Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 19

19
Iesu'n câl i hala i'r grwes
1-15Wedyn cwmrodd Pilat Iesu a'i whipo fe, a lethoodd i sowldiwrs goron mas o ddrain a'i rhoi 'ddi ar i ben, wedyn roion nhwy glogyn piws amdano. Wedyn wen nhwy cadw dod lan ato fe a gweud, “Henffych, Brenin ir Iddewon!” a'i fwrw fe ar i wmed.
Âth Pilat mas shwrne 'to a gweu 'th ir Iddewon, “Drichwch, dw i'n dod ag e mas i chi fel bo chi'n gwbod sena i'n câl dim byd indo fe i ateb.” So âth Iesu mas in gwisho'r goron ddrain a'r clogyn piws. Gwedo Pilat wrthyn nhwy, “Dirchwch, co'r dyn.” Pan welo'r penffeiradon a'r polisis e, gweiddon nhwy, “Croeshoela fe! Croeshoela fe!” Gwedo Pilat wrthon nhwy, “Cerwch chi ag e ich hunen a'i groeshoelo fe; achos sena i'n galler gweld dim byd arno fe i ateb.” Atebo'r Iesu fe, “Ma cifreth 'da ni, a ma'r gifreth 'na'n gweud dile fe farw, achos bo fe wedi gweud pethe wedd in meddwl i fod e'n neud i hunan in Grwt i Dduw.” Pan gliwo Pilat hynny gâs e ofon, a âth e nôl miwn i'r pencadlys, a gweu 'th Iesu, “O ble wit ti'n dod?” Nâth Iesu ddim i ateb. Gwedo Pilat wrtho, “Wit ti'n pallu sharad 'da fi? Senot ti'n stando bo hawl 'da fi i di adel di'n rhydd a hawl i di goreshoelo di?” Atebo Iesu, “Bise dim hawl 'da ti o gwbwl se fe heb gâl i roi i ti o lan. Achos 'ny ma'r un nâth in roi i lan i ti in fwy euog byth.” Achos hyn treiodd Pilat i gâl e'n rhydd. Gweiddodd ir Iddewon, “Os nei di adel hwn in rhydd senot ti'n ffrind i Gesar. Ma unrhiwun sy'n treial bod in frenin in erbyn Cesar.”
Pan gliwo Pilat i geire 'ma dâth mas â Iesu tu fas, a ishte lawr ar i stôl-farnu in i lle man nhwy'n galw in “I Pafin”, neu in iaith ir Iddewon, “Gabbatha”. Wedd i'n ddwarnod cyn Cwrdde Mowr Pasg, a wedd i'n rhyw ddouddeg ar gloch. Gwedodd e wrth ir Iddewon, “Drichwch, co'ch Brenin chi!” Gweiddon nhwy, “Lladdwch e, lladdwch e, croeshoelwch e!” Gwedo Pilat wrthyn nhwy, “Wdw i fod groeshoelo'ch Brenin chi?” Atebo'r penffeiradon, “Sdim brenin 'da ni ond Cesar.” Wedyn nâth e i roi e lan iddyn nhwy fel gallen nhwy i groeshoelo fe.
Iesu'n câl i hoelo ar i grwes
16-18Cwmron nhwy Iesu, a âth e mas in cario'r grwes i unan i'r man sy'n câl i alw in “Lle'r Benglog”, neu in iaith ir Iddewon, 'Golgotha'. Fan'ny nethon nhwy i groeshoelo fe, a dou arall 'dag e, un ar bob ochor iddo a Iesu in i canol. 19Reithodd Pilat bapur a'i roi e ar i grwes. We'r notis in darllen, “IESU O NASARETH, BRENIN IR IDDEWON.” 20-22Darllennodd lot o'r Iddewon i notis 'ma, achos we'r lle gâs Iesu i groeshoelo in agos i'r ddinas, a fe gâs i notis i reito in iaith ir Iddewon, Lladin a Groeg. So wedo'r penffeiradon wrth Pilat, “Paid reito “Brenin in Iddewon”, ond “Gwedodd e, Fi yw Brenin ir Iddewon.’” Atebo Pilat, “Dw i 'di reito beth dw i 'di reotio.”
23-37Pan we'r sowldwrs wedi croeshoelo Iesu, ethon nhwy â'i ddillad a'u rhannu nhwy in bedwar shâr, shâr i bob sowldwr. Ethon nhw â'r tiwnic 'fyd; ond wedd i heb sêm, in un pishyn o'r top i'r gwaelod. So wedon-nhwy wrth i gily, “Newn ni ddim o'i rhico hi, gadwch inni dowlu deis i weld pwy geith hi.” Digwyddodd hyn er mwyn neud i'r Isgrithur ddwâd in wir,
“Rhannon nhwy in ddillad i rhynt i gilyd
a towlu deis am in bilyn.”
A 'na beth nâth i sowldwrs. Nawr, we mam Iesu, whâr i fam, Mair gwraig Clopas, a mair o Magdala in sefyll ar bwys i grwes. Gwelo Iesu i fam a'r disgibl wedd e'n i garu in sefyll ar i phwys hi, a gwedodd e wrthi, “Mam, drichwch, 'co'ch mab chi.” Wedyn wedodd e wrth i disgibl, “Dricha, 'co di fam di.” O'r amser 'na mlân cwrmodd i disgibil hi miwn i'w getre.”
We Iesu in gwbod bo popeth wedi câl i neud nawr. I neud i'r Isgrithiur ddwâd in wir, gwedodd e, “Ma siched arna i.” We cwpan 'da gwin sur indi wedi câl i roi fan 'ny. Rhoion nhwy spwnj in llawn gwin sur ar ben coesen hissop a'i roi lan i'w ben e. Cwmrodd e'r gwin sur a gweud, “Ma popeth wedi câl i neud.” Wedyn nâth ei bligu'i ben a rhoi'r isbryd lan.
I dwarnod cyn dy' Sabbath wedd i. So holo'r Iddewon Pilat dorri coese'r dinion we wedi câl u croeshoelo, a bo'r cyrff yn câl u cwmrid bant. We hyn fel 'na bo'r cyrff in aros ar i croese ar ddy Sabbath, a we'r Sabbath 'ny in ddwarnod mowr. So dâth i sowldwrs a torri coese'r dyn cinta a'r llall we wedi câl i groeshoelo 'dag e. Wedyn ddethon nhwy ato fe, a pan welon nhwy bo fe'n farw in barod, nethon nhwy ddim torri i goese, ond fe nâth un o'r sowldiwrs hwpo spiyr miwn i'w ochor e, a ar unweth dâth gwâd a dŵr mas. Co beth wedo rhiwun welodd i peth in digwydd, câs hyn i weud fel bo chi 'fyd in creud, a ma beth mae e'n weud in wir. Ma 'na un sy'n gwbod i fod e'n gweud i gwir. Digwiddodd i pethe 'ma fel bo'r Isgrithur in dod in wir, “Ceith ddim un o'i esgyrn e u torri.” Shwrne 'to, mae'r Isgrithur in gweud, “Biddan nhwy'n drych ar ir un nethon nhwy i wanu.”
Claddu Iesu
38-42Wedyn âth Joseff o Arimathaea, we'n ddisgibl i Iesu ond wedd e ddim in gweud wrth neb arall achos bo ofon ir Iddewon arnon fe, a gofyn i Pilat a alle fe gwmrid corff Iesu bant; a wedo Pilat galle-fe. So dâth e a cwmrid i corff bant. Dâth Nicodemus 'fyd, i dyn we wedi dod ato fe tro cinta pan wedd i'n dewill, in cario cimisgedd o myrr a alos in pwyso rhiw ffiti pown. So ethon nhwy â corff Iesu a rhoi llieinie amdano gida'r sbeisys, fel ma Iddewon in arfer claddu. We gardd lle gâs e i groeshoelo, a in ir ardd 'ny we twm newy lle we neb wedi'i roi i orwe 'to. Fan 'ny roion nhwy Iesu i orwe, achos wedd i'n ddwarnod cyn dy' Sabbath ir Iddewon a we'r twm in agos.

Dewis Presennol:

Ioan 19: DAFIS

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda