yw Apolos? Neu beth yw Paul? Dim ond gweision y daethoch chwi i gredu drwyddynt, a phob un yn cyflawni'r gorchwyl a gafodd gan yr Arglwydd. Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw oedd yn rhoi'r tyfiant. Felly, nid yw'r sawl sy'n plannu yn ddim, na'r sawl sy'n dyfrhau, ond Duw, rhoddwr y tyfiant. Yr un sy'n plannu a'r un sy'n dyfrhau, un ydynt, ac fe dderbyn y naill a'r llall ei dâl ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. Canys eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr; gardd Duw, adeiladwaith Duw, ydych chwi.
1 Corinthiaid 3:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist. Mi a roddais i chwi laeth i’w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn nis gallech, ac nis gellwch chwaith eto yr awron, ei dderbyn. Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol? Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol? Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un? Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd. Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd. Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. Canys cyd-weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.