Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 20

20
PEN. XX.
Miriam yn marw. 2 Y bobl yn tuchan am ddwfr. 6 Moses ac Aaron yn cael dwfr iddynt o’r graig. 12 Cospedigaeth Moses ac Aaron am eu petrusedd. 14 Edom yn neccau Israel o ffordd trwy ei wlâd. 23 marwolaeth Aaron, a dewissiad Eleazar yn ei le ef.
1A Meibion Israel [sef] yr holl gynnulleidfa a ddaethant i #Num.33.36.anialwch Zin yn y mîs cyntaf, ac arhôdd y bobl yn Cades, yno hefyd y bu farw Miriam, ac yno y claddwyd hi.
2Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa, yna yr ymgasclasant yn erbyn Moses ac Aaron.
3Ac ymgynhennodd y bobl a Moses, a llefarasant gan ddywedyd: ô na buasem feirw #Num.11.23.pan fu feirw ein brodyr ger bron yr Arglwydd.
4Pa ham y dugasoch gynnulleidfa’r Arglwydd i’r anialwch hwn? i farw a honom ni ac o’n hanifeiliaid ynddo?
5A pha ham y dugasoch ni i fynu o’r Aipht? i’n dwyn ni i’r lle drwg ymma? lle heb hâd na ffigus-bren, na gwinwydden, na phomgranadbren, ac heb ddwfr i yfed.
6Yna y daeth Moses ac Aaron oddi ger bron y gynnulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
7A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses hefyd gan ddywedyd,
8Cymmer #Exod.17.6.y wialen a chascl y gynnulleidfa: ti ac Aaron dy frawd, ac yn eu gwydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr a thynn dithe iddynt ddwfr o’r graig, a dioda y gynnulleidfa ai hanifeiliaid.
9Yna Moses a gymmerodd y wialen, oddi ger bron yr Arglwydd megis y gorchymynnase efe iddo.
10Yna Moses ac Aaron a gynnullasant y dyrfa o flaen y graig: a dywedodd [Moses] wrthynt: gwrandewch yn awr chwi wrthryfel-wyr, ai o’r graig honn y tynnwn i chwi ddwfr?
11A #Psal.78.15.chododd Moses ei law, a tharawodd y graig ddwy-waith ai wialen: a daeth dwfr lawer allan, a’r gynnulleidfa a yfodd, ai hanifeiliaid.
12A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio yng-ŵydd meibion Israel, am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tîr yr hwn a roddais iddynt.
13Dymma ddyfroedd y gynnen, lle yr ymgynnhennodd meibion Israel a’r Arglwydd, ac y sancteiddwyd ef ynddynt.
14 # Baruc 11.17(sic.) Yna yr anfonodd Moses gennadau o Cades at frenin Edom: fel hyn y dywed Israel dy frawd, ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni.
15Pa wedd yr aeth ein tadau i wared i’r Aipht, ac yr arhosasom yn yr Aipht lawer o ddyddiau, ac y drygodd yr Aiphtiaid ni, a’n tadau.
16A ni a waeddasom ar yr Arglwydd, ac efe a a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aipht: ac wele ni yn Cades dinas [ar] gwrr dy ardal di.
17Attolwg gad i ni fyned trwy dy dîr, nid awn trwy faes, na gwin-llan, ac nid yfwn ddwfr [vn] ffynnon: ffordd y brenin a gerddwn, ni throiwn ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy, nes i ni fyned trwy dy frô.
18A dywedodd Edom wrtho, na thyrec heibio i mi rhac im ddyfod a’r cleddyf i’th gyfarfod.
19Yna meibion Israel a ddywedasant wrtho, rhyd y briffordd yr awn i fynu: ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef, yn vnîc ar fy nhraed yr âf trwodd yn ddiniwed.
20Yntef a ddywedodd ni chei fyned trwodd: a daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, a phobl lawer, ac a llaw gref.
21Felly Edom a neccaodd roddi ffordd i Israel trwy ei frô, yna Israel a drodd oddi wrtho.
22A meibion Israel [sef] yr holl gynnulleidfa a gychwnnasant #Num.33.37o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.
23A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, ar derfyn tîr Edom gan ddywedyd.
24Aaron a gesclir at ei bobl, ac ni ddaw i’r tîr yr hwn a roddais i feibion Israel, am i chwi anufyddhau i’m gair wrth ddwfr y gynnen.
25Cymmer Aaron ac Eleazar ei fab, #Num.33.38|NUM 33:38. deut.32.50.a dwg hwynt i fynydd Hor.
26A diosc ei wiscoedd oddi am Aaron, a gwisc hwynt am Eleazar ei fab ef: canys Aaron a gesclir, ac a fydd farw yno.
27A gwnaeth Moses megis y gorchymynnodd yr Arglwydd, ac aethant i fynydd Hor, yng-wydd yr holl gynuulleidfa.
28A dioscodd Moses oddi am Aaron ei wiscoedd, ac ai gwiscodd hwynt am Eleazer ei fab, #Deut.10.6. deut.32.50.a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd: a descynnodd Moses ac Eleazer o’r mynydd.
29A’r holl gynnulleidfa a welsant farw Aaron, a holl dŷ Israel a ŵylasant am Aaron ddeng-nhiwrnod ar hugain.

Dewis Presennol:

Numeri 20: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda