Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthew 4

4
Temtiad Crist yn yr Anialwch.
[Marc 1:12, 13; Luc 4:1–13]
1Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i'r Anialwch gan yr Yspryd, i'w demtio gan y Diafol.#4:1 O'r Groeg, Diabolos, enllibwr, cyhuddwr, cablwr, enw a ddefnyddir yn wastad yn y rhif unigol pan y dynoda bennaeth y cythreuliaid. Defnyddir ef am Judas, ac yn y rhif lluosog am enllibwyr, 1 Tim 3:11 2Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, o'r diwedd efe a newynodd. 3A'r Temtiwr a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, llefara fel y byddo i'r cerryg hyn ddyfod yn dorthau. 4Ond efe a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yn ysgrifenedig,#4:4 Gegraptai; y mae y ferf yn yr amser perffaith, a golyga, Ysgrifenwyd, ac y mae yr hyn a ysgrifenwyd yn sefyll heddyw.
“Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn,
Ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.”#Deut 8:3
5Yna y mae y Diafol yn ei gymmeryd ef i'r Ddinas Sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl#4:5 Pterugion, aden, canllaw, mur. y Deml,#4:5 Hieron. Defnyddir dau air a gyfieithir teml, sef hieron, yr hwn a saif am yr holl adeilad, yn cynnwys y cynteddoedd a'r ambarthau; a naos, yr hwn a ddynoda y Cyssegr, sef, y Lle Sanctaidd, a'r Sanctaidd Sancteiddiolaf. 6ac a ddywed wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr, canys y mae yn ysgrifenedig,#4:6 Gegraptai; y mae y ferf yn yr amser perffaith, a golyga, Ysgrifenwyd, ac y mae yr hyn a ysgrifenwyd yn sefyll heddyw.
“I'w angylion y rhydd efe orchymyn am danat;
Ac ar eu dwylaw y'th ddygant,
Rhag taro o honot un amser dy droed wrth garreg.”#Salmau 91:11, 12
7Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Drachefn y mae yn ysgrifenedig,#4:7 Gegraptai; y mae y ferf yn yr amser perffaith, a golyga, Ysgrifenwyd, ac y mae yr hyn a ysgrifenwyd yn sefyll heddyw.
“Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.”#Deut 6:16; 10:20
8Drachefn y cymmer y Diafol ef i fynydd uchel iawn, ac a ddengys iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant; 9ac a ddywedodd wrtho, Y rhai hyn oll a roddaf i ti os syrthi i lawr a'm haddoli I. 10Yna y dywed yr Iesu wrtho, Ymaith#4:10 Ymaith, א B C., Brnd. Ymaith, neu Dos, yn fy ol i. D L., Satan,#4:10 Y ffurf Hebreig, a dynoda y gair, gwrthwynebwr. canys y mae yn ysgrifenedig,#4:10 Gegraptai; y mae y ferf yn yr amser perffaith, a golyga, Ysgrifenwyd, ac y mae yr hyn a ysgrifenwyd yn sefyll heddyw.
“Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,
Ac efe yn unig a wasanaethi.”#Deut 6:13
11Yna y mae y Diafol yn ei adael ef; ac wele, angelion a ddaethant, ac a weiniasant#4:11 Llawn ystyr y ferf ydyw, Ac yr oeddynt yn gweini iddo. iddo.
Y Goleuni mewn tywyllwch.
[Marc 1:14, 15; Luc 4:14]
12A phan glybu#4:12 Yr Iesu, P L. Gad. א B C D., Brnd. efe draddodi Ioan, efe a giliodd i Galilea; 13a chan adael Nazareth, efe a ddaeth ac a ymgartrefodd yn Nghapernäum, yr hon sydd wrth y môr, yn nghyffiniau Zabulon a Naphtali: 14fel cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd,
15“Tir Zabulon, a thir Naphtali,
Ger#4:15 Llyth., Ar ffordd y mor. y mor, tuhwnt i'r Iorddonen,
Galilea y Cenedloedd:
16Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr,
Ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angeu, goleuni a gyfododd iddynt.”#Es 9:1, 2
17O'r pryd hwnw y dechreuodd yr Iesu bregethu#4:17 Kerussein, cyhoeddi fel cenad. Cyfieithir gair arall, euaggelizein, pregethu, ystyr yr hwn yw mynegu newyddion da., a dywedyd, Edifarhewch, canys y mae Teyrnas Nefoedd wedi neshau.
Galwad cyntaf y Dysgyblion.
[Marc 1:16–20; Luc 5:1–11]
18Ac#4:18 A'r Iesu, L. Gad. א B C D yn rhodio wrth For Galilea, efe a welodd ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw taflrwyd#4:18 Amphiblestron: Llyth., Yr hyn a deflir oddiamgylch, Saesneg, casting‐net. i'r mor; canys pysgodwyr oeddynt. 19Ac efe a ddywed wrthynt, Deuwch ar fy ol I, ac mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion. 20A hwy yn ebrwydd a adawsant y rhwydau, ac a'i canlynasant ef. 21Ac wrth fyned rhagddo oddiyno, efe a welodd ddau frodyr ereill, Iago, mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio#4:21 Neu parotoi, trefnu. Ni olyga y gair, o angenrheidrwydd, cyweirio. eu rhwydau; ac efe a'u galwodd hwynt. 22Ac yn ebrwydd gadawsant y cwch a'u tad, ac a'u canlynasant ef.
Crist yn pregethu ac yn iachau.
23A'r Iesu a aeth o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith y bobl. 24A'r son am dano a aeth allan trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, y rhai a ddelid gan amrywiol glefydau a doluriau, y rhai a feddiannid gan gythreuliaid, y rhai lloerig, a'r rhai parlysig; ac efe a'u hiachaodd hwynt. 25A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilea, o Decapolis, o Jerusalem, o Judea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.

Dewis Presennol:

Matthew 4: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd