Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Doethineb 19

19
PEN. XIX.
Marwolaeth yr Aiphtiaid, a llawenydd yr Hebræaid. 18 Y modd y porthwyd yr Hebræaid â sofl-ieir. 17 Bôd pob peth megis yn gydtun yn gwasanaethu i wneuthur daioni i’r duwiol.
1Eithr digter didrugaredd a barhâodd hyd y diwedd i’r annuwolion.
2O blegit efe a ŵydde o’r blaen yr hyn a ddigwydde iddynt hwy: mai wedi iddynt adel iddynt fyned, ai gyrru hwynt yn daer: y bydde edifar ganddynt, ac yr erlidlent hwynt.
3Canys pan oeddynt hwy yn galaru, ac yn ŵylofain wrth feddau y meirw, hwy a ddychymmygasant feddwl ynfyd arall, a’r rhai a yrrasent hwy allan dan ymbil â hwynt [am fyned] y rhai hynny a erlidiasant hwy megis rhai yn ffoi.
4O blegit addas anghenrhaid ai harweiniodd hwynt i’r diwedd hwn, ac a wnaeth [iddynt hwy] anghofio y pethau a ddigwydda­sent, fel y cyflawnent hwy mewn gofid y cystudd yr hwn oedd yn ôl.
5Fel y cae dy bobl trwy brawf adnabod ffordd ryfedd, at y caent hwythau farwolaeth ddieithr.
6O blegit pob creadur yn ei ryw ei hun a luniwyd trachefn o newydd i wasanaethu y gorchymynnion hyn yn nailltuol, sef, cadw dy blant di yn ddiniwed.
7Y cwmwl a gyscododd tros eu gwersyll hwynt, a lle y buase dwfr o’r blaen y gwelid llawr o dîr sych, îe yn y môr coch yr oedd ffordd ddirwystr, a maes yn dwyn gwellt glâs yn y ffrwd chwyrn:
8Trwy yr hon y daeth yr holl genedl [sef] y rhai a amddeffynnodd dy law di, gan weled gwrthiau rhyfedd.
9Fel meirch y porthesid hwynt, ac fel ŵyn y llamment hwy, gan dy foliannu di ô Arglwydd eu gwaredudd hwynt.
10O blegit hwy a gofiasant y pethau a ddigwyddase iddynt yn eu hymdaith, y modd yn lle eppiliaeth anifeiliaid y dygase y ddaiar allan ŵybed, ac y dygase yr afonydd allan lawer o lyffaint yn lle pyscod.
11Yn #Exod.16.13. Num.11.31.ddiweddaf hwy a welsant eppiledd newydd o adar, pan ddygwyd hwynt trwy flŷs i ddymuno bwyd daintaethiol.
12O blegit #Pen.16.2.sofl-ieir a ddaethant o’r môr yn ddiddanwch iddynt hwy: ac ar y pechaduriaid y daeth dialedd.
13Nid heb wneuthur gwrthieu o’r blaen trwy egni taranau: o herwydd yr oeddynt hwy yn heuddu dioddef am eu hanwiredd: o blegit yr oeddynt hwy yn dwyn dygyngâs i’r dieithraid, y rhai hynny ni dderbynient, y rhai presennol nid adwaenet hwy, a’r rhai hyn a gaethiwasant [sef] y dieithraid a wnaethent iddynt hwy ddaioni.
14Ac nid hynny yn vnic, y mae rhyw ragor rhyngthynt hwy: o blegit yn anfodlon-gar yr oeddynt hwy yn derbyn dieithraid.
15Eithr y rhai hyn wedi eu derbyn hwynt yn llawen a gystuddiasant â phoenau aruthrol, y rhai oeddynt gyfrannogion o’r vn gyfraith.
16A’r rhai hyn a darawyd â dallineb fel [y tarawsid] y rhai hynny #Genes.19.11.wrth ddrws y cyfiawn pan geisiodd pob vn y ffordd iw ddrws ei hun, wedi eu hamgylchu hwynt â thywyllwch anferthol.
17O blegit yr elementau a newidiwyd o honynt eu hun yn gyfleus fel y newidia sain cynghanedd mewn psaltring yr henw er bod y swn yn aros bob amser, megis y gellir ystyried wrth edrych yn graff ar y pethau a wnaed.
18Pethau daiarol a droed yn bethau o’r dwfr, a phethau nofiadwy a aethant ar y ddaiar,
19Y tân oedd nerthol yn y dwfr wedi gollwng tros gôf ei rinwedd ei hun, a’r dwfr a anghofiase ei naturiaeth i ddiffoddi.
20Yn y gwrthwyneb ni wnaeth y fflam nac i gnawd yr anifeiliaid llygradwy y rhai a rodient arno, nac i’r hyn oedd o ymborth nefol (fel #Exod.16.14. Num.11.7.iâ tawddadwy o rywogaeth, i doddi) ddarfod.
21Dy bobl a fawrygaist, ac a anrhydeddaist ti ym mhob dim ô Arglwydd: ac ni bu ffiaidd gennit fod gyd â hwynt bob amser, ac ym mhob lle.
Terfyn doethineb Salomon.

Dewis Presennol:

Doethineb 19: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda