Marc 14
14
Cyd‐frâd yn erbyn Crist
[Mat 26:1–5; Luc 22:1, 2]
1Ac wedi deuddydd yr oedd y Pasc#14:1 Hebraeg, Pesach. Llyth.: myned drosodd, neu, heibio, h. y. arbed. Gwel Ex 12; Num 9; Deut 16 Y ffurf yn yr Aramaeg yw Pascha, o'r hwn y daw Pasc. a'r Bara Croyw#14:1 Llyth.: a'r Dilefeinllyd, h. y. y teisenau dilefeinllyd a fwyteid ar adeg y Pasc. Yr un wyl a ddynodir gan y Pasc a'r Bara Croyw.; a'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy gyfrwys ddichell, ac y lladdent ef: 2canys#14:2 canys א B C D, eithr A. hwy a ddywedasant, Nid ar#14:2 Llyth.: yn. yr wyl, rhag y bydd terfysg yn mhlith y bobl.
Cof‐arwydd Mair
[Mat 26:6–13; Ioan 12:1–9]
3Ac fel yr oedd efe yn Bethania, yn nhŷ Simon y Gwahan‐glwyfus, ac yr eisteddai#14:3 Llyth.: y lled‐orweddai. i fwyta, daeth gwraig a chanddi lestr#14:3 Llyth.: a chanddi alabaster, h. y. llestr o alabaster. Ni ellid ei alw yn flwch; yr oedd yn hytrach ar ffurf cib, costrel, fflasgell (S., cruse, vase). Alabastron oedd dref yn yr Aipht. Yno y gwnelid y llestri bychain er cynnwys peraroglau. Felly rhoddwyd enw y ddinas ar y llestri eu hunain. alabaster o enaint#14:3 Enaint gwlyb aroglbêr. o nard#14:3 Nard: gair o'r Sanscrit, iaith henaf India, yn dynodi pen neu ddail planigyn Indiaidd, sudd yr hwn sydd yn beraroglus. pur#14:3 Defnyddir y gair yma yn unig yn y T. N. Defnyddir ef am bersonau ffyddlon, teilwng o ymddiriedaeth; felly pan ddynoda bethau, ei ystyr yw pur, gwirioneddol, digymysg. gwerthfawr; a hi a dorodd#14:3 tori yn ysgyrion [Gwel Marc 5:4] y llestr alabaster, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef. 4Ond yr oedd rhai y bu ddigllawn ganddynt yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd#14:4 gan ddywedyd A X. Gad. א B C L., I ba amcan y mae y golled hon o'r enaint wedi cymmeryd lle? 5Oblegyd fe a allasid gwerthu yr enaint#14:5 yr enaint A B C D, &c. hwn am fwy na thri chan denarion#14:5 Gwel Mat 18:28., a'i roddi i'r tlodion: a hwy a rwgnachasant#14:5 Llyth.: ffroeni, (fel ceffyl gwyllt) rhuo, (fel llew): yna, bod yn ddigllawn, ffromi, ceryddu yn llym, digllonedd yn tori allan mewn swn neu eiriau. yn uchel yn ei herbyn hi. 6Ond yr Iesu a ddywedodd, Gadêwch iddi: paham y trallodwch hi? hi a wnaeth weithred dda#14:6 Llyth.: brydferth. arnaf#14:6 Llyth.: ynof fi, yr holl brif‐law. fi. 7Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan ewyllysioch, chwi a ellwch wneuthur#14:7 B L a ychwanegant bob amser. da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. 8Yr hyn a allodd#14:8 Llyth.: oedd ganddi, sef, yr hyn oedd ganddi i wneyd. hon hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y gladdedigaeth. 9Ac yn wir meddaf i chwi, Pa le bynag y pregethir yr Efengyl#14:9 hon A C X. Gad. א B D Brnd. yn#14:9 Llyth. i, h. y. fel yr â fy ngeiriau i'r holl fyd, ac y pregethant. yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffadwriaeth am dani.
Judas Iscariot ac “arian y gwaed”
[Mat 26:14–16; Luc 22:3–6]
10A Judas Iscariot, yr hwn oedd un o'r Deuddeg, a aeth ymaith at yr Arch‐offeiriaid, i'w fradychu ef iddynt. 11A phan glywsant, bu lawen ganddynt, ac a addawsant roddi arian iddo#Zech 11:12. Ac efe a geisiodd pa fodd y gallai ar adeg gyfleus ei fradychu ef.
Y Pasc olaf, a'r Swper gyntaf
[Mat 26:17–25; Luc 22:7–18, 21–23; Ioan 13:1–30]
12A'r dydd cyntaf o'r Bara Croyw#14:12 Gwel ad 1., pan yr aberthent y Pasc, ei Ddysgyblion a ddywedant wrtho, I ba le yr wyt yn ewyllysio i ni fyned a pharotoi i ti i fwyta y Pasc? 13Ac y mae efe yn anfon dau o'i Ddysgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Ewch i'r Ddinas, a chyferfydd a chwi ddyn#14:13 Benywod arferent wneyd hyn. yn dwyn ystenaid#14:13 Ysten o glai. o ddwfr: dylynwch ef. 14A pha le bynag yr êl i mewn, dywedwch wrth Feistr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Pa le y mae fy#14:14 fy א B C D L. Gad. A X. ngwest‐ystafell#14:14 Kataluma, y Khan lle y gorphwysai dynion ac anifeiliaid ar eu taith; yna, llety, gorphwysfan, ystafell‐fwyta, [gwel “Ystyriaethau ar Ddiwygiad,” tud. 193]., lle y gwnaf fwyta'r Pasc gyda'm Dysgyblion? 15Ac efe a ddengys i chwi oruwch‐ystafell fawr, wedi ei dodrefnu yn barod: yno parotowch i ni. 16A'i Ddysgyblion a aethant allan, ac a ddaethant i'r Ddinas, ac a gawsant megys y dywedasai efe wrthynt, ac a barotoisant y Pasc. 17A phan ddaeth yr hwyr, y mae efe yn dyfod gydâ'r Deuddeg. 18Ac fel yr oeddynt yn eistedd wrth y bwrdd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un o honoch a'm bradycha i, sef yr#14:18 o'r rhai sydd yn bwyta B. hwn sydd yn bwyta gydâ mi. 19A hwy a ddechreuasant dristâu, a dywedyd wrtho, bob yn un ac un, Ai myfi#14:19 Llawn ystyr y gwreiddiol, Yn sicr nid myfi??#14:19 Ac arall, Ai myfi ydyw? A D X. Gad. א B C L Δ Brnd.. 20Ac efe a#14:20 a atebodd ac A. Gad. א B C D L. ddywedodd, Un o'r Deuddeg: yr hwn sydd yn gwlychu#14:20 Llyth.: yr hwn sydd yn suddo [ei damaid] i'r ddysgl. gyd â mi yn y ddysgl#Salm 41:9. 21Canys#14:21 Canys א B L Al. Ti. [Tr.]. Gad. A C D. Mab y Dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig am dano#Salm 22; Es 53; &c.; ond gwae i'r dyn hwnw, trwy yr hwn y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu! Da fuasai i hwnw pe nas ganesid ef.
Swper yr Arglwydd
[Mat 26:26–30; Luc 22:19, 20; 1 Cor 11:23–25]
22Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a gymmerodd fara#14:22 Neu, dorth., ac wedi iddo fendithio#14:22 Llyth.: dywedyd yn dda; yna, moli, diolch, bendithio, neu ofyn am fendith., efe a'i torodd, ac a'i rhoddodd iddynt, ac a ddywedodd, Cymmerwch;#14:22 bwytewch X. Gad. Holl brif‐ysgr. a Brnd. hwn yw fy nghorff. 23Ac efe a gymmerodd gwpan#14:23 y cwpan A. Gad. א B C D L Brnd., ac a ddiolchodd#14:23 Gwna bendithio alw sylw at ffurff, rhoddi diolch at sylwedd neu gynnwysiad y diolchgarwch., ac a'i rhoddodd iddynt: a hwynt oll a yfasant o hono. 24Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i, o'r Cyfamod#14:24 Diathêkê, o ferf a ddynoda rhanu, yna trefniad dosparthiad meddianau trwy gyfamod neu ewyllys‐weithred. Ystyr y ferf yn yr Hebraeg ydyw, tori, — tori y creaduriaid a laddesid fel arwydd o gadarnhâd y cyfamod (Gen 15:9–18). Ystyr glasurol y gair ydyw ewyllys olaf, Testament; ystyr Feiblaidd, cyfamod (llechau y cyfamod; arch y cyfamod; cyfamod yr enwaediad, &c). Yn nghyfieithiad Saesneg y brenin Iago, cyfieithir y gair yn y T. N. 13 o weithiau yn Destament, ac 20 o weithiau cyfamod. Dywed Esgob Lightfoot y dylid cyfieithu y gair yn Heb 9:15–17, yn Destament, ac yno yn unig, ond credwn mai “cyfamod” yw y goreu yno.#14:24 newydd A P X. Gad. א B C D Brnd., yr hwn sydd yn cael ei dywallt dros#14:24 Neu, ar ran. lawer. 25Yn wir meddaf i chwi, Ni yfaf, na, ddim mwy#14:25 y mae tri negydd yn y gwreiddiol., o gynyrch#14:25 Llyth.: Epil. y winwydden, hyd y dydd hwnw, pan yfwyf ef yn newydd#14:25 Kainos, nid yn newydd yn yr ystyr o gael ei wneuthur yn ddiweddar, ond newydd yn yr ystyr fod elfenau parhaol yn perthyn iddo, yn dal yn ei flas, &c. (cymharer Nefoedd newydd, &c.) yn Nheyrnas Dduw. 26Ac wedi iddynt ganu#14:26 Llyth.: emynu, h. y. ganu mawl mewn emynau neu Salmau. Lled debyg iddynt ganu yn awr yr ail ran o'r Hallel (neu Halleliwia) Iuddewig, sef, Salmau 115; 116; 117; 118. Canent y rhan flaenaf (113; 114) yn nghanol y wledd., hwy a aethant allan i Fynydd yr Olew‐wydd.
Rhag‐fynegiad cwymp y Dysgyblion, a gwadiad Petr
[Mat 26:31–35; Luc 22:31–34; Ioan 13:36–38]
27A'r Iesu a ddywed wrthynt, chwi oll a rwystrir#14:27 Gwel Mat 5:29#14:27 o'm plegyd i y nos hon A. Gad. א B L Brnd.; canys y mae yn ysgrifenedig,
Mi a darawaf y bugail,
A'r defaid a wasgerir ar led#Zech 13:7.
28Ond wedi fy adgyfodi i, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilea. 29Eithr Petr a ddywedodd wrtho, hyd y nod pe rhwystrid pawb, er hyny ni'm rhwystrir i. 30A dywed yr Iesu wrtho, Yn wir meddaf i ti, Tydi, heddyw, y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwywaith#14:30 ddwywaith A B L Brnd. Gad. א C D., a'm gwedi#14:30 Llyth.; a'm gwedi yn hollol. deirgwaith. 31Ond efe a lefarodd yn fwy taer o lawer, Pe gorfyddid i mi farw gydâ thi, ni'th wadaf o gwbl. A'r un modd y dywedasant oll.
Ing Gethsemane
[Mat 26:36–46; Luc 22:39–46; Ioan 18:1, 2]
32Ac y maent yn dyfod i lanerch o'r enw Gethsemane#14:32 Sef, gwasg olew., ac efe a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddio. 33Ac y mae efe yn cymmeryd gydâg ef Petr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd fod mewn dychryn#14:33 Gwel 9:15 ekthambeisthai, gair cyfansawdd yn dynodi, llanw â syndod a dychryn, syfrdanu. ac adfyd#14:33 Efallai o air a ddynoda yn llythyrenol, bod o gartref, teimlo yn unig, yn helbulus, yn adfydus.; 34ac a ddywed wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist#14:34 yn amgylchynedig gan dristwch (perilupos). hyd angeu: aroswch yma a chedwch yn effro#14:34 Gwel 13:34. 35Ac efe a#14:35 Felly B Al. Diw. a ddaeth yn mlaen A C D L Tr. aeth ychydig yn mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddiodd, o bai bosibl, ar fyned heibio o'r Awr oddiwrtho. 36Ac efe a ddywedodd, Abba#14:36 Gair yn yr Aramaeg a'r Caldaeg am Dâd. Rhydd Marc a Phaul gyfieithiad o'r gair (Rhuf 8:15; Gal 4:6); neu, efallai, yn ei ing, defnyddiodd ein Harglwydd y ddau air., Dâd, pob peth sydd bosibl i ti: symud#14:36 Llyth.: dyg heibio. y cwpan hwn oddiwrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. 37Ac y mae efe yn dyfod ac yn eu cael hwy yn cysgu; ac a ddywed wrth Petr, Simon, a wyt ti yn cysgu? oni allit gadw yn effro un awr? 38Byddwch effro, a gweddiwch fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd ewyllysgar, ond y cnawd sydd wan. 39A thrachefn efe a aeth ymaith, ac a weddiodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd. 40A chan#14:40 chan ddyfod drachefn א B L Brnd. Tr. Ti. chan ddychwelyd A C X. ddyfod drachefn, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau#14:40 trymhau C X. Trymhau yn ddirfawr A B L Brnd. yn ddirfawr; ac ni wyddent beth i ateb iddo. 41Ac y mae efe yn dyfod y drydedd waith, ac yn dywedyt wrthynt, Cysgwch o hyn allan#14:41 loipon, am y gweddill (o amser sydd genych i orphwys)., a gorphwyswch: y mae yn mhell oddiwrthyf fi#14:41 apechei, un o'r ymadroddion mwyaf dyrys yn y T. N. Y mae yn ferf anmhersonol, yn marn y rhan fwyaf, gan olygu, Digon yw. Ymddengys fod i'r gair yr ystyr hwn mewn un neu ddwy o enghreifftiau, megys yn Pseud‐Anacreon; ond y mae yr ystyr hwn beth bynag yn hynod o anaml. Yn y Test. Newydd golyga y ferf bwrw ymaith, neu yn mhell. “A'u calon sydd bell” (Mat 15:8); “Heb fod yn mhell oddiwrth y tŷ” (Luc 7:6); “A phan oedd efe eto yn mhell” (Luc 15:20); “Emmaus, pellder o driugain ystad o Jerusalem” (Luc 24:13). Hyn yw y meddwl pan ddefnyddir y ferf mewn modd anhrofianol. Rhai o'r cyfieithiadau o'r gair a gynygir ydynt, “Y mae yr oll drosodd;” “y mae ar ben” (sef, eu cwsg); “y mae yr amser i fyny;” “y mae wedi myned heibio” (sef, ing y Ceidwad); “y mae yn mhell” (sef, Judas), felly yr oedd gan y Dysgyblion ychydig yn rhagor o amser i orphwys; “digon yw” (sef, o'u gwylio gydag ef); “digon yw” (sef, o gwsg a gorphwysdra). Ymadrodd talfyredig ydyw: yn ol ystyr y gair — sefyllfa meddwl Crist — a'r cyd‐destyn, gallem feddwl ei fod yn cyfeirio ato ef. “Mwynhewch gwsg, os bydd amser; am danaf fi, y mae yn mhell oddiwrthyf fi: daeth yr Awr.”; daeth yr Awr: Wele, y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylaw pechaduriaid. 42Cyfodwch, awn; wele, fy mradychwr i wedi agoshâu.
Crist yn cael ei fradychu a'i ddal
[Mat 26:47–56; Luc 22:47–53; Ioan 18:3–11]
43Ac yn ebrwydd, ac efe eto yn llefaru, y mae Judas#14:43 Judas Iscariot A D., un o'r Deuddeg#Salm 41:9. yn dynesu, a chydâg ef dyrfa#14:43 dyrfa א B L Brnd.; dyrfa fawr A C D [o Mat] gydâ chleddyfau a bastynau oddiwrth yr Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'r Henuriaid. 44Ac yr oedd ei Fradychwr ef wedi rhoddi iddynt arwydd‐nod#14:44 sussêmon, cyd‐arwyddnod, arwydd cyd‐gyfranol., gan ddywedyd, Pwy bynag a gusanwyf, hwnw yw efe: deliwch ef, ac arweiniwch ef ymaith yn ddyogel. 45A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac y mae yn dywedyd wrtho, Rabbi#14:45 Neu, Athraw.#14:45 Rabbi א B C D Brnd.; Rabbi, Rabbi, A., ac a'i cusanodd ef yn eofn#14:45 Yn adn 44, defnyddir y ffurf syml cusanu, yma y ffurf gyfansawdd, cusanu yn gynhes, cusanu drachefn a thrachefn.. 46A hwy a roisant#14:46 Llyth.: a fwriasant, gan ddangos trawsder eu hymddygiad.#14:46 eu dwylaw A C. Gad. eu א B D L. ddwylaw arno, ac a'i daliasant. 47Ac un o'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl a dynodd ei gleddyf, ac a darawodd was#14:47 Llyth.; caethwas. yr Arch‐offeiriad, ac a dorodd#14:47 Llyth.: gymmerodd ymaith. ymaith ei glust ef. 48A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megys yn erbyn yspeiliwr y daethoch allan, gydâ chleddyfau, a bastynau, i'm cymmeryd i? 49Yr oeddwn i beunydd#14:49 Neu, ddydd ar ol dydd. gydâ chwi yn y Deml yn dysgu, ac ni'm daliasoch: ond hyn a wnaed fel y cyflawnid yr Ysgrythyrau. 50A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoisant. 51A rhyw wr ieuangc oedd yn cyd‐ganlyn#14:51 cyd‐ganlyn א B C L Brnd. canlyn D. gydâg ef; wedi ymwisgo#14:51 Llyth.: wedi taflu am dano. mewn cwrlid o lian#14:51 Sindon, llian main a gwerthfawr, wedi cael ei wneyd, nid fel y dywed rhai yn Sidon, ond yn Sind neu India, yr hon wlad a roddodd yr enw iddo. Defnyddid ef fel amwisg am y meirw, &c. (Mat 27:59; Marc 15:46; Luc 23:53). costfawr ar ei gorff noeth; a hwy#14:51 gwyr ieuaingc A. Gad. א B C D Brnd. a'i daliasant ef. 52Ac efe a adawodd y cwrlid o lian costfawr, ac a ffodd yn noeth#14:52 oddiwrthynt A D. Gad. א B C L..
Crist o flaen y Cynghor; y cam‐gyhuddwyr
[Mat 26:57–68; Luc 22:66–71]
53A hwy a arweiniasant ymaith yr Iesu at yr Arch‐offeiriad#14:53 Sef, Caiaphas.; a'r holl Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion ydynt yn dyfod ynghyd ato ef. 54A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd tu fewn i Lŷs#14:54 Y neuadd dufewnol (weithiau yn agored i'r awyr, heb nen‐fwd), yr hon a amgylchynid gan yr ystafelloedd, y rhai a ffurfient Balasdŷ yr Arch‐offeiriad, y Rhaglaw, &c. yr Arch‐offeiriad: ac yr oedd efe yn cyd eistedd gyda'r is‐swyddogion; ac yn ymdwymno wrth#14:54 Llyth.: tu ag at. Efe a drodd tu ag at y tân. oleu y tân. 55A'r Arch‐offeiriaid a'r holl Gynghor#14:55 Sanhedrin. oeddynt yn ceisio tystiolaeth yn erbyn yr Iesu, er ei roddi i farwolaeth, ond nid oeddynt yn ei chael. 56Canys llawer a ddygasant gam‐dystiolaeth yn ei erbyn ef: ac nid oedd eu tystiolaeth hwy yn gyson#14:56 Llyth.: yn gyfartal, yna, yn cyduno.#Salm 35:11. 57A rhai a gyfodasant, ac a ddygasant gam‐dystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd, 58Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, Mi a doraf#14:58 Neu, mi a ddatodaf. i lawr y Cysegr hwn, o waith llaw, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw#14:58 Gwel Ioan 2:19–21.. 59Ac nid oedd hyd y nod eu tystiolaeth hwy yn gyson#14:59 Llyth.: yn gyfartal, yna, yn cyduno.. 60A chyfododd yr Arch‐offeiriad yn#14:60 Neu, i'r. y canol, ac a ofynodd i'r Iesu, gan ddywedyd, Oni atebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn dystiolaethu yn dy erbyn? 61Ond efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr Arch‐offeiriad a ofynodd iddo, ac a ddywed wrtho, Ai Tydi yw y Crist, Mab y Bendigedig#14:61 Duw fel gwrthrych moliant. “Y Bendigedig Dduw,” (1 Tim 1:11) fel yn dragywyddol ddedwydd ynddo ei hun. Y mae y gofyniadau yma megys yn seiliedig ar Salm 2 [2, 7].? 62A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu#Salm 110:1, ac yn dyfod gyd â chymylau y Nefoedd#Dan 7:13. 63A'r Arch‐offeiriad a rwygodd ei wisgoedd#14:63 Chitôn, is‐wisg, ni wisgai ar y pryd ei wisgoedd swyddogol., ac a ddywed, Pa raid i ni bellach wrth dystion? 64Chwi a glywsoch y cabledd; beth dybygwch chwi#14:64 Llyth.: beth a ymddengys i chwi?? A hwynt oll a'i condemniasant, ei fod yn euog#14:64 Gwel Mat 5:21. o farwolaeth#Lef 24:15, 16; Salm 94:21.
65A rhai a ddechreuasant boeri arno, a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio, a dywedyd wrtho, Proffwyda. A'r is‐swyddogion a'i derbyniasant#14:65 tarawsant [llyth.: taflasant] H. derbyniasant, yr holl brif‐law. ysg. ef i'w cadwraeth, gan ei daro#14:65 Llyth.: gyd âg ergydion: naill ai ffyn neu gledr eu dwylaw a ddefnyddient..
Cwymp Petr
[Mat 26:69–75; Luc 22:54–62; Ioan 18:15–18, 25–27]
66a phan yr oedd Petr i lawr yn y Llŷs, y mae un o forwynion#14:66 Llyth.: forwynion ieuaingc. yr Arch‐offeiriad yn dyfod: 67a phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywed, A thithau oeddit gyd â y#14:67 Felly B C L Al. Ti. Tr. WH. Diw. Yr Iesu o Nazareth א A D. Nazarëad, sef Iesu. 68Ond efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid ydwyf yn gwybod nac yn deall beth yr wyt yn ei ddywedyd#14:68 Neu, Nid ydwyf yn gwybod nac yn deall: tydi, pa beth wyt yn ei ddywedyd?. Ac efe a aeth allan i'r rhag-gyntedd#14:68 Proaulion, y cyntedd nesaf allan, sef, y porth hir a llydan a arweiniai o'r Llŷs i'r heol., [a'r ceiliog a ganodd]#14:68 a'r ceiliog a ganodd A C D Al. Ti. Tr. Diw. Gad. א B L WH.. 69A'r forwynig a'i gwelodd drachefn, ac a ddechreuodd lefaru wrth y rhai a safent yn ymyl, Y mae hwn yn un o honynt. 70Ond efe a wadodd drachefn. Ac yn mhen ychydig, drachefn y rhai a safent yn ymyl a ddywedasant wrth Petr, Mewn gwirionedd, yr wyt ti yn un o honynt: canys hyd y nod Galilëad wyt,#14:70 a'th leferydd sydd debyg A. Gad. א B C D L Brnd.. 71Ond efe a ddechreuodd regu#14:71 Llyth.; diofrydu i ddystryw, galw i lawr felldith ar ddyn ei hun. a thyngu, Nid adwaen y dyn hwn yr ydych yn dywedyd am dano. 72Ac yn#14:72 Felly B D L Brnd. A'r ceiliog a ganodd yr ail waith A C. ebrwydd y canodd y ceiliog yr ail waith. A Phetr a gofiodd y gair a ddywedasai yr Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith#14:72 ddwywaith A B L Brnd. Gad. א C., ti a'm gwedi deirgwaith. A phan ystyriodd#14:72 Llyth.: taflu ar. Nid (1) taflu ei lygaid ar Iesu, na'i (2) fantell am ei ben; na (3) gan ruthro allan o'r Llŷs, efe a daflodd ei hun ar rywbeth i wylo: Ond efe a daflodd ei feddwl ar ddywediad Crist, h. y. efe a'i hystyriodd yn ddifrifol., efe a wylodd.
Dewis Presennol:
Marc 14: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.