Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Cân y tri llangc 3

3
24Ac hwyntwy a rodiassant yng-hanol y fflā, gan foliannu Duw, a bēdithio’r Arglwydd. 25Ac Azarias yn sefyll a weddiodd fel hyn, ac a agorodd ei enau yng-hanol y tân, gan ddywedyd, 26Bendigedig wyt ô Arglwydd Dduw ein tadau, ie canmoladwy a gogoneddus yw dy enw yn dragywydd. 27Canys cyfiawn wyt ti ym mhob peth a’r a wnaethost i ni: a’th holl weithredoedd sy ffyddlon, dy ffyrdd hefyd ydynt iniawn, a’th holl farnau mewn gwirionedd. 28Canys barnau gwirionedd a wnaethost yn yr holl bethau a ddugost arnom, ac ar ddinas sanctaidd ein tadau [sef] Ierusalem, o achos mewn gwirionedd a barn y dugaist hyn oll arnom am ein pechodau. 29Canys pechasom, a gwnaethom yn anghyfreithlon, drwy ymwrthod â thydi, ac ym mhob peth ni a wnaethom ar fai, 30A’th orchymynnion di ni’s gwrandawsom, ac ni’s cadwasom: ac ni wnaethom y modd yr archessit i ni, fel y bydde i ni yn ddaionus. 31A chwbl a’r a ddugost arnom, a chwbl a’r a wnaethost i ni, mewn gwir farn y gwnaethost oll. 32Ac a’n rhoddaist yn nwylo ein gelynion anwir, a’n casaf fradych-wŷr, a’r brenin anghyfiawn gwaethaf ar yr holl ddaiar. 33Ac yn awr ni allwn agori ein geneuau, yn gywilydd a gwradwydd i’n gwnaethbwyd i’th weision di a’r rhai a’th addolant. 34Na fwrw ni ymmaith yn gwbl er mwyn dy enw: ac na ddiddymma dy gyfammod. 35Ac na thyn dy drugaredd oddi wrthym, er mwyn Abraham dy annwylyd: ac er mwyn Isaac dy wâs, ac Israel dy sanctaidd; 36Y rhai y ymddiddenaist wrthynt, gan ddywedyd, yr amlhâit eu hâd hwynt fel sêr y nef, ac fel y tywod yr hwn sydd gerllaw min y môr. 37Etto Arglwydd yr ydym wedi ein lleihau tu hwnt i bob cenhedlaeth: ac yr ydym heddyw wedi ein tynnu i lawr ym mhob gwlad am ein pechodau. 38Ac nid oes y pryd hyn, na phennaeth, na phrophwyd, na blaenor, na phoeth offrwm, nac aberth, na blaenffrwyth, nac arogl, na lle i offrwm blaenffrwyth ger dy fron di, modd y gallem gael dy drugaredd. 39Etto yn enaid drylliedig, ac yn ysbryd gostyngeiddrwydd derbynier ni. 40Megis o herwydd ebyrth hyrddod, a theirw, ac fel o herwydd myrddiwn o ŵyn breision: felly heddiw bydded ein hoffrwm ni yn dy olwg di iryglyddu bodd i ti: canys nid oes wradwydd i’r rhai a ymddyriedant ynot ti. 41Ac yr awran y dilynwn di a’n holl galon, ac yr ofnwn di, ac y ceissiwn dy wyneb-pryd. 42Na ddod ni yn wradwydd; eithr gwna â ni yn ol di addfwynder, ac yn ôl amlder dy drugaredd. 43Ac achub ni yn ôl dy ryfeddodau ô Arglwydd, a dod ogoniant i’th enw. 44A chywilyddier hwynt oll a’r sy yn amcanu drwg i’th weision: a syrthiant yn wradwyddus oddi wrth bob gallu, ai nerth a ddryllier. 45Fel y cydnabyddant mai tydi sydd Arglwydd, unic Dduw, a gogoneddus drwy yr holl fyd. 46Ac ni orphywysodd gweinidogion y brenin, y rhai ai bwriasent hwynt [i mewn] a phoethi’r ffwrn â naphtha, â ffŷg, â charth, ac â briwydd. 47A’r fflam a daflodd uwch law yr ffwrn, naw cufydd a deugain. 48A hi a ruthrodd ac a loscodd y Caldeaid y rhai a gyrhaeddodd hi yng-hylch y ffwrn. 49Eithr Angel yr Arglwydd a ddescynnodd i’r ffwrn gyd â Azarias, 50Ac a daflodd fflam y tân allan o’r ffwrn: ac a wnaeth ganol y ffwrn megis gwlith-wynt chwiban, fel na chyffyrddodd y tân â hwynt: ni thristaodd ychwaith ac ni flinodd mo honynt. 51Yna y tri megis o un geneu a ganmolasant, ac a glodforasant, ac a ogoneddasant Dduw yn y ffwrn, gan ddywedyd, 52Bendigedig wyt Arglwydd Dduw ein tadau, moliannus a chlodforus yn dragywydd: a bendigedig yw enw dy ogoniant sanctaidd a chanmoladwy a chlodforus yn dragywydd. 53Bendigedig wyt ti yn nheml dy sanctaidd ogoniant a thramoladwy a gogoneddus yn dragywydd. 54Bendigedig wyt ti yr hwn sydd yn gweled yr eigion, ac yn eistedd ar y Cerubiaid, a thrachanmoladwy a chlodforus yn dragywydd. 55Bendigedig wyt ar orseddfaingc gogoniant dy deyrnas, a thrachanmoladwy a gogoneddus yn dragywydd. 56Bendigedig wyt ti yn ffurfafen y nefoedd, a thrachanmoladwy a gogoneddus yn dragywydd. 57Oll weithredoedd yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 58Angelion yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 59Y nefoedd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 60Yr holl ddyfroedd goruwch y nef bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 61Oll nerthoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 62Yr haul a’r lloer bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 63Ser yr awyr bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 64Pob cafod a gwlith bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 65Oll wyntoedd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 66Tân a phoethni bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 67Oerni a gwrês bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 68Gwlith a rhewogydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 69Nos a dydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 70Goleuad a thywyllwch bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 71Rhew ac oerfel bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 72Ia ac eira, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 73Mellt a chymylau bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 74Bendithied y ddaiar yr Arglwydd: moled a chlodfored hi ef yn dragywydd. 75Mynyddoedd a brynnau bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 76Yr holl betheu sydd yn tyfu yn y ddaiar bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 77Ffynhonneu bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 78Moroedd ac llifeiriant bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 79Mor-filod a chwbl oll a’r a symmud yn y dyfroedd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 80Oll ehediaid yr awyr bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 81Oll fwystfilod ac anifeiliaid bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 82Plant dynyon bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 83Bendithied Israel yr Arglwydd: moled a chlodfored ef yn dragywydd. 84Offeiriaid yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 85Gwasanaethwŷr yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 86Ysbrydion ac eneidieu ’r cyfiawn bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 87Y rhai sanctaidd a chalon ostyngedig bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd. 88Ananias, Azarias, a Misael bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd: Canys efe a’n achubodd o uffern, ac a’n cadwodd o law marwolaeth, ac a’n gollyngodd o’r ffwrn o ganol y fflam danllyd, ac a’n gwaredodd o ganol y tân. 89Cyffesswch yr Arglwydd am ei fod yn ddaionus, am fod ei drugaredd yn dragywydd. 90Pawb oll ac sydd yn ofni ’r Arglwydd bendithiwch Dduw ’r duwiau, molwch ef a chydnabyddwch fod ei drugaredd ef yn dragywydd.
Terfyn cân y tri llangc yn y ffwrn boeth loscadwy.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda