Ioan 4
4
Crist yn ymddiddan â gwraig o Samaria: y dwfr bywiol.
1Pan wybu yr#4:1 yr Arglwydd A B C L Brnd. ond Ti.; yr Iesu א D. Gadewir allan hefyd nag yn A B L G, ond y mae yn anhawdd gwybod pa fodd y gellir gwneuthur synwyr heb y gair. Barna Hort fod y Testyn wedi ei lygru. Arglwydd gan hyny glywed o'r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddysgyblion nag Ioan#4:1 Neu, … glywed o'r Phariseaid, Y mae yr Iesu yn gwneuthur, &c. Ni chyfeiria Ioan o gwbl at Saduceaid., 2(ac eto yr Iesu ei hun ni fedyddiasai, ond ei Ddysgyblion a wnaethent), 3efe a adawodd Judea, ac a aeth ymaith drachefn#4:3 drachefn א C D L Ti. Tr. Al. i Galilea. 4Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned drwy Samaria. 5Y mae efe yn dyfod gan hyny i ddinas#4:5 Weithiau yn gyfystyr a thref neu bentref, megys Capernaum, &c. yn Samaria, a elwir Sychar#4:5 Yn ol rhai, yr un a Sichem. neu y Nablous presenol; yn ol eraill, yr un ag Askar, tua dwy filltir o Nablous. Ystyr Sychar yw tref feddw (Es 28:1) neu gelwyddog (Hab 2:18)., ger llaw y darn o dir#4:5 Heb. Shechem, rhan, cyfran. a roddodd Jacob i Joseph ei fab#Gen 48:22. 6Ac yno yr oedd ffynon#4:6 pêgê, tarddell, ffynon a gyflenwir gan darddell, yr hon sydd fel rheol ar y gwyneb; phrear yw ffynon yr hon a gloddir neu sydd ddofn; saif hefyd am ddyfrgyst. Defnyddia Ioan yr olaf yn adn 11, 12. Jacob. Yr Iesu gan hyny, wedi diffygio gan y daith, a eisteddodd fel#4:6 Llyth.: felly; yn flinedig, heb rag‐feddwl, fel yr oedd, efe a eisteddodd. yr oedd wrth#4:6 Llyth.: ar. y ffynon: ynghylch y chweched#4:6 Yn ol y cyfrifiad Rhufeinig, chwech yn yr hwyr (gwel Westcott ar Ioan 19), yn ol yr un Iuddewig, canol dydd. awr oedd hi. 7Y mae yn dyfod wraig#4:7 Dywed traddodiad mai ei henw oedd Photina. o Samaria#4:7 Sef talaeth neu diriogaeth Samaria, ac nid y Ddinas. i dynu dwfr. Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Dyro i mi i yfed. 8Canys ei Ddysgyblion ef oeddynt wedi myned ymaith i'r Ddinas i brynu bwyd. 9Gan hyny y dywed y wraig, y Samariad, wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iuddew, yn ceisio genyf fi beth i yfed, a myfi yn wraig o Samaria#4:9 Llyth.: yn wraig, Samariad.? Oblegyd#4:9 Gad. א D, rhai hen gyf. Lladinaidd, Ti. Os yw yr ymadrodd yn bur, y mae yn esboniad o eiddo yr Efengylwr. nid yw Iuddewon yn ymgyfeillachu#4:9 Llyth.: cyd‐ddefnyddio, yna, ymgyfathrachu, bod yn gyfeillgar. â Samariaid#4:9 Gweler ddechreuad yr elyniaeth yn 2 Br 17; a'r adnewyddiad o honi, Ezra 4; Neh 6 pan y dychwelodd yr Iuddewon o'r Gaethglud.. 10Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenasit ti rodd#4:10 dôrea, (yma yn unig yn yr Efengylau) rhodd anrhydeddus, neu werthfawr. Duw, a phwy yw yr hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol. 11Y wraig a ddywed wrtho, Syr#4:11 Llyth.: Arglwydd., nid oes genyt lestr#4:11 Gr. antlêma, y llestr o groen, genau yr hwn a gedwid yn agored gan brenau croes, a'r hwn a ollyngid i lawr gan raff o flew geifr. i dynu dwfr, a'r ffynon sydd ddofn: o ba le gan hyny y mae i ti y dwfr bywiol? 12Ai mwy wyt ti na'n Tâd#4:12 Mynai y Samariaid eu bod yn ddisgynyddion o Joseph trwy Ephraim a Manasseh. Jacob, yr hwn a roddodd i ni y ffynon, ac efe ei hun a yfodd o honi, a'i feibion, a'i anifeiliaid#4:12 Gr. thremmata (yma yn unig yn y T. N.), yr hyn a borthir, yna anifeiliaid dof, megys ychain, defaid, &c. Cynwysa y gair hefyd y caeth‐weision, a lled debyg y golygir hwy yn ogystal â'r anifeiliaid yma.? 13Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pob un ag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn: 14ond pwy bynag a yfo o'r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn sicr yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo a ddaw ynddo yn ffynon#4:14 pêgê eto, tarddfa, ffynonell. o ddwfr yn tarddu#4:14 Llyth.: am greaduriaid byw, llamu, neidio i fyny, yna, ffrydio i fyny. i fyny i fywyd tragywyddol.
Gwir addoliad.
15Y mae y wraig yn dywedyd wrtho, Syr#4:15 Llyth.: Arglwydd., dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na#4:15 na ddelwyf yr holl ffordd [dierchômai, llyth.: dyfod drwy, neu yn groes o'i chartref i'r ffynon] א B Ti. Al. WH. Diw.: na ddelwyf A C D Tr. ddelwyf yr holl ffordd yma i dynu dwfr. 16Dywed yr Iesu wrthi, Dos ymaith, galw dy wr, a thyred yma. 17Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes genyf wr. Dywed yr Iesu wrthi, Da#4:17 Kalôs, yn wych, yn briodol, yn fedrus, deheuig. y dywedaist, Nid oes genyf wr: 18canys pump o wŷr a fu i ti; a'r hwn sydd genyt yr awrhon, nid yw wr i ti: hyn wyt wedi ei ddywedyd yn wirionedd#4:18 Llyth.: yn beth gwir.. 19Dywed y wraig wrtho, Syr#4:19 Llyth.: Arglwydd., yr wyf yn canfod#4:19 theôreô a ddynoda ganfyddiad graddol drwy sylwadaeth a myfyrdod, ac nid gwelediad uniongyrchol. mai proffwyd wyt ti. 20Ein Tadau a addolasant yn y Mynydd#4:20 Gerizim. Yma, yn ol traddodiad y Samariaid, y cyfarfu Abraham â Melchisedec, ac yr offrymodd Isaac. Adeiladwyd y deml ar Fynydd Gerizim tua 400 C.C. a dinystriwyd hi gan John Hyrcanus 130 C.C. hwn#Gen 12:6, 7; 23:18–20; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerusalem y mae y man lle y mae yn rhaid addoli#Deut 12:4–14. 21Dywed yr Iesu wrthi, Cred#4:21 Felly א B C L Brnd. O Wraig, cred fi A D.#4:21 pisteue yw y gwreiddiol, ac a ddynoda weithred ddechreuol ffydd, yr hon sydd i gynyddu a chryfhâu. Dynoda pisteuson (aorist), weithred unigol a pherffaith ffydd, fel ffydd achubol (Act 16:31). fi, O wraig, Y mae awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tâd, nac yn y Mynydd hwn nac yn Jerusalem. 22Chwychwi ydych yn addoli y peth ni wyddoch#2 Br 17:24–41: ninau ydym yn addoli y peth a wyddom; canys yr Iachawdwriaeth sydd o'r Iuddewon#Es 59:16–20. 23Ond y mae awr yn dyfod, ac yn awr y mae hi, pan yr addolo yr addolwyr gwirioneddol#4:23 alêthinos, gwirioneddol, sylweddol, fel yn wrthgyferbyniol i'r ffugiol a'r gau. y Tâd#4:23 Y mae y teitl hwn, Y Tâd, yn nodweddiadol o Efengyl Ioan. mewn yspryd a gwirionedd#4:23 Yr oedd Iuddewiaeth yn addoliad y llythyren: yr oedd Samaritaniaeth yn addoliad y rhanol, yr hwn yn fynych sydd anwir a chelwyddog. Felly, y mae y frawddeg hon yn cyfarfod â gwendid y ddwy grefydd.: canys y mae y Tâd yn wir yn ceisio y cyfryw fel ei addolwyr ef. 24Yspryd#4:24 Pwysleisia y frawddeg ei natur, ac nid ei bersonolrwydd (God is Spirit). yw Duw: a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef addoli mewn yspryd a gwirionedd.
Crist yn cyfaddef ei Fessiayddiaeth.
25Dywed y wraig wrtho, Mi a wn fod y Messia#4:25 Yr Hebraeg am Grist. Galwai y Samariaid y Messia, Hushab, y Dychwelydd. Sylfaenent eu gobaith ar ranau o'r Pentateuch, megys, Gen 3:15; 49:10; Num 24:17; Deut 18:15. yn dyfod (yr hwn a elwir Crist): pan ddelo hwnw, efe a hysbysa i ni bob peth. 26Dywed yr Iesu wrthi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw efe.
27Ac ar hyn y daeth ei Ddysgyblion ef; ac yr oeddynt yn rhyfeddu ei fod ef yn ymddiddan â gwraig#4:27 “Na fydded i wr ymddiddan â gwraig ar yr heol, na, â'i wraig ei hun;” gorchymyn y Rabbiniaid.; ac eto ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi? 28Gan hyny y wraig a adawodd ei dwfr-lestr, ac a aeth ymaith i'r Ddinas, ac y mae yn dywedyd wrth y dynion, 29Deuwch, gwelwch ddyn, yr hwn a ddywedodd i mi yr oll, pa bethau bynag a wnaethum. A all hwn fod y Crist#4:29 Y mae y Groeg mêti fel y Lladin numquid yn dysgwyl yr ateb i fod yn nacaol. Er ei bod yn gobeithio, eto yr oedd darganfyddiad y Messia yn yr Iuddew hwn bron yn ormod i'w gobaith a'i chrediniaeth.? 30A hwy a aethant allan o'r Ddinas, ac yr oeddynt yn dyfod ato ef.
Bwyd Crist a gwaith y Dysgyblion.
31Yn y cyfamser yr oedd ei Ddysgyblion yn ceisio ganddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta. 32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae genyf fi fwyd i'w fwyta nad ydych chwi yn ei adnabod. 33Am hyny yr oedd y Dysgyblion yn dywedyd wrth eu gilydd, A ddygodd neb iddo beth i'w fwyta? 34Dywed yr Iesu wrthynt, Fy mwyd i yw fel y gwnelwyf ewyllys yr hwn a'm danfonodd, a gorphen#4:34 teleioô, dwyn i ben, cwblhâu, perffeithio, dwyn i berffaith derfyniad. Hoff‐air Ioan ac Awdwr yr Epistol at yr Hebreaid. ei waith ef. 35Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac y mae y Cynhauaf yn dyfod? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, a syllwch ar y meusydd eu bod yn wynion i'r Cynhauaf. 36Yn#4:36 Ac A. Gad. א B C D L Brnd. Cysyllter êdê, weithian, eisioes, â'r adnod hon, fel yn y Testyn, ac fel y gwna Ti. WH. barod y mae yr hwn sydd yn medi yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragywyddol; fel y byddo i'r hwn sydd yn hau, a'r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd#4:36 Hyny yw, ar yr un pryd.. 37Canys yn hyn y mae y dywediad yn wir#4:37 Alêthinos, sylweddol: “Canys yn y Cynhauaf ysprydol hwn y mae y dywediad cyffredin yn cael ei sylweddoli.”, Arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi. 38Myfi a'ch danfonais chwi i fedi yr hyn nid ydych wedi llafurio#4:38 Kopiaô, llafurio, trafferthu, ymboeni, gweithio nes diffygio. arno: eraill#4:38 Pawb a barotoisant y ffordd i Grist, ac yn enwedig efe ei hun. Gweler Jos 24:13. sydd wedi llafurio, a chwychwi sydd wedi myned i mewn i'w llafur hwynt.
Ffydd y Samariaid.
39Ac o'r Ddinas hono llawer o'r Samariaid a gredasant ynddo o yherwydd gair y wraig, yr hon a dystiolaethodd, Efe a ddywedodd i mi yr holl bethau a wnaethum. 40Gan hyny pan ddaeth y Samariaid ato ef, yr oeddynt yn atolygu iddo aros#4:40 Golyga yr amser anmhenodol (aorist)eu bod yn dymuno arno i wneyd ei gartref parhaus yn eu plith. gyd â hwynt: ac efe a arosodd yno ddeuddydd. 41A mwy o lawer a gredasant o herwydd ei air ei hun: 42a dywedasant wrth y wraig, Hwyach nid ydym yn credu o herwydd dy ymddiddan#4:42 dy dystiolaeth א D. di; canys yr ydym ni ein hunain wedi ei glywed ef, ac yr ydym yn gwybod mai
Hwn yn wir yw IACHAWDWR#4:42 Felly א B C Brnd.; Iachawdwr y byd, y Crist A D L. Y BYD.
Iachâd mab y swyddog breninol.
43Ac ar ol y ddeuddydd, efe a aeth allan oddi yno#4:43 ac a aeth ymaith A Δ. Gad. א B C D Brnd. i Galilea. 44Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, Nid yw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei dâd‐wlad#4:44 Gwahanol farnau: (1) Galilea Isaf; (2) Nazareth: (3) Galilea yn gyffredinol; (4) Judea. Yr olaf fel tàd‐wlad Crist, ac yn ol y cyd‐destyn yma, yw y mwyaf tebygol. Gweler 7:42. ei hun#Mat 13:57.. 45Pan ddaeth efe gan hyny i Galilea, y Galileaid a'i croesawasant ef, gan eu bod wedi gweled yr oll, pa#4:45 pa bethau bynag [hosa] A B C L Brnd., y rhai א D. bethau bynag a wnaeth efe yn Jerusalem ar#4:45 Llyth.: yn. yr Wyl: canys hwythau hefyd a ddaethant i'r Wyl. 46Efe#4:46 Iesu A Δ. Gad. א B C D L Brnd. a ddaeth gan hyny drachefn i'r Cana yn Galilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw swyddog breninol#4:46 Basilikos, un breninol, h.y. swyddog gwladol neu filwrol, yn perthyn i Lys y Brenin, sef Herod Antipas, yr hwn a elwid yn Frenin, er nad oedd ond Tetrarch (Mat 14:9). Defnyddia Josephus Basilikos am unrhyw berson a wasanaethai yn y Llys. Rhai a farnant mai Chuza (Luc 8:3), eraill mai Manaen (Act 13:1) oedd hwn., yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yn Capernaum. 47Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Judea i Galilea, efe a aeth ymaith ato ef, ac yr oedd yn atolygu iddo ddyfod i waered#4:47 Yr oedd Capernaum yn gorwedd yn iselach mewn ystyr daearyddol nag ucheldiroedd Cana. Yr oedd y ffordd yn ugain milltir., a iachâu ei fab ef: canys yr oedd efe yn mron marw. 48Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrtho, Oni welwch arwyddion a rhyfeddodau#4:48 Ni ddefnyddir rhyfeddodau wrtho ei hun yn y T. N., ni chredwch o gwbl. 49Dywed y swyddog breninol wrtho, Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy mhlentyn bychan. 50Dywed yr Iesu wrtho, Dos dy ffordd: Y mae dy fab yn fyw. Y gwr a gredodd y gair yr hwn a ddywedodd yr Iesu wrtho, ac a aeth i'w ffordd. 51Ac fel yr oedd efe weithian yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant âg ef, ac#4:51 ac a fynegasant א A C D [Al.] [Tr.] [Ti.]. Gad. B L WH. a fynegasant, gan ddywedyd fod ei#4:51 ei blentyn א A B C Brnd.; dy fab D L. “Y mae dy fab yn fyw.” blentyn yn fyw. 52Efe gan hyny a ymofynodd â hwynt yr awr yn yr hon y cafodd dro er gwell#4:52 Gr. kompsoteron eschen, y cafodd fod yn well, yn esmwythach. Daw yr ansoddair o komeô, cymmeryd gofal, gweini ar, yna, trwsio. Felly golyga yr ymadrodd bron yr un peth a'n heiddo ni: Y mae yn dyfod yn mlaen yn wych, yn gwneyd yn rhagorol, yn gwella yn bert, &c. Yma yn unig yn y T.N.. Hwythau gan hyny a ddywedasant wrtho, Doe, yn ystod y seithfed awr, y gadawodd y dwymyn ef. 53Yna y gwybu y tâd mai yn yr awr hono yn yr hon y dywedodd yr Iesu wrtho, Y mae dy fab yn fyw: ac efe ei hun a gredodd, a'i holl deulu. 54A hwn drachefn, yr ail arwydd, a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Judea i Galilea.
Dewis Presennol:
Ioan 4: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.