1 Cronicl 24
24
Gwaith yr Offeiriaid
1Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron: Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar. 2Bu farw Nadab ac Abihu yn ddi-blant, a'u tad eto'n fyw; felly daeth Eleasar ac Ithamar yn offeiriaid. 3Gyda chymorth Sadoc o feibion Eleasar ac Ahimelech o feibion Ithamar, gosododd Dafydd hwy yn eu swyddi ar gyfer eu gwasanaeth. 4Gan fod mwy o ddynion blaenllaw ymysg meibion Eleasar na meibion Ithamar, rhannwyd hwy fel hyn: o feibion Eleasar, un ar bymtheg o bennau-teuluoedd, ac o feibion Ithamar, wyth. 5Dosbarthwyd y naill a'r llall trwy goelbren, gan fod swyddogion y cysegr a swyddogion Duw o blith meibion Eleasar a meibion Ithamar. 6Cofrestrwyd eu henwau gan Semaia fab Nathaneel, ysgrifennydd o lwyth Lefi, yng ngŵydd y brenin, y swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Ahimelech fab Abiathar, a phennau-teuluoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dewiswyd un teulu o feibion Eleasar ac un#24:6 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, a dewiswyd. o feibion Ithamar. 7Syrthiodd y coelbren cyntaf ar Jehoiarib, yr ail ar Jedaia, 8y trydydd ar Harim, y pedwerydd ar Seorim, 9y pumed ar Malcheia, y chweched ar Mijamin, 10y seithfed ar Haccos, yr wythfed ar Abeia, 11y nawfed ar Jesua, y degfed ar Sechaneia, 12yr unfed ar ddeg ar Eliasib, y deuddegfed ar Jacim, 13y trydydd ar ddeg ar Huppa, y pedwerydd ar ddeg ar Jesebeab, 14y pymthegfed ar Bilga, yr unfed ar bymtheg ar Immer, 15yr ail ar bymtheg ar Hesir, y deunawfed ar Affses, 16y pedwerydd ar bymtheg ar Pethaheia, yr ugeinfed ar Jehesecel, 17yr unfed ar hugain ar Jachin, yr ail ar hugain ar Gamul, 18y trydydd ar hugain ar Delaia, y pedwerydd ar hugain ar Maaseia. 19Swyddogaeth y rhain yn y gwasanaeth oedd dod i mewn i dŷ Dduw yn ôl y drefn a osodwyd gan Aaron eu tad, fel y gorchmynnwyd iddo gan ARGLWYDD Dduw Israel.
Rhestr o'r Lefiaid
20Dyma weddill meibion Lefi. O feibion Amram: Subael; o feibion Subael: Jehdeia; 21o Rehabia a'i feibion: Issia yn gyntaf; 22o'r Ishariaid: Selomoth; o feibion Selomoth: Jahath. 23Meibion Hebron#24:23 Cymh. 23:19. TM heb Hebron.: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd. 24O feibion Ussiel: Micha; o feibion Micha: Samir. 25Brawd Micha oedd Issia. O feibion Issia: Sechareia. 26Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Jaasei: Beno. 27Meibion Merari trwy Jaaseia: Beno, Soham, Saccur ac Ibri. 28O Mahli: Eleasar, a oedd yn ddi-blant. 29O Cis, meibion Cis: Jerahmeel. 30Meibion Musi: Mahli, Eder a Jerimoth. Y rhain oedd y Lefiaid yn ôl eu teuluoedd. 31Ac yn union fel y gwnaeth eu brodyr, meibion Aaron, fe fwriodd yr hen a'r ifanc goelbrennau yng ngŵydd y Brenin Dafydd, Sadoc, Ahimelech a phennau-teuluoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 24: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004