Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 38

38
PENN. XXXVIII.
Parch y meddig 19 Galar tros y marw. 24 Doethineb y dyscedic.
1Anrhydedda y meddig ag anrhydedd gweddus iddo, am fod yn rhaid wrtho ef: o blegit yr Arglwydd ai creawdd ef.
2Canys oddi wrth y Goruchaf y daeth meddiginiaeth, ac efe a gaiff ogoniant gan y brenin.
3Gwybodaeth y meddig a dderchafa ei ben ef, ac yng-ŵydd gwŷr mawr y perchir ef.
4Yr Arglwydd a greawdd feddiginiaethau o’r ddaiar, ac ni bydd ffiaidd gan wr call hwynt.
5 # Exod.15.25. Oni wnaed y dwfr yn beraidd â phren, fel yr adwaene dynion ei rinwedd ef:
6Ac efe a roddes wybodaeth i ddynion i gael eu perchi am ei ryfeddodau ef.
7A’r rhai hynny y mae efe yn meddiginiaethu, ac y tynnu ymmaith boen dŷn.
8A’r rhai hynny y gwna yr apothecari eli er hynny weithieu ni orphen efe ei waith o herwydd oddi wrth yr Arglwydd y daw ffynniant ar wyneb y ddaiar.
9Na ddiystyra [hyn] fy mab yn dy glefyd, eithr #Esa. 38.2.5.gweddia ar yr Arglwydd ac efe ath iachâ di.
10Tro oddiwrth anwiredd, ac iniona dy ddwylo, a glânha dy galō oddi wrth bob pechod.
11Dod bêrarogl a choffadwriaeth o beillied, a dod offrwm brâs fel vn nid yw y rhoddwr cyntaf.
12Dod le i’r meddig o blegit yr Arglwydd ai creawdd ef, nag ymadawed â thi o herwydd fe a fydd rhaid wrtho ef.
13Weithie y mae amser pan fyddo esmwythdra ar eu llaw hwynt.
14Ac hwy a weddiant ar yr Arglwydd ar iddo ef roddi iddynt hwy esmwythora ac iechid i fyw.
15Yr hwn a becha yn erbyn yr hwn ai gwnaeth ef a syrthia yn llaw y meddig.
16Fy mab #Pen.22.11.gollwng ddagrau tros y marw, dechre alaru fel pe bait ti yn dioddef anfad niwed, amdôa ei gorph ef fel y byddo gweddaidd iddo ef, ac na ddiystyra ei gladdedigaeth ef.
17Wyla yn chwerw, a gofidia yn dost.
18Ac alara fel y byddo addas iddo ef ddiwrnod ne ddau, rhag cael anair: yna cymmer ddiddanwch o herwydd dy dristwch.
19O blegit #Dihar.15.13. & 17.22.o dristwch y daw marwolaeth, a thristwch calon a blyga gryfder.
20Mewn colled yr erys tristwch, a melldith calon yw bywyd y tlawd.
21Na ddod tristwch i’th galon, tro ef ymmaith, meddwl am y diwedd.
22Nac anghofia [hyn] o herwydd ni ddeuir drachefn, ni elli di ddaioni iddo ef, a thi a elli niwed i ti dy hun.
23Cofia y farn sydd i mi, felly y bydd yr eiddot tithe: i mi ddoe, ac i tithe heddyw.
24Gorphywysed #2.Sam.12.20.coffadwriaeth y marw pan orphywyso yntef, cymmer gyssur am dano ef, gan fyned ei yspryt oddi wrtho ef.
25Doethineb y dyscedic a geir mewn prŷd, ac ennyd: a’r hwn a edrycho ychydig am ei waith ni bydd efe doeth.
26Pa fodd y daw efe i ddoethineb yr hwn sydd yn dal y penffestr, am hoffter am y wialen irai, ac sydd yn gyrru yr ychen ac sydd yn arfer eu gwaith hwynt, ac yn chwedleua am loi:
27Y mae efe yn rhoi ei feddwl ar droi cwysau, ac yn gwilied a’r roddi gwellt ir gwartheg.
28Felly pob saer, a phensaer, yr hwn a weithiant y nos yn gystal a’r dydd, yr hwn a gerfiant gerfiadau sêliau, a fydd astud i wneuthur amryw gerfiadau, ac a rydd ei feddwl ar ddyn­wared portreiadau, ac a fydd ddiwyd i orphen ei waith.
29Felly y gof a eistedd ger llaw yr einion, ac a ystyria ar y gwaith haiarn, angerdd y tân a wna iw gnawd ef ddihoeni ac efe a ymladd a gwrês yr aelwyd.
30Y mae sŵn y morthwyl a’r einion yn dy­fod yn wastad iw glustiau ef, ar wedd y dodrefnyn y mae ei lygaid ef.
31Ei feddwl a rydd efe ar orphen ei waith, ai ofal fydd am ei orphen yn hardd.
32Felly y mae y crochenudd yn eistedd wrth ei waith, ac yn troi y droell ai draed, yr hwn a esyd ar ei waith bob amser yn ofalus, ai holl waith ef fydd tan rif.
33Efe a lunia y clai ai freichiau, ac ai meddalha ef ai draed,
34Efe a esyd ei feddwl ar orphen ei ffyrf ef, ac a fydd ofalus i yscubo yr odyn.
35Y rhai hyn oll ydynt yn ymddyried iw dwylo eu hun, a phob vn a gais fod yn gelfydd yn ei waith.
36Heb y rai hyn anghyfannedd yw dinas, nis cyfanneddir ac nis cynniwerir hi: er hynny ni cheisir hwynt i fod o gyngor y bobl, ac ni dderchefir hwynt yn y gynhulleidfa,
37Nid eisteddant hwy ar orseddfaingc ynadon, ac ni ddehallant gyfammod y gyfraith: nid eglurant gyfiawnder a barn, ac ni ddychymy­gant ddammegion.
38Ni cheir hwynt chwaith [yn gyfarw­ydd] mewn dammegion, eithr y maent hwy yn cynnal creaduriaid y bŷd: ai dymuniad yw gwneuthur celfyddyd:
39O ddieithr yr hwn a roddo ei frŷd ai feddwl ar gyfraith y Goruchaf.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda