Rhufeiniaid 6
6
PEN. VI.
2 Er mwyn na bydde i nêb orfoleddu yn y cnawd, eithr yn hytrach ei ddarostwng ef i’r yspryd, 3 Y mae efe yn dangos wrth rinwodd a diwedd bedydd, 5 Fod ail-enedigaeth yn gyssylltiedig â chyfiawnder, ac am hynny y mae yn annog i fuchedd dduwiol, 21 Gan osod yng-wydd dyn obr pechod a chyfiawnder.
1Beth wrth hynny a ddywedwn? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhauo grâs?
2Na atto Duw: y rhai [ydym yn] feirw i bechod, pa wedd y byddwn fyw etto ynddo ef?
3Oni wyddoch am danom [ni] oll y rhai a fedyddiwyd i Iesu Grist, #6.3-11 ☞ Yr Epystl y chweched Sul ar ôl y Drindod. ddarfod rin bedyddio iw farwolaeth ef?
4 #
Gal.3.27.|GAL 3:27. colos.2.12. Claddwyd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd.
5Canys os gwnaed ni yn gyd blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn [i gyffelybiaeth ei] adgyfodiad [ef,]
6Gan ŵybod hyn ddarfod croes-hoelio ein hên ddyn ni gyd ag ef, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod.
7Canys y mae yr hwn fu farw yn rhydd oddi wrth bechod.
8Am hynny os ydym ni yn feirw gyd â Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn fyw hefyd gyd ag ef.
9Gan ŵybod na bydd Crist yr hwn a gyfodwyd, farw mwyach: ac nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach.
10Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw vn-waith i bechod, ac fel [y mae yn] fyw, byw y mae i Dduw.
11Felly meddyliwch chwithau hefyd, eich meirw chwi i bechod, a’ch bôd yn fyw i Dduw yng-Hrist Iesu ein Harglwydd.
12Na theyrnased gan hynny bechod yn eich corph marwol, fel yr vfuddhaoch iddo yn ei chwantau.
13Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw, a [rhoddwch] eich aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.
14Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi, o blegit nid ydych tann y ddeddf eithr tann râs.
15Beth am hynny? a bechwn ni o herwydd nad ydym ni tann y ddeddf eithr tann râs? na atto Duw.
16Oni ŵyddoch, mai i #Ioan.8.34.|JHN 8:34. 2.pet.2.19.bwy bynnac y rhoddwch eich hunain yn weision i vfyddhau, eich bod yn weision i’r hwn yr vfyddhaoch iddo, pwy bynnac ai [yn weision] pechod i farwolaeth, ynte vfydd-dod i gyfiawnder?
17Ond i Dduw bo’r diolch, gan eich bod [chwi gynt] yn weision pechod, etto vfyddhau o honoch o’ch calonnau i’r ffurf honno o athrawiaeth i’r hon i’ch traddodwyd.
18A chan eich rhyddhau [chwi] oddi wrth bechod, chwi a wnaethpwyd yn weision cyfiawnder.
19 # 6.19-23 ☞ Yr Epystol y seithfed Sul ar ôl y Drindod. Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd o blegit gwendid eich cnawd chwi: canys megis ac y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i [wneuthur] anwiredd, felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder i sancteiddrwydd.
20Canys pan oeddech yn weision pechod, yr oeddech yn rhyddion oddi wrth gyfiawnder.
21Pa ffrwyth oedd i chwi y pryd hynny yn y cyfryw bethau y mae arnoch gywilydd o’u plegit yr awr hon? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth.
22Ac yr awr hon wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragywyddol.
23Canys cyflog pechod yw marwolaeth: eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 6: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.