Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 8

8
Bwydo peder mil o ddinion
1-10Bitu'r amser 'na, pan we crowd mowr arall â ddim byd 'da nhwy i fita, galwo Iesu ar i ddisgiblion i ddwâd ato fe a gweu‐'thon nhwy, “Dwi'n teimlo drenu dros i crowd, achos man‐nhwy wedi bo da fi am dri dwarnod nawr a senon‐nhwy wedi câl dim byd i fita. Os hala i nhwy getre in llwgu man‐nhwy'n mynd i bango ar i ffordd; ma rhei onon nhwy wedi dwâd o bell bant.” Atebodd i ddisgiblion e, “Ble gall unriwun gâl digon o fara i'r bobol 'ma miwn lle diffeth fel'yn?” Gofinodd‐e iddon nhwy, “Sawl torth sy 'da chi?” “Saith” wedon‐nhwy. Rhoiodd‐e ordors i'r crowd i ishte lawr ar i llawr; a wedi 'ddo gwmrid i torthe a jolch i Dduw torodd e nhwy a'u rhoi nhwy i ddisgibilion i rannu rownd i crowd. We rhei pisgod bach 'da nhwy 'fyd. Wedi 'ddo ddiolch am rheiny fe wedodd‐e wrth i ddisgiblion i rannu rheiny rhynt i crowd i gyd. Biton‐nhwy nes bo nhwy'n llawn; a gasglon‐nhwy saith basgeded o sbarion we dros ben. We rhyw beder mil o ddinion 'na i gyd. Halodd‐e nhwy bant a wedyn âth‐e miwn cwch da'i ddisgiblion a fe ddethon‐nhwy i ardal Dalanwtha.
I Ffariseied ishe sein
11-13Dâth i Ffariseied a dadle dag e. Gofinon‐nw iddo fe am sein o'r nefodd: i desto fe wên‐nhwy'n i neud. Tuchanodd‐e'n ddwfwn lawr tu‐fiwn 'ddo i'unan a gweud, “Pam ma'r genhedleth ma ishe sein? Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, geith i genhedleth ma ddim sein o gwbwl.” Gadodd‐e nhwy, a fe âth‐e miwn i gwch a bant ag e i ochor arall i llyn.
Berem Herod a berem i Ffariseied
14-21Fel wedd‐i'n digwydd we'r disgiblion wedi anghofio dwâd â bara 'da nhwy, a we dim 'da nhwy in i cwch ond un dorth. A wedo Iesu wrthon nhwy, “Newch chi'n shwr ich bo chi'n watsho mas am ferem dansherus i Ffariseied a berem dansherus Herod”. Ond wên‐nhwy wrthi o hyd in cwmpo mas da'i gily achos bo ddim bara 'da nhwy. We Iesu in gwbod hyn a wedodd‐e wrthon nhwy, “Pam ŷch‐chi'n dadle obitu bo ddim bara 'da chi? Sinoch chi'n diall 'to? Odych meddilie chi'n galed, neu beth? Ma lliged 'da chi: sinoch‐chi'n gweld? Ma cluste 'da chi; sinoch‐chi'n cliwed? Sinoch‐chi'n cofio, pan dorres‐i'r pum torth i'r pum mil, sowl basgeded o sbarion gasgloch‐chi?” Gwedon‐nhwy wrtho fe, “Douddeg, glei.” “Pan dorres‐i'r saith torth i'r peder mil, sowl basgeded o sbarion gasgloch‐chi lan?” Gwedon‐nhwy wrtho fe, “Saith, glei.” A gwedodd‐e wrthon nhwy, “Senoch‐chi'n diall 'to, 'te?”
Gwella'r dyn we'n dewill in Beseida
22-26Dethon‐nhwy i Beseida. A fe ddâth rhei dinion â dyn we'n dewyll at Iesu a begian arno fe i gwrdd ag e. Cwmrodd‐e'r dyn wrth i law a'i arwen tu‐fas i'r pentre, a wedi iddo fe bowri ar liged i dyn, a rhoi i ddwylo arno fe, gofinodd Iesu iddo fe, “Wit‐ti'n gweld rwbeth?” Drichodd i dyn lan a gweud, “Dwi'n gweld dinion; ma nhwy'n drich fel llwyni, ond dwi'n u gweld nhwy in cered obitu'r lle.” Wedyn fe roiodd Iesu i ddwylo ar liged i dyn shwrne 'to a wedd‐e'n gweld in iawn. Wedd‐e wedi gwella a wedd‐e'n gweld popeth in glir, hyd 'n‐ôd pethe we'n bell bant. Halodd Iesu fe getre, a gweu‐'tho fe, “Peida mynd miwn i'r pentre.”
Pedr in diall pwy we Iesu
27-30Âth Iesu a'i ddisgiblion miwn i bentrefi Ceserea Ffilipi, a ar ir hewl gofinodd‐e i ddisgiblion, “Pwy ma dinion in meddwl wdw‐i?” Gwedon‐nhwy wrtho fe, “Ioan Fididdiwr; on ma dinion erill in gweud, ‘Eleias’, a rhei erill 'to, ‘Un o'r proffwydi.’ ” Gofinodd‐e iddon nhwy, “On beth amdanoch chi, pwy ŷch‐chi'n meddwl wdw‐i?” Atebodd Pedr e, “Ti yw'r Meseia.” Gwedodd Iesu wrthon nhwy'n blaen i beido â gweud wrth neb amdano.
Iesu'n gweud i fod e'n mynd i gâl i ladd
31-38Disgodd Iesu iddyn nhwy bo'n rhaid i Grwt i Dyn ddiodde lot, a bidde'r henuried, i penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth in troi in i erbyn e; bidde‐fe'n câl i ladd, a wedi tri dwarnod codi 'to in fyw; a sharadodd‐e am hyn in itha agored. Cwmrodd Pedr e i un ochor a sharad in gas 'dag e. Troiodd Iesu, a wrth ddrich ar i ddisgiblion sharadodd‐e'n blaen 'da Pedr. Gwedodd‐e, “Cer mas o ngolwg i Satan, achos senot‐ti'n meddwl fel ma Duw in meddwl, on fel ma dinion in meddwl.”
Galwodd‐e'r crowd a'i ddisgiblion a gwedodd‐e wrthon nhwy, “Os wes unriwun am in ddilyn i, wedyn ma'n rhaid 'ddo fe anghofio am i unan, codi'i grwes a'n ddilyn i. Achos os ma unriwun am safio'i fowyd i unan bydd e'n i golli fe ginta, on ma unriwun sy'n colli i fowyd ar in gownt i ag ar gwnt ir ifingyl in achub i fowyd. Achos pwy werth yw‐i i ddyn i gâl i byd in gifan a gorffod rhoi i fowyd amdano? A beth ma dyn in mynd i roi fel prish ar i fowyd? Achos os bydd cwiddil ona i ar unriwun, a cwiddil o'n ngeire i i'r genhedleth ddrwg a anffiddlon 'ma, wedyn fe fydd cwiddil da Crwt i Dyn ohenyn nhwy, pan ddeith‐e ing ngogoniant i Dad gida'r angilion sanctedd.” Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, ma na rai sy'n sefyll fan'yn sy ddim in mynd i farw nes u bo nhwy wedi gweld Teyrnas Duw wedi dwâd in i chrifder.”

Dewis Presennol:

Marc 8: DAFIS

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda