Wedi 'ddo fynd mas gwedo Iesu, “Nawr ma Crwt i Dyn i gâl i ogoniant, a indo fe ma Duw in câl gogoniant. Os yw Duw in câl gogoinant indo fe, bydd Duw in rhoi gogoniant iddo fe in i bresenoldeb e, a bidd e'n neud 'ny ar unweth. In blant i, bidda i 'da chi am damed bach 'to. Biddwch chi'n whilio amdana i, fel wedes i wrth ir Iddewon, 'Lle dw i'n mynd allwch chi ddim dwâd', a dw i'n gweud 'na wrthoch chi nawr. Dw i'n rhoi gorchimin newy ichi: carwch ich gily; carwch ich gily fel dw i wedi'ch caru chi. Bydd dinion in gwbod ich bo chi'n ddisgiblion i fi wrth shwt ŷch chi'n caru'ch gily.” Gwedo Simon Pedr wrtho, “Arglwidd, ble wit ti'n mynd?” Atebo Iesu, “Lle dw i'n mynd allach chi ddim in ddilyn i nawr, ond biddwch chi'n dilyn nes mlân.” Gwedo Pedr wrtho, “Arglwidd, pam alla i ddim dilyn nawr? Bidda i'n rhoi in fowid lawr ar di gwont di.” Atebo Iesu, “Nei di roi di fowid lawr ar in gownt i. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, fydd i ceilog ddim in canu nes di fod di wedi gweud bo ti ddim in perthyn i di dair gwaith.
Darllen Ioan 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 13:31-38
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos