Numeri 5
5
PEN. V.
Yr aflan ni chaiff aros yn y gwerssyll. 6 Rhaid yw cydnabod a phob camwedd, a gwneuthur iawn am dano. 12 Cyfraith eiddigedd.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:
2Gorchymyn i feibion Israel #Lefit.13 3.anfon o honynt o’r gwerssyll bob gwahan-glwyfus, a #Lefit.15 2.phob vn y byddo diferlif arno, a phob vn #Lefit.21.1.a halogir wrth y marw.
3Yn wryw, ac yn fenyw yr anfonwch [hwynt,] allan o’r lluest yr anfonwch hwynt, fel na halogant eu gwerssylloedd hwynt, y rhai yr ydwyfi yn presswylio yn eu plith.
4A meibion Israel a wnaethant felly, ac ai hanfonasant hwynt i’r tu allan i’r gwerssyll: megis y llefarase yr Arglwydd wrth Moses felly y gwnaeth meibion Israel.
5A llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:
6Llefara wrth feibion Israel, #Lefit.6.3.os gwr neu wraig a wna [vn] o holl bechodau dynol gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd: a bod o’r enaid hwnnw yn euog.
7Yna cyffessant eu pechod, yr hwn a wnaethant, a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe enog o honaw #Lefit.6.5.erbyn ei ben, a chwaneged ei bummed ran atto, a rhodded i’r hwn y gwnaeth efe y sarhaed iddo.
8Ac oni bydd i’r gwr gyfnesaf i dalu [am] y sarhaed iddo, [yr iawn am] y sarhaed yr hwn a delir i’r Arglwydd [fydd] eiddo yr offeiriad: heb law hwrdd yr iawn yr hwn y gwna efe iawn ag ef trosto.
9A phob offrwm derchafel, o holl sanctaidd [bethau] meibion Israel, y rhai a offrymmant at yr offeiriad fydd eiddo ef.
10A sancteiddo gŵr, eiddo ef fyddant, yr hyn a roddo neb i’r offeiriad, eiddo ef fydd.
11Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:
12Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt, pob gwr pan ŵyro ei wraig ef a gwneuthur sarhaed iddo.
13A bod i wr a wnelo a hi, a bod yn guddiedic o olwg ei gŵr hi, ac yn gyfrinachol ei halogi hi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithe heb ei dal [ar ei gweithred.]
14A dyfod gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu o honaw wrth ei wraig, a hithe wedi ei halogi: neu ddyfod o yspryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu o honaw wrth ei wraig, a hithe heb ei halogi.
15Yna dyged y gwr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm gyd a hi, decfed ran Epha o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno: canys offrwm eiddigedd yw efe, offrwm côf yn coffau anwiredd.
16Yna nessaed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll ger bron yr Arglwydd.
17A chymmered yr offeiriad ddŵfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymmered yr offeiriad o’r llwch’r hwn fydd ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr.
18A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll ger bron yr Arglwydd, a diosced oddi am ben y wraig, a rhodded ar gledr ei llaw offrwm y coffa, offrwm eiddigedd [yw] efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw melldigedic.
19A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, oni orweddodd gŵr gyd a thi, ac oni ŵyraist i aflendid [gyd ag arall] yn lle dy ŵr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw melldigedic hwn.
20Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr, ac os halogwyd ti, a chydio o neb a thi, heb law dy ŵr dy hun:
21(Yna tyngheded yr offeiriad y wraig a llw y felldith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig) rhodded yr Arglwydd dydi yn felldith ac yn llw ym mysc y bobl, gan roddi, o’r Arglwydd dy forddwyd yn bwdr, ath groth yn chwyddedic.
22Ac aed y dwfr melldigedic hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd: a dyweded y wraig. Amên, Amên.
23Ac scrifenned yr offeiriad y melldithion hyn mewn llyfr, a golched [hwynt] ymmaith a dwfr chwerw.
24A phared i’r wraig yfed o’r dŵfr chwerw melldigedic, ac aed y dwfr chwerw melldigedic iw mewn.
25A chymmered yr offeiriad o law y wraig fwyd offrwm yr eiddigedd, a chwhwfaned y bwyd offrwm ger bron yr Arglwydd, ac offrymmed 57 ef ar yr allor.
26A chymmered yr offeiriad o’r bwrdd offrwm loned ei law yn goffadwriaeth, a llosced ar yr allor, ac wedi [hynny] pared i’r wraig yfed y dwfr.
27A phan baro efe iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd ac a wnaeth sarhaed yn erbyn ei gŵr yr aiff y dwfr melldigedic yn chwerw ynddi ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwyd, a’r wraig a fydd yn felldith ym mysc ei phobl.
28Ono os y wraig ni halogwyd eithr glân yw, yna hi a fydd diangol, ac a blanta.
29Dymma gyfraith eiddigedd pan ŵyro gwraig [at arall] yn lle ei gŵr ac ymhalogi.
30Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal o honaw eiddigedd wrth ei wraig, yna gosoded y wraig i sefyll ger bron yr Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon.
31A’r gŵr fydd diniwed o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.
Dewis Presennol:
Numeri 5: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.