Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 23

23
1-39Wedyn sharadodd Iesu 'da'r crowde a 'da'i ddisgiblion, a gweud, “Ma'r rhei sy'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseied in ishte in stôl Moses. Wedyn newch a grondwch ar beth binnag man nhwy'n gweud wrthoch chi; ond peidwch neud fel man nhwy'n neud, achos man nhwy'n sharad ond ddim in neud. Man nhwy clwmu beiche mowr 'da'i gily i roi ar isgwidde dinion, ond senyn nhwy u hunen in folon simud bys bach i’w simud nhwy. Man nhwy'n neud popeth er mwyn i ddinion ddrich arnyn nhwy. Man-nwy lludanu u ffilactere a'n neud i ffrinjis ar i ddillad in hir; man nhwy wrth u bodde gida'r lle gore in i gwelddodd a'r seti mowr in i sinagoge, câl parch in i mart a dinion in i galw nhwy'n Rabbi. Ond ddilech chi ddim câl ich galw in Rabbi, achos dim ond un Titjer sy 'da chi, ac ŷch chi i gyd in frodyr. Peidwch galw neb ar i ddeiar in dad, achos un Tad sy 'da chi, in i nefodd. A peidwch câl ich galw'n hiffroddwr, achos dim ond un Hifforddwr sy 'da chi, i Meseia. Bydd i mwya o’ch plith chi in was. Ma'r un sy'n codi i unan in uchel in mynd i gâl i ostwng, a ma'r un sy'n gostwng i unan in mynd i gâl i godi'n uchel.
“Druens onoch chi, rhei sy'n disgu'r Gifreth a Ffariseied, rhagrithwyr! Ŷch chi'n cau drw Teyrnas Nefodd ing gwineb dinion; senoch chi'n mynd miwn ich huene, a senoch chi'n gadel i rhei sy'n treial mynd miwn i neud 'ny whaith. Druens onoch chi, rhei sy'n disgu'r Gifreth a Ffariseied, rhagrithwyr! Ŷch chi'n cwmrid tai gweddwon, a wedyn wêth in gweddïo gweddïe hir fel show; achos hyn biddwch chi'n câl ich condemo'n fwy.
“Druens onochi, rhei sy'n disgu'r Gifreth a Ffariseied, rhagirithwyr! Ŷch chi'n trafeilu roend ar fôr a thir i droi un dyn; a pan fydd e wedi troi, ŷch chi'n i neud e'n ddwywaith gwell i uffern nag ŷch chi ich hunen.
“Druens onoch chi, arweinwyr dall sy'n gweud, ‘Os ma dyn in tingu wrth i demel, seno 'na'n ddim byd; ond os yw dyn in tingu llw wrth our i demel, ma hinny'n cownto.’ Ffwlied, 'na ddall ŷch chi! Beth sy fwya, ir our, neu'r demel sy'n neud ir our in sbeshal? Wedyn 'to, ‘Os yw dyn in tingu llw wrth ir allor, seno hinny'n ddim byd; ond os yw dyn in tingu llw wrth i rhodd sy ar ir allor, ma hinny'n cownto.’ ‘Na ddall ŷch chi! Beth sy fwya, i rhodd, neu'r allor sy'n neud i rhodd in sbeshal? Ma'r un sy'n tingu llw wrth ir allor in neud i lw wrtho ac wrth bopeth sy arno; a ma'r un sy'n neud i lw wrth i demel in neud i lw wrthi a bopeth sy indi; a ma'r un sy'n tingu llw wrth i nefodd in cwrmid llw wrth orsedd Duw, a wrtho fe sy'n ishte arni.
“Druens onoch chi, rhei sy'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseied, rhagrithwyr! Ŷch chi'n talu degmw ar mintys, dil a cwmin, ond ŷch chi wedi angofio pethe llawer pwysicach i Gifreth: cifionder, trugaredd a ffydd. Dilech chi fod wedi dilyn rhein, ond peido anghofio'r lleil. Arweinwyr dall, ŷch chi'n neud in siŵr bo chi ddim in câl cilionen in ich pen, a wedyn in llwncu camel! “Druens onoch chi, rhei sy'n disgu'r Gifreth a Ffariseied, rhagrithwyr! Ŷch chi'n clau tu fas cwpan a dish, ond tu fiwn man nhwy'n llond trachwant a whant. Ffariseied dall, clauwch tu fiwn i'r cwpan ginta, fel bo'r tu fas in lân ‘fyd.
“Druens onoch chi, rhei sy'n disgu'r Gifreth a Ffariseied, rhagrithwyr! Ŷch chi fel twme wedi'u gwyngalchu, sy'n edrych in neis o'r tu fas, ond tu fiwn sy'n llawn o esgyrn dinion marw a pob math o bethe bowlyd. Fel 'na ŷch chi'n edrych in gifion ar i tu fas i ddinion, ond tu fiewn in llaw o ragrith a anghifreth.
“Druens onoch chi, rhei sy'n disgu'r Gifreth a Ffariseied, rhagrithwyr! Ŷch chi'n codi twme i'r proffwydi a'n gofalu am dwme'r dinion cifion; a ŷch chi'n gweud, ‘Os busen i wedi byw in amser i tade, busen i ddim wedi joino miwn 'da nhwy in lladd i proffwydi.’ Fel 'na ŷch chi'n sharad in erbyn ich hunen ich bo chi'n blant i'r rhei nâth ladd i proffwydi. Ie wir, benwch beth nâth ich tade chi ddachre. Chi nadrodd, nyth o wiberod, shwt ichi'n mynd i jengid câl ich hala i uffern? Tina pam dwi halaa proffwydi, dinion doeth a rhei i ddisgu'r Gifreth. Biddwch chi'n lladd rhei a'u croeshoelo nhwy; biddwch chi'n fflangellu rhei in ich sinagoge, a'n u hala nhwy o dre i dre; fel arnoch chi bydd i bai in dwâd am wâd i dinion diniwed i gyd sy wedi câl i allwish ar i ddeiar, o wâd Abel ddiniwed i wâd Sachareia, crwt Baracheia, nethoch chi ladd rhynt i man sanctedd a'r allor. Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd i bai am hyn i gyd in dwâd ar i ginhedleth 'ma.
“Jerwsalem, Jerwsalem, wit ti'n llad i proffwydi a'n towlu cerrig ar i hrei sy'n câl u hala atat ti, mor amal dwi wedi ishe casglu di blant, in gowir fel ma deryn in casglu i rhei bach dan i hadenydd, ond wenoch chi moyn neud ni! Drichwch, ma’ch tŷ chi wedi'i adel in wag ichi. Achos dwi'n gweu’thoch chi, o nawr mlân newch chi ddim ing weld i nes ichi weud, ‘Gwyn fyd ir un sy'n dwâd in enw'r Mishtir.’”

Dewis Presennol:

Mathew 23: DAFIS

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda