Wedi dy' Saboth fynd heibo, pernodd Mair o Magdala, Mair mam Iago, a Salome oil â smel sbeisys arno fe fel gallen‐nhwy roi e ar gorff Iesu. Wedyn, in ginnar ar ddydd cinta'r wsnoth, wedi'r houl godi, dethon‐nhwy at i twm. A wên‐nhwy'n holi'i gily, “Pwy rowlith i garreg bant o entrans i twm i ni?” On pan ddrichon‐nhwy gwelon‐nhwy bo'r garreg wedi câl i rowlo bant in barod (sach bod hi'n garreg fowr fowr). Wrth find miwn i'r twm fe geson‐nhwy sindod i weld crwt ifanc in gwishgo dillad gwyn in ishte fan‐'ny ar ir ochor dde. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Sdim ishe ichi sinnu. Ŷch‐chi'n drich am Iesu o Nasareth, sy wedi câl i groeshoelo. Mae e wedi codi. Seno‐fe 'ma. Drichwch, co lle roion‐nhwy e i orwe. Cerwch chi a gweud wrth i ddisgiblion, a wrth Pedr, ‘Mae e'n mynd o'ch blân chi i Galilea.’ Gwelwch chi e fan‐'ny, jwst fel wedodd‐e wrthoch chi.” Dethon‐nhwy mas a rhedeg o'r twm, in crinu o achos ofon. Wedon‐nhwy ddim byd wrth neb, achos we shwt gwmint o ofon arnyn nhwy.
Darllen Marc 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 16:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos