Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthew 6

6
Am gyfiawnder: Elusengarwch.
1Gochelwch rhag gwneuthur eich#6:1 Cyfiawnder א B D Brnd.; elusen Z L, 33. cyfiawnder#6:1 Dikaiosunê, cyfiawnder, gweithredoedd da. Mae hwn yn bennawd cyffredinol, ac yn cynnwys (1), gwneyd elusen; (2), gweddio; (3), ymprydio — dyledswyddau yr ymdrinir â hwy yn ol llaw. gerbron dynion, er mwyn eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch wobr gan eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd. 2Am hyny, pan wnelych elusen, na udgana o'th flaen, fel y gwna y rhagrithwyr yn y synagogau, ac yn yr heolydd, fel y canmoler hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr. 3Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy y peth a wna dy law ddehau: 4fel y byddo dy elusen#6:4 Neu elusengarwch, “fel y byddo dy elusengarwch yn cael ei hymarfer yn y dirgel.” yn y dirgel: a'th Dâd, yr hwn a wêl yn y dirgel a dâl i ti.#6:4 Neu a lawn dâl.#6:4 Yn yr amlwg L X; Gad. א B D Z Brnd.
Am weddio.
[Luc 11:1–4]
5A#6:5 A phan weddioch, ni fyddwch, Δ B Z Brnd.: a phan weddiot, ni fyddi, D L X. phan weddioch, ni fyddwch fel y rhagrithwyr, canys hwy a hoffant sefyll i weddio yn y synagogau ac yn nghonglau y prif heolydd#6:5 Plateia, heol ledan, neu bedrongl (square). fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr. 6Ond tydi, pan weddiot, dos i'th ystafell#6:6 Yn enwedig, ystafell ddirgel.; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yn y dirgel, a'th Dâd, yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti#6:6 Gwel adn. 4. 7A phan weddioch, nac ail adroddwch wag‐eiriau#6:7 Battologeô, attal dywedyd — gair wedi ei ddyfeisio yn lled debyg, mewn efelychiad o rai nas gallent siarad heb gecian, ac felly a ail‐ddywedent eu geiriau, y rhai fyddent yn fynych heb synwyr; felly, golyga baldorddi, clebran, gwag‐siarad, ail‐adrodd gwag‐eiriau., fel y cenedloedd: canys y maent yn tybied y cânt eu gwrandaw yn eu haml eiriau#6:7 Llyth.: Mawr siarad.. 8Na fyddwch, gan hyny, debyg iddynt hwy; canys gwyr#6:8 Duw eich Tad. א B. Eich Tad, D Z L. Rhan fwyaf o'r Brnd. Duw eich Tâd pa bethau sydd arnoch eu heisiau cyn gofyn o honoch iddo. 9Am hyny, gweddiwch chwi fel hyn:—
Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd,
Sancteiddier dy enw.
10Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys, megys yn y nef, felly ar y ddaear.
11Dyro i ni heddyw ein bara cyfreidiol#6:11 Y mae llawer o ymddadleu wedi bod yn nghylch (1) tarddiad, ac, o ganlyniad (2) ystyr y gair epiousios, yr hwn a gyfieithir “beunyddiol.” Y mae cynnifer o ysgolheigion addfed yn ffafriol i esponiadau gwahanol, fel y mae braidd yn anmhossibl penderfynu pa un yw y gwir ystyr. Y gwreidd‐air, yn ol rhai, yw (1) Epion, yr hyn sydd yn dyfod, neu agoshau, yfory (Act 16:11; 20:15 &c.). Felly golyga y gair, nid heddyw, ond y dydd sydd yn dyfod, yfory, &c. Yn ol ereill, daw o (2) epi, ac ousia. Yr olaf yn golygu natur, sylwedd, bodolaeth. Felly, yr ystyr yw, bara ein bodolaeth, bara er ein cynnaliaeth. Ereill a gyfieithant y ddau air fel Jerome, uwchlaw natur, hyny yw, rhagorol, gwell na phob sylwedd; ac felly dynoda Grist — Bara y Bywyd. Ereill a gredant ei fod yn deilliaw o epi ac on, bod yn bresennol, neu, wrth law. Felly, yr hen gyfieithiad Lladinaidd yw, quotidianum, heddyw, &c. Felly, cawn, yn mhlith ereill, yr ystyron canlynol:— (1) Y dydd nesaf, yfory, y dyfodol. (2) Presennol, parhaus, gwastadol. (3) Angenrheidiol, cyfreidiol. (4) Ar gyfer ein natur, addas i'n cynnaliaeth. (5) Heddyw. (6) Uwchlaw natur, rhagorol, uwch sylweddol Tueddwn i fabwysiadu (3) neu (4) o'r uchod — ein bara angenrheidiol, bara ein cynnaliaeth..
12A maddeu i ni ein dyledion, fel yr ydym ninau hefyd#6:12 Wedi maddeu א B Z Brnd. Yn maddeu, G. wedi maddeu i'n dyledwyr.
13Ac na ddwg ni i brofedigaeth.
Eithr gwared ni oddiwrth yr Un Drwg.#6:13 Sef y Diafol. Rhai a gyfieithant “rhag drwg,” sef drygioni moesol; ond, a barnu oddiwrth ddefnyddiad y gair mewn rhanau ereill o'r T.N., diamheu y cyfeiria yma at yr un drwg. Gweler 5:37; 13:19; Ioan 17:15; 1 Ioan 2:13; 3:8–12; Rhuf 16:20; Eph 6:16; 2 Thess 3:3. Hefyd, y mae yr arddodiad a ddefnyddir (apo) yn ffafriol i'r cyfieithiad hwn.#6:13 Canys eiddot ti yw y deyrnas, a'r gallu, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen. L, 33. Cyf. Syr. Gad. א B D Z Brnd. Lled debyg i'r geiriau hyn gael eu trosi o fawl‐wersi yr Eglwys foreuol.
14Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad Nefol a faddeu hefyd i chwithau; 15eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad ychwaith eich camweddau chwithau.
Am ymprydio.
16A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wynebdrist#6:16 Neu o wedd surllyd. Golyga y gair, sarug, anhyfwyn, sur, trist., canys anffurfiant#6:16 Aphanizo; llythyrenol, peru i ddiflanu o'r golwg (a gyfieithir difa yn adnodau 19 a 20), “Canys hwy a ddileant, neu a guddiant eu gwynebau gwirioneddol.” eu gwynebau, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr. 17Ond tydi, pan ymprydiot, eneinia dy ben, a golch dy wyneb; 18fel nad ymddangosot i ddynion yn ymprydio, ond i'th Dad, yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dad, yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti.#6:18 Yn yr amlwg. Δ E. Gad. א B D Brnd.
Am gyfoeth gau a gwirioneddol.
19Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata. 20Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y Nef, lle nad oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nis cloddia lladron trwodd, ac nis lladratant. 21Canys lle y mae dy drysor, yno y bydd dy galon hefyd.
Y llygad da a drwg.
22Lamp y corff yw y llygad: am hyny o bydd dy lygad yn syml#6:22 Unplyg, da, iach, dy holl gorff fydd yn ddysglaer. 23Eithr, os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hyny, os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa gymmaint y tywyllwch!
Am bryder.
[Luc 12:22–32]
24Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasha y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a ddiystyra y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon#6:24 Mamon (hytrach nâ mammon), yn debyg o'r Caldaeg, yn golygu trysor, golud. Yma ca golud, neu oludgarwch, ei bersonoli.. 25Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, na fyddwch bryderus am eich bywyd, pa beth a fwytaoch neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r dillad. 26Edrychwch ar ehediaid y nefoedd, nad ydynt yn hau nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad Nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? 27A phwy o honoch trwy fod yn bryderus a ddichon chwanegu un cufydd at hyd ei einioes#6:27 Hêlikia a olyga (1) oedran addfed (Homer, Ioan 9:21, 23), hyd einioes, (2) corpholaeth (Luc 2:52; 19:3). Ei ystyr yma ydyw, nid “maintioli corff,” ond “parhad einioes,” a hyn yw barn y dysgedigion Hamond, Wolf, Rosenmuller, Olshausen, De Wette, Meyer, Stier, Tholuck, &c. Pe buasai Iesu yn llefaru am daldra corff, ni fuasai yn defnyddio cufydd — tua throedfedd a hanner. Mae Efe yn siarad am yr hyn y mae dynion yn gyffredinol yn ei ddymuno, ac nid yw dynion yn gyffredinol yn chwennych chwanegu troedfedd a hanner at eu maintioli. Hefyd, cymherir bywyd yn fynych i “yrfa,” ac ni fyddai cufydd ond rhan fechan iawn o'r dromos hwn.? 28A phaham y pryderwch yn nghylch dillad? 29Ystyriwch lili y maes, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; 30eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn. Ac os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac yfory a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd? 31Gan hyny, na fyddwch bryderus, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn? 32Canys yr holl bethau hyn y mae y cenedloedd yn eu ceisio; oblegyd gwyr eich Tad Nefol fod arnoch eisiau yr holl bethau hyn. 33Eithr ceisiwch yn gyntaf ei Deyrnas#6:33 Ei deyrnas a'i gyfiawnder ef, א Ti. WH. Diw.; ei gyfiawnder a'i deyrnas ef, B.; Teyrnas Dduw, &c., L Δ Al. a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. 34Gan hyny, na fyddwch bryderus gyda golwg ar dranoeth: canys tranoeth a fydd bryderus am dano ei hun. Digon i bob diwrnod ei ddrwg ei hun.

Dewis Presennol:

Matthew 6: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda