Whech dwarnod cyn i Pasg dâth Iesu i Bethania, lle we Lasarus, wedd e wedi'i godi fe o farw. Nethon nhwy bryd o fwyd iddo fan 'ny a Martha we'n dod â pethe i'r ford; a Lasarus we un o'r rhei we'n ishte rownd ford 'dag e. Cwmrodd Mair rhyw bownd o sent, nard iawn wedd e a achos 'ny in ddrud, a rhoi'r sent dros drâd Iesu, a wedyn sichodd i i drâd e 'da i gwallt. Gâd i tŷ i lenwi a smel neis i sent. Gwedodd Jwdas Iscariot, un o'i ddisgiblion, a'r un we'n mynd i roi fe lan, “Pam na gâs i sent 'ma i werthu a rhoi'r arian i ddinion llwm?” Gwedodd e hyn, ddim achos i fod e'n becso dim am i tlawd, ond achos i fod e'n gofalu am i bocs-arian a achos i fod e'n leidir wedd e'n dwyn beth we'n câl i roi mewn. Gwedo Iesu, “Gadwch iddi fod; gadwch iddi gadw'r sent erbyn dydd in gladdu i; achos ma'r dinion llwm 'da chi o hyd, ond fidda i ddim 'da chi am byth.” We crowd mowr o'r Iddewon wedi stando fod Iesu 'na, a ddethon nhwy ddim dim ond o'i achos e, ond i weld Lasarus 'fyd, yr un wedd e wedi codi o farw. We'r penffeiradon in dâr u bo nhwy am ladd Lasarus 'fyd, am fod lot o'r Iddewon o'i achos e in u gadel nhwy a'n credu in Iesu.
Darllen Ioan 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 12:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos