Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 5

5
PEN. V.
1 Ni ddylid gobeitho mewn golud. 7 Nac oedi edifeirwch.
1Nac edrych#Luc.12.15. 19.20.|LUK 19:20. Pen.11.18.|SIR 11:18. Dihar.10.2. Ezec.7.19. Soph.1.18.ar dy olud, ac na ddywet, y mae gennif ddigon i fyw.
2Na ddilyn dy ewyllys dy hun, a’th gryfder dy hun i rodio yn ffyrdd dy galon dy hun.
3Na ddywet, pwy a’m darostwng i o herwydd fyng-weithredoedd, o blegit yr Arglwydd gan ddial a ddial dy draha di.
4Na ddywet, mi a bechais, a pha dristwch fu i mi, o blegit y mae yr Arglwydd yn ymarhous, [eithr] ni faddeu efe i ti.
5Na fydd ry ddifraw o herwydd madde­uant, i chwanegu pechodau ar bechodau.
6Ac na ddywet, aml yw ei drugaredd ef: efe a faddeu luosogrwydd fy mhechodau i.
7O blegit trugaredd a digofaint a fryssia ganddo ef, ai ddigofaint ef a orphywys ar bechaduriaid.
8Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd, ac nac oeda o ddydd i ddydd.
9O blegit yn ddisymmwth y daw digofaint yr Arglwydd a thra y byddech di yn ddifraw i’th ddryllir, a thi a ddifethir yn amser dialedd.
10Nac edrych ar olud anghyfiawn, o blegit ni fuddiant hwy yn amser cospedigaeth.
11Na ymdro gyd â phob gwynt, ac na ddos ym mhob llwybr, felly [y gwna] y pechadur dau dafodioc.
12Bydd ddianwadl yn dy ddeall siccr, a bydded dy ymadrodd di yn gydtun.
13Bydd #Iago.1.19.fuan i glywed pethau da, a bydded dy fywyd mewn gwirionedd, a thraetha atteb iniawn yn ddioddefgar.
14Od oes deall gennit atteb dy gymmydog: ac onid oes, bydded dy law di ar dy safn.
15Yn yr ymadrodd [y mae] gogoniant a gwarth: a thafod dŷn fydd cwymp iddo ef.
16Na alwer di #Lefit.19.16.yn siaradus, ac na chynllwyn a’th dafod.
17O blegit i leidr y mae anniwarthrwydd blin, a damniad drwg i’r ddau dafodiog.
18Na fydd ddiwybod o ddim na mawr na bychan.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda