Rhufeiniaid 2
2
PEN. II.
Y mae yn gyrru ofn ar ragrithwyr a barn Duw. 7 Yn cyssuro y ffyddloniaid. 12 Ac er mwyn curo i lawr pob escus, y mae efe yn profi bod pawb yn bechaduriaid. 15 Y cenhedloedd wrth gydwybod, 17 A’r Iddewon wrth y ddeddf scrifennedic.
1Am hynny diescus wyt ti ô ddyn, pwy bynnac wyt yn barnu: #Math.7.1. 1.cor.4.5.canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu arall, wyt yn gwneuthur yr vn pethau.
2Eithr gŵyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau.
3Ac a wyt ti yn tybied hyn, ô ddyn yr hwn wyt yn barnu y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau, a [thi] yn gwneuthur yr vn rhyw, y diengi di rhag barn Duw?
4Neu a wyt ti yn diystyru golud ei ddaioni ef, a’i #2.Pet 3.9.ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb gydnabod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?
5Eithr ty-di yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, #Iac.5.3.wyt yn tyrru i ti dy hū ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a dadcuddiad cyfiawn farn Dduw,
6 #
Psal 62.12.|PSA 62:12. gwel.22.12.|REV 22:12. math.16.26. Yr hwn a rydd i bawb yn ôl ei weithredoedd:
7Sef, bywyd tragywyddol i’r rhai gan barhau yn gwneuthur daioni, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth,
8Eithr i’r rhai sy yn gynhennus, ac nid ydynt yn vfyddhau y gwirionedd, eithr ydynt yn vfyddhau anwiredd, [y bydd] llid a digofaint.
9Trallod ac ing fydd ar bôb enaid a wna ddrwg, i’r Iddew yn gyntaf, ac hefyd i’r Groeg-ŵr.
10Eithr i bôb vn a wna ddaioni y bydd gogoniant, ac anrhydedd, a thangneddyf, i’r Iddew yn gyntaf, ac hefyd i’r Groeg-ŵr.
11Canys nid oes #Deut.10.17.|DEU 10:17. 2.chron.19.7.|2CH 19:7. iob.34.19.|JOB 34:19. act.10.34.dderbyn wyneb ger bron Duw.
12O blegit pa sawl bynnac a bechasant yn ddi-ddeddf a gyfrgollir hefyd yn ddi-ddeddf a pha sawl bynnac a bechasant yn y ddeddf, hwy a fernir wrth y ddeddf.
13 #
Math.7.21. iac.1.21. (Canys nid gwranda-wŷr y ddeddf ydynt gyfiawn ger bron Duw: eithr gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheuir.
14O blegit pan wnelo y cenhedloedd, y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt wrth naturiaeth y pethau sy yn y ddeddf, hwynt hwy heb fod deddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain:
15Y rhai ydynt yn dangos gweithred y ddeddf yn scrifennedig yn eu calonnau, a’u cydwybod hefyd yn cyd-testiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo eu gilydd, neu yn escusodi)
16Yn y dydd pan farno Duw ddirgeloedd dyniō trwy Iesu Grist, yn ôl fy Efengyl maufi.
17Wele, Iddew i’th elwir di, ac yr wyt yn gorphywys yn y ddeddf, at yn ymlawenhau yn-Nuw,
18Ac yn gŵybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, o herwydd dy addyscu gan y ddeddf.
19Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai ydynt mewn tywyllwch,
20Yn athro i’r amhwyllogion, yn ddyscawdwr i’r rhai annyscedig, a chēnit ffurf gwybodaeth, a gwirionedd yn y ddeddf.
21Ty di gan hynny yr hwn wyt yn addyscu arall oni’th ddysci dy hun? ti yr hwn wyt yn dywedyd, na ledratter, a ledretti di?
22Yr hwn wyt yn dywedyd, na odineber, a odinebi di? ti yr hwn sydd gâs gennit ddelwau, a gyssegr-yspeili di?
23Ti yr hwn wyt yn ymhoffi yn y ddeddf, trwy dorri ’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw?
24Canys enw Duw ym mhlith y cenhedloedd a geblir o’ch plegit chwi, #Esa.52.5. ezech.36.20.megis y mae yn scrifennedic.
25Canys enwaediad yn wir a wna lês os cedwi y ddeddf; eithr os trosseddwr y ddeddf fyddi, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad.
26Am hynny os y dienwaediad a geidw gyfreithiau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediau?
27Ac oni bydd i’r dienwaediad, yr vn sydd wrth naturiaeth (os ceidw y ddeddf) dy farnu di yr hwn wrth y llythyren, a’r enwaediad, wyt yn drosseddwr y ddeddf?
28Canys nid yw efe yn Iddew, yr hwn sydd yn [vnic] yn yr amlwg: ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn [vnic] yn yr amlwg yn y cnawd:
29Eithr efe sydd Iddew yr hwn sydd [felly] yn y dirgel, (ac enwaediad y galon [sydd] yn yr yspryd, nid yn y llythyren) yr hwn [y mae] ei glod nid o ddynion, ond o Dduw,
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 2: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.