Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Doethineb 18

18
PEN. XVIII.
Colofn dân yr Israeliaid. 4 Duw yn ymgeleddu ei bobl ei hun, ac yn difetha eu gelynnion hwynt.
1Eithr i’th sainct di yr oedd #Exod.10.23.goleuad o’r mwyaf, llais y rhai yr oeddynt hwy yn ei glywed, ond nid oeddynt hwy yn gweled eu gwêdd hwynt,
2Ac hwy ai cyfrifasant hwynt yn ddedwydd, am na ddioddefasent hwythau: rhoddasant hefyd iddynt hwy ddiolch am na wnaethant niwed wedi cael cam, a dymunasant faddeuant am amryfaelio â hwynt.
3Am hynny y rhoddaist #Exod.13.21.|EXO 13:21 & 14.24.|EXO 14:24. psal.78.24|PSA 78:24 & 105.39.golofn o dân poeth flaenori yn y daith anhyspys, ac i fôd yn haul diniwed i’r ymdaith barchedic.
4Yr oeddynt hwy yn ddiau yn heuddu bôd heb oleuni, a chael eu carcharu mewn tywyllwch, y rhai a gadwasant dy blant di yng-harch­ar trwy y rhai y rhoddaist anllwgredic oleuad y gyfraith i’r bŷd.
5Pan amcanâsent hwy ladd rhai bychain y sainct, yna trwy vn plentyn yr hwn a fwriesid allan, ac a gadwesid yn gosp, y cymmeraist ymmaith lawer oi plant hwy, ac ai difethaist hwynt ar vnwaith yn y dwfr crŷf.
6Ein tadau ni a gawsant ŵybodaeth am y nôs honno o’r blaen: fel y byddent lawen, am eu bôd yn gŵybod yn ddiogel i ba lwon y credasent.
7Dy bobl di #Exod.14.24.a dderbyniasant iechydwri­aeth y rhai cyfiawn, a’r gelynnion [a dderbyni­asant] ddinistr.
8Canys megis y blinaist ein gwrthwyneb­wŷr, felly y rhoddaist anrhydedd i ni y rhai a elwaist di.
9Sanctaidd blant y rhai daionus a aberthasant yn ddirgel, ac a osodasant gyfraith ddu­wiol yn gydtun, am fôd o’r rhai sanctaid yr vn modd yn gyfrannogion o’r pethau enbyd, ac o’r pethau da a ddeue iddynt hwy, gan flaenori yn canu mawl y tadau.
10Eithr anghysain waedd y gelynnion a ddadseiniodd o’r tu arall: a gresynol lef y plant galarnadus oedd yn cerdded.
11A’r vn fath ddialedd y cydflinwyd #Exod.11.51.(sic.)|EXO 11:5 & 12.29.y gŵâs a’r meister, yr vn pethau yr oedd y gwrêng ar brenin yn eu dioddef.
12Rhai aneirif oedd ganddynt hwy oll wedi meirw ar yr vn-waith o’r vn farwolaeth, fel nad oedd digon o rai byw iw claddu hwynt: canys mewn vn moment y difethwyd eu hiliogaeth anrhydeddusaf hwynt.
13O blegit y rhai a reibiesid, fel na chredent hwy ddim: pan ddifethwyd y cyntaf anedic a gyffessasant, mai plant Duw oedd y bobl.
14O herwydd pan oedd pob peth mewn distawrwydd tawel, a’r nôs wrth ei harferol fu­andra wedi darfod ei hanner:
15Dy holl-alluoc air di a neidioddd i ganol y wlâd ddinistriol yn rhyfel-wr creulon o’r nefoedd, sef o’r gorseddfeudd brenhinawl:
16Gan arwain dy orchymyn diragrith di yn lle cleddyf llym, yr hwn a safodd, ac a lanwodd bôb peth â marwolaeth, ac oedd yn cyffwrdd a’r nefoedd er ei ddescyn i’r ddaiar.
17Yna gweledigaethau breuddwydion aruthrol ai blinasant hwy yn ddisymmwth, ac ofn diattrec a barbâodd.
18Ac wedi bwrw vn i lawr ymma, ac arall accw: hwy a fynegasant am ba achos y buant feirw.
19O blegit y breuddwydion y rhai oeddynt yn eu blino hwynt a arwyddocassent hyn, fel na ddifethid hwynt heb wybod pa ham yr oeddynt yn dioddef niwed.
20Cyffyrddodd profedigaeth angeu weithie a’r rhai cyfiawn hefyd, #Num.16.46.a bu ddinistr ar y dyrfa yn y diffaethwch: ond ni hîr barhâodd y digter.
21O blegit gwr difai a wrthwynebodd ar frŷs yr hwn gan arwain arfau eu swydd ef ei hun, sef gweddi, ac iawn o arogldarth a safodd yn erbyn y llid, ac a ddibennodd y trueni gan ddangos mai dy wâs di oedd efe.
22Ac efe a orchfygodd y dinistrudd nid o gryfder corph, na thrwy waith arfau, eithr â gair y darostyngodd efe yr hwn oedd yn cystu­ddio gan goffau llw, a chyfammod y tadau.
23Canys pan oedd y meirw yn syrthio ar ei gilydd yn dyrrau, efe a safodd yn y canol, ac a dorrodd y digter, ac a rannodd y ffordd yr hon oedd yn myned at y byw.
24O blegit #Exod.28.6.yn y wisc laes yr oedd yr harddwch oll, a gogoniant y tadau yng-herfiad y pedair rhês o feini, a’th fawredd dithe yn y goron am ei ben ef.
25I’r rhai hyn y roddes y dinistrudd le, ac ai hofnodd hwynt: canys digon oedd yn vnic brofi o honynt y digter.

Dewis Presennol:

Doethineb 18: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda