Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 13

13
PEN. XIII.
Cydymdeithâs pwy sydd iw harfer.
1Yr hwn #Dan.7.2.a gyffyrddo a phŷg a halogir ganddo ef, a thebyg i hwnnw fydd yr hwn a fyddo gyfrannog a’r balch.
2Na chyfot faich rhy-drwm i ti yn dy fywyd, ac na fydd gyfrannog ag vn cryfach a chyfoethogach nâ thi,
3Pa gyfrannu a wna y crochan pridd â’r pair, hwn a deru, a hwnnw a dyrr.
4Os cyfoethog a wna gam yna ’r ymbilir ag ef, os tlawd a wna gam yna y bygythir ef.
5Os buddiol fyddi di, efe a gymmer dy waith di, ac os bydd eisieu arnat ti, efe a’th gystuddia di,
6Os bydd peth gennit, efe a gwmpenia â thi, ac a’th dloda di, ac ni bydd gwaeth ganddo ef.
7Os bydd arno dy eisieu di, efe a’th dwylla di, ac a chwardd arnat ti, ac a rydd i ti obaith: efe a ddywed yn dêg wrthit ti, ac a ddywed, beth sydd arnat ti ei eisieu:
8Efe a’th gywilyddia di ai fwyd, nes iddo ef dy dreio di ddwy-waith neu dair, ac yn y di­wedd efe a’th watwar di: wedi hynny efe a’th wêl di, ac a’th âd ti, ac a escwyd ei ben arnat ti.
9Gochel dy dwyllo yn dy feddwl.
10Ac nac ymddarostwng yn llawenydd dy galon.
11Pan i’th alwo vn cadarnach nâ thi dydi atto: cilia ymmaith, ac efe a’th eilw di fwy-fwy.
12Na ruthra i mewn rhag dy yrru allan yn ddifarn, ac na saf ym mhell rhag dy ollwng tros gof.
13Na phaid ag ef, ac nac ymddyriet iw aml eiriau ef: oblegit trwy ymadrodd lawer y prawf efe dydi, ac megis dann chwerthin y cais efe dy gyfrinach di.
14Anrhugarog yw yr hwn ni cheidw [ei] eiriau, ac ni arbed efe dy ddrygfyd na’th rwy­mau di.
15Disgwil ac edrych yn fanwl am wrando: o herwydd yr ydwyt ti yn rhodio lle y gall­ech di syrthio.
16Pan glywech hyn yn dy gwsc deffro.
17Yn dy]holl oes câr yr Arglwydd, a galw arno ef i’th iechydwriaeth.
18Pob anifail a gâr ei gyffelyb, a phob dŷn sydd dda ganddo ei gymmydog.
19Pob cnawd a ymgymhâra wrth ryw, ac wrth ei gyffelyb y glŷn gŵr.
20Pa gyfran a wna y blaidd a’r oen: felly [y gwna] y pechadur a’r duwiol.
21Pa heddwch sydd rhwng hyena a’r cî: a pha heddwch sydd rhwng y cyfoethog a’r tlawd:
22Yr assynnod gwylltion yn yr anialwch yw helfa y llewod: porfa y cyfoethogion yw’r tlodion.
23Ffieidd-dra y beilchion yw gostyngeiddrwydd: felly y mae y tlawd yn ffiaidd gan y cyfoethog.
24Pan siglo y cyfoethog, ei gyfeillion ai siccrhânt ef: ond pan syrthîo y tlawd ei gyfeillion ai gwthiant ef.
25Pan lithre y cyfoethog bydde llawer cynnorthwywr: pe dywede efe bethau iw celu, hwy ai cyfiawnhaent ef.
26Pan llithre y gwael-ddyn y ceryddit ef: pan draethe efe synnwŷr ni roddit iddo ef ie.
27Pan lefare y cyfoethog pawb a dawnet ac a dderchafent ei ymadrodd ef hyd y cwmylau.
28Pan lefare y tlawd hwy a ddywedent, pwy yw hwn: ac os tramgwydde efe, hwy ai difethent ef.
29Da yw ’r cyfoeth nid oes ynddynt bechod, a drwg yw tlodi yng-enau yr annuwiol.
30Calon dŷn sydd yn newidio ei ŵyneb ef, pa vn bynnag ai er da ai er drwg: calon lawen ddigrif a wna wyneb da.
31Arwydd calon mewn gwyn-fyd yw wyneb llawen, a meddyl-fryd poenus yw caffaeliad cyffelybiaethau.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda