Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 11

11
Iesu'n mynd miwn i Jeriwsalem ar gewn asyn
1-11Pan wên‐nhwy'n dwâd in agos at Jeriwsalem, ing golwg Bethffage a Bethania, ar bwys Mini'r Llwyn‐Oil, halodd Iesu dou o'i ddisgiblion bant 'da'r ordors ma: “Cerwch miwn i'r pentre sy goddereb â chi, a wrth ichi fynd miwn welwch chi ebol wedi'i glwmu'n sownd fan‐'ny, ebol sneb wedi bod ar i gewn e ariôd o'r blân. Tinnwch e'n rhydd a dewch ag e ma; a os wedith riwun wrthoch chi, ‘Pam ŷch‐chi'n neud hyn?’, gwedwch nôl wrthon nhwy, ‘Ma'i ishe fe ar ir un sy pia g'e; halith‐e fe nôl 'ma in i fan fach.’ ” Ethon‐nhwy bant a ffeindo'r ebol wedi'i glwmu ar bwys rhiw ddrws, mas ar ir hewl. Wrth iddon nhwy dynnu fe'n rhydd wedodd rhei dinion we'n sefyll fan‐'ny wrthon nhwy, “Be chi'n neud in tinnu'r ebol 'na'n rhydd?” Atebon‐nhwy jwst fel we Iesu wedi gweu‐'thon nhwy neud, a gado'r dinion nhwy neud 'ny. Dethon‐nhwy â'r ebol at Iesu a fe dowlon‐nhwy u cote ar i gewn e, a ishteddodd Iesu ar i gewn e. We lot o ddinion wedi towlu'u cote ar ir hewl, a we rhei erill wedi rhoi dail wen‐nhwy wedi torri in i perci ar ir hewl. We'r rhei we'n mynd o'i flân e, a'r rhei we'n mynd ar i ôl e, in gweiddi'n uchel,
“Hosanna! Duw, achub i bobl!
Bendith Duw ar i dyn sy'n dwâd in enw'r Arglwi.
Bendith Duw ar Deyrnas in Tad ni Dafydd,
i deyrnas sy jyst â dwâd.
Hosanna! Duw, safia'r bobl o di nefodd uchel!”
Âth Iesu i Jeriwsalem a miwn i'r Demel. Drichodd e rownd ar bopeth we in i Demel, ond achos wedd‐i'n ddiweddar fe âth‐e mas i Bethania gida'r Douddeg.
Iesu'n rhoi stwr i'r llwyn ffigs
12-14Tranoth, pan wen‐nhwy dwâd o Bethania, we whant bwyd ar Iesu. O bell bant gwelodd‐e lwyn ffigs in deilo a fe âth‐e i weld alle fe ffindo unriwbeth in tiddu arno fe. Dâth‐e at i llwyn ond ffindo ddim byd on dail arno, achos wedd‐i ddim in amser i ffigs 'to. A tima fe'n gweud wrth i llwyn, “Bydd neb in bita ffigs wedi'u pigo arno ti byth 'to!” A fe gliwo'i ddisgiblion e'n gweud 'ny.
Hala dinion mas o'r Demel
15-19Dethon‐nhwy i Jeriwsalem a âth Iesu miwn i'r Demel a dachre hala mas i rhei we'n pernu a gwerthu pethe fan'ny; diwelodd‐e fordydd i dinion we'n newid arian a stôle'r rhei we'n gwerthu clomennod. A ballodd‐e'n deg â gadel neb i gario unriw negese drw'r Demel. Disgodd‐e nhwy a gweud, “Weno hyn wedi cael i reito amdano, ‘Bydd in dŷ i in dŷ gweddi i'r dinion i gyd’? Ond ŷch chi wedi'i droi fe miwn in ogo ladron.” Cliwodd i penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth am hyn, a fe dreion nhwy ffeindo ffordd i ladd e. We'i ofon e arnon‐nhwy achos bo'r crowd in câl u tinnu at beth wedd e'n i ddisgu. Wedi 'ddi nosi âth Iesu a'i ddisgiblion mas o'r dre.
Disgu wrth beth ddigwyddodd i'r llwyn ffigs we wedi gwywo
20-26In ginnar bore tranoth wrth iddon nhwy fynd heibo gwelon‐nhwy'r llwyn ffigs wedi gwywo o'r gwreidde lan. Cofiodd Pedr a gweu‐'tho fe, “Rabwni, dricha, ma'r llwyn ffigs nes ti'i roi stwr iddo wedi gwywo.” Atebodd Iesu, “Rhoiwch ich ffydd in Nuw. Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, os bydd unriwun in gweud wrth i mini 'ma, ‘Coda a towla d'unan i'r môr’, a seno‐fe'n ame in i galon ond in credu bo popeth mae‐e'n gweud in mynd i ddigwydd, fe ddigwyddith‐e. So dwi'n gweu'thoch chi, credwch ich bo chi wedi câl popeth ŷch‐chi'n gweddïo a gofyn amdano, a fe gewch‐chi e. Pan ŷch‐chi'n sefyll in gweddio, newch yn shwr bo chi'n madde i bobun beth binnag sy 'dach chi in u herbyn nhwy, fel bo'ch Tad chi sy'n i nefodd in madde'ch pechode chi. Ond os na fiddwch‐chi madde, fydd ich Tad chi sy'n i nefodd ddim in madde whaith.”
Dinion in ame hawl Iesu
27-33Dethon‐nhwy i Jerwsalem weth; a fel we Iesu'n cered in i Demel, dâth i penffeiradon, i rhei we'n disgu'r Gifreth, a'r henuried ato fe, a gweu‐'tho, “Da pwy gest ti'r hawl i neud i pethe 'ma? Pwy roio'r hawl i ti neud nhwy?” Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Gofinna‐i un cweshjwn i chi. Atebwch chi fi, a fe weda‐i pwy hawl sy 'da fi i neud i pethe 'ma. A we bedydd Ioan o'r nefodd neu o ddinion? Atebwch 'na i fi.” A wen‐nhwy'n pledo fel hyn 'da'i gily am i peth: “Os wedwn‐ni, ‘O'r nefodd’, gwedith‐e, ‘Pam nethoch‐chi ddim i gredu fe 'te?’ Ond a fentrwn ni weud ‘O ddinion’?” — we ofon i crowd arnon nhwy, achos we bob un in meddwl bo Ioan in broffwd iawn.
Atebon‐nhwy Iesu, “Sinnon‐ni'n gwbod.” Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “A dw‐i ddim in gweu 'thoch chi hawl pwy sy 'da fi i neud i pethe 'ma.”

Dewis Presennol:

Marc 11: DAFIS

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda