Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 15

15
PEN. XV.
Cynneddfau doethineb. 11 Atteb yn erbyn gan escuso­dion pechaduriaid.
1Yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd a wna hynny, a’r hwn sydd yn dal gŵybodaeth y gyfraith ai caiff hi.
2Fel mam y cyferfydd hi ag ef, ac fel gwraig forwynaidd y derbyn hi ef.
3Hi ai portha ef â bara deall, a ai dioda ef â dwfr doethineb.
4Os siccrheir ef wrthi hi, ni ogwydda efe: os yngymnal efe wrthi hi ni wradwyddir ef.
5Hi ai cyfyd goruwch ei gymydogion, ac a egyr ei safn ef yng-hanol y gynnulleidfa.
6Llawenydd a choron gorfoledd a gaiff efe: ac hi a rydd iddo enw tragywyddol yn etifeddiaeth.
7Eithr dynnion ansynhwyrol ni chânt afel arni hi.
8Gwŷr pechadurus hefyd ni chânt ei gweled hi: pell yw hi oddi wrth falchder, a gwŷr celwyddog ni chofiant hi.
9Nid gweddus clôd yng-enau pechadur,
10O blegit nid yr Arglwydd ai hanfonodd hi iddo ef: canys trwy ddoethineb y treuthur clôd, a’r Arglwydd ai llwydda ef.
11Na ddywet o herwydd yr Arglwydd yr ydwyf fi ymmaith: o blegit ni ddylit ti wneuthur yr hyn sydd ddrwg ganddo ef.
12Na ddywet, efe a’m lluniodd i, o blegit nid rhaid iddo ef wrth ŵr pechadurus.
13Câs gan yr Arglwydd bôb ffieidd-dra, ac nid da yw hynny gan y rhai ai hofnant ef.
14Efe #Gen.1.27.a wnaeth ddŷn o’r dechreuad, ac ai gadawodd ef yn llaw ei gyngor ei hun [gan ddywedyd]
15Os mynni, ti a elli gadw y gorchymynnion, a gwneuthur ffyddlondeb gymmeradwy.
16Efe a osododd o’th flaen di dân a dwfr estyn dy law at yr hwn a fynnech di.
17[Y mae]#Ier.21.8.o flaen dynion enioes ac angeu.
18A’r hyn a fynno efe a roddir iddo ef.
19O blegit mawr yw doethineb yr Arglwydd, ac y mae yntef yn gryf o allu, ac yn gwcled pôb peth.
20Hefyd #Psal.34.15,16. hebr.4.13.y mae ei olwg ef ar y rhai sy yn ei ofni ef, ac efe a fyn adnabod holl waith dŷn.
21Ni orchymynnodd efe i neb wneuthur yn annuwiol, ac ni roddes efe gennad i neb i bechu.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda