Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthew 19

19
Crist yn myned i Judea, ac yn iachau clefydau.
1A bu, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i gyffiniau Judea, y tu hwnt i'r Iorddonen. 2A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.
Cyssegredigrwydd Priodas.
[Marc 11:10–12]
3A daeth Phariseaid#19:3 Phariseaid B C L Δ Brnd. ond Ti.; Y Phariseaid א D E Ti. ato, gan ei demtio, a dywedyd#19:3 wrtho D; gad. א B C L Brnd., A ydyw gyfreithlawn i ddyn ysgar#19:3 Neu ddodi ymaith. â'i wraig am bob achos? 4Ac efe a atebodd ac a ddywedodd#19:4 wrthynt C; gad. א B D L Brnd., Oni ddarllenasoch i'r hwn a'u creodd#19:4 a'u gwnaeth; א C D Z Al. Ti. Diw.; a'u creodd B Tr. WH. hwynt o'r dechreu eu gwneuthur hwy yn wrryw a banyw#Gen 1:27. ac a ddywedodd, 5Oblegyd hyn y gâd dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a'r ddau a fyddant un cnawd#Gen 2:24; 6fel nad ydynt mwyach yn ddau, ond un cnawd. Yr hyn, gan hyny, a gyssylltodd#19:6 Llyth., a ieuodd. Duw, na wahaned dyn. 7Y maent hwythau yn dywedyd wrtho, Paham, gan hyny, y gorchymynodd Moses roddi iddi ysgrif#19:7 Llyth., llyfr (ysgrif dyddimiad priodas). ysgar, a'i gollwng ymaith?#Deut 24:1 8Ac efe a ddywed wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd#19:8 Sklêros, caled, garw, chwerw, ystyfnig (geiriau celyd, gwyntoedd geirwon, &c.), o wreiddair a ddynoda sychu i fyny. eich calonau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd. Ond o'r dechreu nid oedd felly. 9Eithr meddaf i chwi, Pwy bynag a ysgaro â'i wraig, nid#19:9 nid am odineb א C Z Ti. Tr. WH. Al.; heblaw o achos godineb B D La. am odineb, ac a briodo un arall, y mae yn gwneuthur godineb; [ac#19:9 felly B C Z La. [Tr.] Diw.; gad. א D Ti. Al. WH. [gweler Luc 16:18] y mae yr hwn a briodo yr hon a ysgarwyd yn gwneuthur godineb.] 10Ei Ddysgyblion a ddywedant wrtho, Os felly y mae yr achos rhwng gwr a gwraig, nid buddiol priodi. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid pawb sydd yn derbyn#19:11 Llyth., a roddant le, yna cymmeryd at, cymmeryd i ystyriaeth, ymarferyd. y gair hwn, ond y rhai y mae wedi ei roddi iddynt. 12Canys y mae eunuchiaid y rhai a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion; ac y mae eunuchiaid a wnaethant eu hunain yn eunuchiaid er mwyn Teyrnas Nefoedd. Yr hwn a ddichon dderbyn, derbynied.#19:12 “Yr hwn a ddichon roddi lle i'r dywediad, rhodded.”
Plant yn derbyn bendith.
[Marc 10:13–16; Luc 18:15–17]
13Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y gosodai ei ddwylaw arnynt, ac y gweddiai; ond y Dysgyblion a'u ceryddasant hwynt. 14Eithr yr Iesu a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain, ac na rwystrwch hwynt i ddyfod ataf fi, canys eiddo y cyfryw rai yw Teyrnas Nefoedd. 15Ac efe a osododd ei ddwylaw arnynt, ac a aeth ymaith oddiyno.
Y Llywodraethwr hunan‐gyfiawn
[Marc 10:17–22; Luc 18:18–23]
16Ac wele un a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Athraw#19:16 Athraw Da C Δ; Athraw א B D L Brnd., Pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragwyddol? 17Ac efe a ddywedodd wrtho, Paham#19:17 Felly א B D L Brnd.; Paham y gelwi fi yn dda? C Δ [o Marc 10:18 a Luc 18:19] yr ymofyni â mi yn nghylch y Da? Un#19:17 Un yw y Da (neu, Nid oes ond Un sydd dda) א B D L Brnd.; Nid da neb ond un, Duw C Δ [gweler Marc a Luc] yw y Da#19:17 Y mae y Da, nid mewn pethau, ond yn ffynnonellu ac yn ymgartrefu yn yr un Person Dwyfol.; ond, os ewyllysi fyned i fewn i'r bywyd, cadw y gorchymynion. 18Yntau a ddywed wrtho, Pa rai#19:18 Llyth., o ba natur?? Yr Iesu a ddywedodd, Hwn,
Na lofruddia,
Na odineba,
Na ladrata,
Na chamdystiolaetha,
19Anrhydedda dy dad a'th fam,
ac,
Câr dy gymmydog fel ti dy hun.#Ex 20:12–17; Lef 19:18
20Y gwr ieuanc a ddywed wrtho, Y rhai hyn oll a gedwais#19:20 O’m hieuenctyd C D [gweler Marc 10:20]; gad. א B L Brnd.; yn mha beth etto wyf ddiffygiol#19:20 Llyth., ar ol.? 21Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith#19:21 Teleios, wedi dyfod i ben, gorphenedig, diddiffyg, dyfod i lawn dwf., dos, gwerth dy eiddo, a dyro i'r tlodion, a thi a gei drysor yn y Nefoedd; a thyred, canlyn fi. 22A phan glybu y gwr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd iddo feddiannau lawer.
Peryglon cyfoeth.
[Marc 10:23–27; Luc 18:24–27]
23A'r Iesu a ddywedodd wrth y Dysgyblion, Yn wir, meddaf i chwi, Yn anhawdd yr ä goludog i fewn i Deyrnas Nefoedd. 24A thrachefn meddaf i chwi, Rhwyddach yw i gamel#19:24 Gweler Marc 10:25 fyned i fewn drwy grai y nodwydd nag i oludog fyned i fewn i Deyrnas Dduw#19:24 Dduw א B C D WH.; Nefoedd Z 1 33 Al. La. Ti. Tr.. 25A phan glybu ei Ddysgyblion, hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy, gan hyny, a all fod yn gadwedig? 26A'r Iesu a edrychodd ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion hyn sydd anmhossibl, ond gyda Duw pob peth sydd bossibl.
Y wobr o ganlyn Crist.
[Marc 10:28–31; Luc 18:28–30; 22:28–30]
27Yna Petr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, ni a adawsom bob peth ac a'th ganlynasom di; pa beth, gan hyny, a fydd i ni? 28A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Cewch chwi, y rhai a'm canlynasoch I yn yr Ail‐enedigaeth#19:28 Paliggenesia, llyth., adgenedliad; yr adenedigaeth Gristionogol wedi ei pherffeithio neu ei chwblhau yn adeg adferiad pob peth [Act 3:21] Fel y golyga sancteiddhad y weithred ddechreuol, a hefyd lwyr‐orpheniad y gwaith, felly golyga adenedigaeth yma berffeithiad a gogoneddiad y bywyd ysprydol. Yn ol ereill (1) yr adenedigaeth; (2) adgyfodiad y corff; (3) y Farn ddiweddaf; (4) adferiad y byd., pan eisteddo Mab y Dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd eich#19:28 eistedd eich hunain א D Z L Ti. Tr.; eistedd B C Al. WH. Diw. hunain hefyd ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. 29A phob un a'r a adawodd frodyr#19:29 Y mae llawer o wahaniaeth darlleniadau yn y llawysgrifau; ond darllena אa C L tai ar ol tiroedd; gad. tai allan gan א, ac neu wraig [ar ol neu fam] gan B D L Ti. Tr. Al. WH., neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu blant, neu diroedd, neu dai, er mwyn fy enw I, a dderbynia lawer#19:29 lawer mwy B L Brnd. ond Diw.; gan’ cymmaint א C D Diw. mwy, ac a etifedda fywyd tragwyddol. 30Ond llawer fyddant olaf sydd flaenaf, a blaenaf sydd olaf.

Dewis Presennol:

Matthew 19: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda