Daethant ag arch Duw a'i gosod yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau o flaen Duw. Wedi iddo orffen aberthu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd Dafydd y bobl yn enw'r ARGLWYDD, a rhannodd i bob un o'r Israeliaid, yn wŷr a gwragedd, dorth o fara, darn o gig a swp o rawnwin. Penododd rai o'r Lefiaid i wasanaethu o flaen arch yr ARGLWYDD, i goffáu a moliannu a chlodfori ARGLWYDD Dduw Israel: Asaff yn gyntaf, ac ar ei ôl ef Sechareia, Jeiel, Semiramoth, Jehiel, Matitheia, Eliab, Benaia ac Obed-edom. Yr oedd gan Jeiel nablau a thelynau, ac yr oedd Asaff yn canu'r symbalau. Yr oedd yr offeiriaid Benaia a Jahasiel i chwythu trwmpedau yn barhaus o flaen arch cyfamod Duw.
Y pryd hwnnw y rhoddodd Dafydd am y tro cyntaf i Asaff a'i frodyr y moliant hwn i'r ARGLWYDD:
Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw,
gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
Canwch iddo, moliannwch ef,
dywedwch am ei holl ryfeddodau.
Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd,
llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,
ceisiwch ei wyneb bob amser.
Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,
ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
chwi ddisgynyddion Israel, ei was,
chwi blant Jacob, ei etholedig.
Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,
ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
Cofiwch ei gyfamod dros byth,
gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,
a'i lw i Isaac,
yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,
ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaan
yn gyfran eich etifeddiaeth.”
Pan oeddech yn fychan o rif,
yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
yn crwydro o genedl i genedl,
ac o un deyrnas at bobl eraill,
ni adawodd i neb eich darostwng,
ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos,
a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,
na gwneud niwed i'm proffwydi.”
Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,
cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.
Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,
ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;
y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,
ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,
nerth a llawenydd yn ei fangre ef.
Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,
dygwch offrwm a dewch o'i flaen.
Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear;
yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir.
Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear,
a dywedent ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin.”
Rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,
llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.
Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llawen
o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.
Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,
ac y mae ei gariad hyd byth.
Dywedwch, “Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth;
cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd,
inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd
ac ymhyfrydu yn dy fawl.”
Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.