Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 39

39
PEN. XXXIX.
Cynneddfau y doeth i o Godidawgrwydd gweithredoedd yr Arglwydd 24 Bod pob peth er budd a lles ir duwiol ac er afles a niwed i’r annwiol.
1Hwnnw a gais ddoethineb y rhai oll a fuant gynt, ac a dreulia ei amser yn y prophwydi.
2Efe a geidw eiriau gwŷr enwoc, ac a aiff i drofeuydd dammegion.
3Efe a gais ddirgelwch diharebion, ac a erys yn wastadol yng-haled gwestiwnau dam­megion.
4Efe a wasanaetha ym mysc pendefigion ac a ymddengys yng-ŵydd tywysogion.
5Efe a aiff i wlâd cenhedloedd dieithr, ac a fyn ŵybod pa dda a pha ddrwg sydd ym mysc dynion.
6Efe a rydd ei feddwl ar fyned yn foreu ac yr Arglwydd yr hwn ai gwnaeth ef, ac efe a weddia ger bron y Goruchaf.
7Efe a egur ei enau mewn gweddi, ac a weddia tros ei bechodau.
8Pan fynno yr Arglwydd mawr, efe a lenwir ag yspryt deall,
9Efe a draetha ei eiriau doethion, ac yn ei weddi efe a folianna yr Arglwydd.
10Efe a gyfarwydda ei gyngor, ai ŵybodaeth ef, ac a feddylia am ei ddirgelwch ef.
11Efe a ddengys athrawiaeth ei ddysceidi­aeth, ac a lawenycha yng-hyfraith cyfammod yr Arglwydd.
12Llawer a ganmolant ei synnwyr ef, ac ni’s deleir hi byth:
13[Nid] ymmedu ei goffadwriaeth ef, eithr ei enw a beru yn oes oesoedd.
14Cenhedloedd a fynegant ei ddoethineb ef, a’r #Pen.44.19.gynnulleidfa a draetha ei glôd ef.
15Tra parhao, efe a âd enw gwell na mil [eraill,] ac pan fyddo efe marw efe a bair iddo ei hun glôd.
16Mynegaf etto yr hyn a feddyliais, o blegit yr ydwyf fi mor llawn a’r lleuad yn y llawn lloned.
17Gwrandewch arnafi chwi rai sanctaidd, blodeuwch fel rhosyn wedi ei blannu wrth afon mewn maes.
18A dygwch flodau fel gardd lili, rhoddwch arogl a chênwch fawl,
19Clôdforwch yr Arglwydd am ei holl weithredoedd, gan ganu â gwefusau ac â thelynau, a dywedwch yn eich clôdforedd,
20 # Gen.1.31.|GEN 1:31. Mar.7.37. Holl weithredoedd yr Arglwydd ydynt dda odiaeth, ai holl orchymynnion ef ydynt mewn prŷd: nid rhaid dywedyd beth yw hyn: mewn prŷd y ceisir hyn holl:
21Wrth ei air ef yr oedd y dwfr fel mur, a’r llynnau dyfroedd wrth air ei enau ef.
22Yn ei orchymmyn ef y mae pob dim a ryglydda bodd, a phwy a ddichon lleihau ei iechydwriaeth ef:
23Gweithredoedd pob cnawd ydynt ger ei fron ef, ac ni ellir cuddio dim oi olwg ef.
24Y mae efe yn edrych o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, ac nid oes dim rhyfedd ger ei fron ef,
25Nid rhaid gan hynny dywedyd beth yw hyn: o blegit efe a wnaeth bob peth ir peth y mae yn rhaid wrthynt hwy.
26Ei fendith ef a orchguddia fel afon, ac a ddwfrha y ddaiar fel llif.
27Fel y try efe y dyfroedd yn dir cras-poeth: felly y caiff y cenhedloedd ei ddig ef yn etifeddiaeth.
28Ei ffyrdd ef ydynt iniawn i’r rhai sanctaidd, a thramgwydus i’r anwir.
29Pethau da a grewyd o’r dechreuad i’r rhai da, a phethau niweidwl i bechaduriaid.
30Y pethau #Pen.29.33.(sic.)pennaf o anghenrheidiau bywyd dŷn yw dwfr, tân, a haiarn, a halen, a blawd gwenith, a llaeth, a mêl, a gwîn, ac olew, a dillad.
31Y rhai hyn oll ydynt dda i’r duwiol, felly y troir hwynt yn niwed i’r pechaduriaid.
32Y mae ysprydion a wnaed er dialedd, ac yn eu dig y cryfhaant hwy eu ffrewyllau: yn y diwedd bwy a dywalltant ddigter ac a oste­gant lid yr hwn ai gwnaeth hwynt.
33 # Pen 40.9. Tân a môr, a newyn a marwolaeth, y rhai hyn oll a wnaed er dialedd.
34Dannedd bwyst-filod, ac scorpionau, a gwiberod, a’r cleddyf ydynt yn dial er dinistr ar yr annuwolion.
35Byddant lawer pan gyfodo efe.
36A pharod fyddant hwy ar y ddaiar pan fyddo rhaid wrthynt hwy, a phan ddelo eu hamser nid ant hwy tros y gorchymyn.
37Am hynny yr ymnerthais i o’r dechreuad, ac a feddyliais, ac [ai] gadewais mewn scrifen.
38Holl waith yr Arglwydd ydynt dda, ac hwy a geir wrth bob rhaid yn eu hamser.
39Ni ellir dywedyd, gwaeth yw hyn nâ hyn accw: o blegit cymmeradwy fydd pob vn yn ei amser.
40Am hynny yn awr âr galon oll ac a’r genau, canmolwch a chlodforwch enw yr Arglwydd.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda