Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 23

23
PEN. XXIII.
Gweddi yr awdr. 6 Ai gyngor yn erbyn tyngu a difenwi. 19 Tri mawr fai: meddwl brwd, gwr godinebus, a gwraig butteinic.
1Oh Arglwydd (tâd ac Arglwydd yr enioes oll) na âd fi yn eu cyngor hwynt, ac na âd i mi syrthio oi plegit hwynt.
2Pwy a esyd ffrewyllau yn fy meddwl, ac addysc doethineb yn fyng-halon i: fel i’m arbe­dechô Arglwydd am fy amryfusedd: eithr na âd ti draha y rhai ydynt yn pechu o’r gwir-gwaith ddioddef.
3Fel na chynnyddo fy anwybodaeth i, ac na amlhao fy mhechodau i yn ddinistr: ac na syrthiwyf fi o flaen fyng-wrthwynebwŷr na llawenychu o’m gelynion y rhai y mae eu gobaith yn bell oddi wrth dy drugaredd di.
4Oh Arglwydd dâd a Duw fy mywyd i na ddod i mi olwg vchel: eithr tyn oddi wrth dy weision feddwl cawraidd.
5Tro oddi wrthif fi ofer obaith a chwant a dal bob amser yr hwn a fynne dy wasanaethu di, na oddiwedded awydd i’r bol fi, nac anlla­drwydd: ac na ddod fi dy wâs i fod o feddwl digywilydd.
6Gwrandewch blant addysc genau cywir: a’r hwn ai cadwo ni ddelir ef yn ei ymadroddion.
7Pechadur a ddelir yn ei anghallineb, trwyddynt hwy y tramgwydda y difenwr a’r balch.
8 # Exod.20.5.|EXO 20:5. Pen.27.15.|SIR 27:15. Matth.5.33.34 Na arfer dy enau i dyngu, ac na ymgynnefina a henwi yr hwn sydd sanctaidd.
9Oblegit megis ni bydd ychydig glesiau ar y gwâs a holer yn oestadol: felly yr hwn a dyngo ac a henwo [Dduw] bob amser ni bydd lân oddi wrth bechod.
10Y gŵr a dyngo lawer a lenwir o anwiredd, ac nid ymedu dialedd ai dŷ ef.
11Os pecha efe, ei bechod fydd yn ei erbyn ef: ac os diystyr yw ganddo ef, y mae efe yn pechu y dau cymmaint.
12Os yn ofer hefyd y tyngodd efe, ni chyfiawnheir ef: o blegit fe a lenwir ei dŷ ef o ddialedd.
13Y mae ymadrodd wedi ei wisco â marwolaeth: na chaffer [hwnnw] yn etifeddiaeth Iacob.
14O herwydd hyn oll a dynnir ymmaith oddi wrth y rhai duwiol, ac ni threiglir hwynt mewn pechodau.
15Nac arfer dy enau i anghymmesurwydd o dyngu: o blegit y mae yn hynny ymadrodd pechadurus.
16Meddwl am dy dâd a’th fam, o blegit ti a eisteddi ym mysc pendefigion.
17Rhag dy anghofio di o honynt hwy, a dihoeni o honot o’th waith dy hun, ac ewyllysio o honot na’th anesid, a melldithio o honot ddydd dy anedigaeth.
18Y #2.Sam.16.7.dŷn a ymarfero â geiriau gwradwyddus, ni chymmer addysc tra fyddo byw.
19Dau fath sydd yn pechu llawer, a’r trydydd syd yn dwyn digofaint.
20Meddwl brwd fel y tân poeth yr hwn ni ddiffodd nes ei ddarfod.
21A dŷn godinebus yn ei gorph cnawdol, yr hwn ni phaid hyd oni chynneuo efe dân.
22Y mae pob bara yn felus gan ddŷn godinebus, ni phaid efe hyd oni ddarfyddo.
23Dŷn yn trosseddu oddi wrth ei wely ei hun a ddywed yn ei feddwl, #Esa.29.15.pwy sydd yn fyng­weled:
24Y mae tywyllwch o’m hamgylch i, ac y mae y parwydydd yn fyng-huddio i, ac nid oes neb yn fyng-weled i, beth sydd arnafi ei ofn: ni chofia y Goruchaf fy mhechodau i: felly llygaid dynion y mae efe yn eu hofni.
25Ac ni ŵyr efe fod llygaid yr Arglwydd goruchaf yn fil eglurach.
26Y rhai ydynt yn canfod holl ffyrdd dynion, ac yn meddwl am y rhannau cuddiedig.
27Cyn creu dim pob peth oedd hyspus iddo ef, ac wedi eu gorphen y mae efe yn canfod y cwbl.
28 # Lefit.20.10. Deut.22.22. Yn heolydd y ddinas y dielir ar hwn, ac ef a ddelir lle ni’s amheuodd efe.
29Felly y wraig yr hon sydd yn gadel ei gŵr, ac yn ceisio etifeddiaeth o arall.
30O blegit #Exod.20.14.yn gyntaf hi a anghredodd i gyfraith y Goruchaf, ac yn ail hi a bechodd yn erbyn ei gŵr, ac yn drydydd hi a dorrodd briodas trwy odineb, ac a geisiodd blant o ŵr arall.
31Honno a ddygir allan yn y gynnulleidfa, ac fe a fydd edrych ar ei phlant hi.
32Ni wreiddia ei phlant hi, ac ni ddwg ei changhennau hi ffrwyth.
33Ei choffadwriaeth hi a dderfydd yn fe­lldith, ac ni ddeleuir ei hanniwarthrwydd hi.
34A’r rhai a adewir a gânt wybod na’d oes dim well nag ofn yr Arglwydd: na dim felu­sach nâr hwn sydd yn gwllied ar orchymynnion Duw.
35Gogoniant mawr yw dilyn Duw: a hîr hoedl yw derbyn o honnaw ef dy di.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda