Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 3

3
PEN. III.
1 Am anrhydeddu tâd a mam. 10 Am fendith tâd a mam. 11 Am ddirgelwch Duw. 22 Na ddylid manwl chwilio dirgeledigaethau Duw.
1[Fy] mhlant clywch fi eich tâd, a gwnewch felly fel y byddoch gadwedic.
2O blegit yr Arglwydd a roddes i’r tâd anrhydedd gan y plant, ac a siccrhaodd farn y fam ar [ei] meibion.
3Yr hwn sydd yn perchi ei dâd sydd yn cael maddeuant am [ei] bechod.
4A’r hwn sydd yn anrhydeddu ei fam sydd fel [vn] yn casclu tryssor.
5Yr hwn a barcho [ei] dâd a gaiff lawenydd oi blant, ac efe a wrandewir y dydd y gweddio efe.
6Hîrhoedloc fydd yr hwn a anthydeddo [ei] dâd: a’r hwn a vfuddhao yr Arglwydd a bair orphywysdra iw fam.
7Yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd a barcha [ei] dâd, ac a wasanaetha y rhai ai cenhed­lasant ef fel arglwyddi.
8Parcha #Exod.20.12. Deut.5.16. Matth.15.4.|MAT 15:4. Ephe.6.2.3.dŷ dad a’th fam ar weithred a gair, fel y delo i ti fendith gan ddynion.
9O blegit bendith y tâd a siccrha deiau y plant, a melldith y fam a ddiwreiddia sylfeini.
10Na ymffrostia yn ammarch dy dad: o herwydd nid parch i ti fydd ammarch dy dad.
11Canys ammarch fydd i ddyn o amharch ei dad: a gwarth plant yw mam ddianiwarth.
12[Fy mab] cynnorthwya [dy] dad yn [ei] henaint: ac na thristâ ef yn dy fywyd.
13Os palla ei synnwyr, cyd ddwg: ac na amharcha [eithr parcha] ef yn dy holl gryfder.
14O herwydd nid anghofir [dy] elusen i’th dâd.
15Eithr hi a fydd yn adailadaeth yn erbyn pechodau: yn nydd trallod y meddylir am danat ti, a’th bechodau a doddir megis [pan ddel] meiriol ar iâ.
16Mor enllibus yw yr hwn sydd yn gadel ei dad, ac [mor] felldigedig gan Dduw yw yr hwn sydd yn digio ei fam.
17[Fy] mab gorphen dy waith yn llednais, a [phob] dŷn cymmeradwy a’th hoffa di.
18 # Phil.2.3. Pa fwyaf fyddech, ymddarostwng dy hun yn fwyaf: a thi a gei ffafor yng-ŵydd yr Arglwydd.
19Y mae llawer yn vchelradd ac yn anrhydeddus, eithr i’r rhai llednais y datcuddir dirgeledigaethau: canys mawr yw gallu yr Arglwydd a’r rhai gostyngedig ai hanrhyde­ddant ef.
20Na #Psal.131.1. Dihar.25.27. Rhuf.12.3.chais yn anehallgar bethau rhy­galed i ti, ac na chais yn angall bethau rhy gryfion i ti: y pethau a orchymynnwyd meddwl am hynny yn sanctaidd.
21O blegit nid rhaid i ti weled pethau cuddiedig a’th lygaid.
22Na fydd fanylach yn dy ymadroddion nag y byddo rhaid.
23Canys fe a ddangoswyd i ti fwy nag a ddichon dynion eu deall.
24Eu hofer dŷb a dwyllodd lawer, a drwg amcan a lescaodd eu deall hwynt.
25Oni bydd canhwyllau dy lygaid cennyt fe a fydd eisieu goleuni arnat: ond os bydd eisieu gwybodaeth na fynega [hynny.]
26Drwg fydd ar galon galed yn y di­wedd: a’r hwn a hoffo enbydrwydd a ddifethir ag ef.
27Calon galed a lwythir â phoenau: a’r pechadur a chwanega bechodau ar bechodau.
28Yng-hospedigaeth y balch nid oes meddiginiaeth, ei lwybrau ef a ddiwreiddir: o herwydd gwreddio planhigyn drygioni ynddo ef.
29Calon y dehallgar a feddwl am gyffely­brwydd, a chlust y gwrandawydd yw dymuniad y doeth.
30Dwfr a ddiffydd dân poeth, #Dan.4.24. Psal.41.1.a thrwy elusen y ceir maddeuant am bechodau.
31A’r Arglwydd yr hwn sydd yn talu cymmwynasau sydd yn cofio wedi hynny: a’r [cyfryw] yn amser ei dramgwydd a gaiff gan­llaw.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda