Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 21

21
PEN. XXI.
Am edifeirwch. 6 Gweddi. 7 Pechod. 16 A’r rhagor sydd rhwng y doeth a’r anoeth.
1[Os] pechaist [fy] mâb, na wna mwy: eithr #Pen.5.5.|SIR 5:5. Psal.14.4. Luc.15.21.gweddia tros yr hyn a fu.
2Ffo oddi wrth bechod megis rhag sarph: o blegit os deui di atto ef, efe a’th dderbyn di.
3Dannedd llew yw ei ddannedd ef, yn lladd eneidiau dynion.
4Pob anwiredd [sydd] fel cleddyf dau-finiog: ni ellir iachau ei archoll ef.
5Ymsywen a cham a anrheithia gyfoeth: felly y gwneir tŷ y beillchion yn anghyfanedd.
6Gweddi y tlawd [a aiff] o’r genau i glu­stiau yr Arglwydd: #Exod.3.9. & 22.23.ai farn ef a ddaw yn ebrw­ydd.
7Yr hwn sydd yn casau cerydd [sydd] ar lwybr pechadur: eithr yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd a drŷ o [ewyllys] ei galon.
8Adweinir o bell y glew ai dafod: eithr y doeth a ŵyr pan lithro efe.
9Yr hwn a adailado ei dŷ ag arian rhai eraill, [sydd] megis yr hwn sydd yn casclu iddo ei hun gerrig i [wneuthur] carnedd ei feddrod.
10Swpp o garth #Pen.16.6.yw cynnulleidfa y rhai anwir, ai diwedd [fydd] tân dinistriol.
11Ffordd pechaduriaid a wastâdhawyd â cherrig: ac yn ei chwr eithaf hi y mae ffôs vffern.
12Yr hwn sydd yn cadw cyfraith yr Arglwydd sydd yn llywodraethu ei feddyliau,
13A diwedd ofn yr Arglwydd yw derbyniad doethineb.
14Yr hwn nid yw gall, ni chymmer ddysc.
15Canys y mae callineb yn amlhau chwerwedd.
16Gwybodaeth y doeth a amlha fel llifeiriant, ai gyngor ef [fydd] fel pur ffynnon y bywyd.
17Tu mewn y ffôl sydd fel llestr twn, ni ddalie efe ddim gwybodaeth yn ei fywyd.
18Gŵr doeth, os clyw air doeth ai cenmyl ac a chwanega atto.
19Yr anoeth ai clybu ac nid oedd fodlon ganddo ef, eithr efe ai trôdd yn ôl ei gefn.
20 # Pen.33.3. Ymadrodd y ffôl sydd megis baich ar y y ffordd, eithr yng-wefusau y doeth y ceir grâs.
21Megis tŷ wedi ei dynnu ymmaith yw doethineb i’r ffôl: pan feddylio rhai am ei eiriau ef yn [eu] calon, geiriau ni cheir pen arnynt fydd doethineb yr anoeth.
22Megis lleffetheiriau ar draed, ac megis gefynnau dwylo ar y llaw dehau, yw addysc gan y rhai anoeth.
23Y ffôl yn chwerthin a gyfyd ei lêf, eithr prin y chwardd gŵr call yn ddistaw.
24Megis tlŵs o aur yw addysc gan y call: ac megis arddwrn-dlws ar y braich dehau.
25Buan fydd troed y ffôl yn nhŷ [arall:] a’r gŵr a ŵyr lawer fydd gwradwyddus ganddo hynny.
26Yr #Pen.19 27.angall a edrych i dŷ drwy ’r ffenestr: eithr gŵr medrus a saiff allan.
27Anfedrusrwydd dŷn yw gwrando wrth ddryssau, a’r call fydd blin ganddo ammarch.
28Gwefusau y rhai siaradus a draethant bethau nid ydynt yn perthynu iddynt eu hun, a geiriau y rhai call a bwyssir mewn clorian.
29Yn safn fyliaid y mae eu calon, ac yng-halon doethion y mae eu safn.
30Pan felldithio yr annuwiol y cythrael y mae efe yn melldithio ei enaid ei hun.
31Y #Pen.28.13.siaradus sydd yn halogi ei enaid ei hun, ac a gaseuir pa le bynnac yr ymdeithio efe.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda