1 Cronicl 28
28
Gorchmynion Dafydd ynglŷn â'r Deml
1Casglodd Dafydd i Jerwsalem holl swyddogion Israel, arweinwyr y llwythau, swyddogion y dosbarthiadau a oedd yn gwasanaethu'r brenin, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, arolygwyr holl eiddo a gwartheg y brenin a'i feibion, ynghyd â'r eunuchiaid, y rhyfelwyr a phob gŵr nerthol. 2Cododd y Brenin Dafydd ar ei draed a dweud, “Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr a'm pobl. Yr oeddwn â'm bryd ar adeiladu tŷ, yn orffwysfa i arch cyfamod yr ARGLWYDD ac yn droedfainc i'n Duw, a pharatoais i wneud hynny. 3Ond dywedodd Duw wrthyf, ‘Ni chei di adeiladu tŷ i mi, oherwydd buost yn rhyfelwr ac yn tywallt gwaed.’ 4Dewisodd ARGLWYDD Dduw Israel fyfi o'm holl deulu i fod yn frenin ar Israel am byth; dewisodd Jwda i arwain, ac o fewn Jwda fy nheulu i, ac o blith meibion fy nhad, i mi y rhoes y fraint o fod yn frenin ar Israel gyfan. 5O'm holl feibion—ac fe roddodd yr ARGLWYDD lawer ohonynt imi—fe ddewisodd fy mab Solomon i eistedd ar orsedd frenhinol yr ARGLWYDD dros Israel. 6Dywedodd wrthyf, ‘Dy fab Solomon sydd i adeiladu fy nhŷ a'm cynteddau, oherwydd dewisais ef yn fab imi, a byddaf finnau'n dad iddo yntau. 7Sefydlaf ei frenhiniaeth ef am byth, os bydd yn ymdrechu i gadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau fel y gwneir heddiw.’ 8Yn awr, yng ngŵydd holl Israel, sef cynulleidfa yr ARGLWYDD, ac yng nghlyw ein Duw ni, gofalwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, er mwyn i chwi feddiannu'r wlad dda hon a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth. 9A thithau, Solomon fy mab, bydded i ti adnabod Duw dy dad, a'i wasanaethu ef â chalon berffaith ac ysbryd ewyllysgar, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn chwilio pob calon ac yn deall holl ddychymyg y meddwl. Os ceisi ef, fe'i cei; ond os gwrthodi ef, bydd yntau'n dy wrthod dithau am byth. 10Ystyria'n awr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddewis i adeiladu tŷ yn gysegr iddo; bydd gryf, a dechrau ar y gwaith.”
11Rhoddodd Dafydd i'w fab Solomon gynllun porth y deml, a'i hadeiladau, ei hystordai, ei goruwchystafelloedd, ei hystafelloedd mewnol a'r drugareddfa. 12Rhoddodd iddo hefyd gynllun o'r cyfan a gafodd trwy'r ysbryd ynglŷn â chynteddau tŷ'r ARGLWYDD, yr holl ystafelloedd o'i gwmpas, trysordai tŷ Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig. 13Rhoddodd iddo gyfarwyddyd am ddosbarthiadau'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl waith ynglŷn â thŷ'r ARGLWYDD, a'r holl lestri ar gyfer y gwasanaeth. 14Pennodd bwysau'r aur ar gyfer yr offer aur, a'r arian ar gyfer yr offer arian a ddefnyddid yn y gwahanol wasanaethau: 15pwysau'r aur ar gyfer y canwyllbrennau aur a'u lampau; pwysau'r arian ar gyfer y canwyllbrennau arian, yn ôl pwysau pob canhwyllbren a'i lampau, a'r defnydd a wneid ohonynt; 16pwysau'r aur ar gyfer un o fyrddau'r bara gosod, ac arian ar gyfer y byrddau arian; 17aur pur ar gyfer y ffyrch, y costrelau a'r dysglau; pwysau'r aur ar gyfer y cawgiau aur, a phwysau'r arian ar gyfer y cawgiau arian; 18pwysau'r aur coeth ar gyfer allor yr arogldarth. Rhoddodd iddo hefyd gynllun cerbyd, a'r cerwbiaid aur oedd ag adenydd estynedig yn gorchuddio arch cyfamod yr ARGLWYDD. 19“Hyn oll,” meddai Dafydd, “a ysgrifennwyd gan law yr ARGLWYDD; fy nghyfrifoldeb i oedd deall sut yr oedd pob cynllun yn gweithio.”
20Yna dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon, “Bydd yn gryf a dewr, a dechrau ar y gwaith; paid ag ofni na digalonni, oherwydd y mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda thi; ni fydd yn cefnu arnat na'th adael cyn iti orffen y cyfan sy'n angenrheidiol at wasanaeth tŷ'r ARGLWYDD. 21Dyma ddosbarthiadau'r offeiriaid a'r Lefiaid ar gyfer holl wasanaeth tŷ Dduw. Trwy gydol y gwaith fe fydd pob crefftwr ewyllysgar gyda thi, a bydd y swyddogion a'r holl bobl yn barod i ufuddhau iti.”
Dewis Presennol:
1 Cronicl 28: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004