Achos er bo fe wedi neud lot o beth in u golwg nhwy wenon nhwy wedi credu indo fe, fel bo'r geire a wedo'r proffwd Eseia in dod in wir, “Arglwidd, pwy sy wedi credu'n neges ni? A pwy sy wedi câl gweld nerth Arglwydd?” Allen nhwy ddim credu achos ma Eseia in gweud 'fyd, “Mae e wedi dallu u lliged nhwy, wedi neud nhwy'n drwm u meddwl. 'Se fe ddim wedi neud 'ny bisen nhwy'n gweld 'da u lliged, in diall 'da'u meddilie, a'n troi, a bisen i'n gwella nhwy.” Gwedo Eseia hyn achos bo fe'n gweld gogoniant Iesu a'n sharad amdano fe. Ond er gwaetha'r cwbl credodd hyd 'n ôd lot o'r dinion blân indo fe, ond achos i Ffariseied we-nhwy ddim in folon gweud 'ny in agored, achos we ofon arnyn nhwy bisen nhwy'n câl u towlu mas o'r sinagog; achos wen nhwy'n dwlu ar gâl parch 'da dinion in lle câl parch 'da Duw.
Darllen Ioan 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 12:37-50
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos