Numeri 17
17
PEN. XVII.
Gwialen Aaron yn blaguro, blodeuo, ac yn ffrwytho i sicrhau ei alwedigaeth ef.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.
2Llefara wrth feibion Israel, a chymmer ganddynt wialen, am bob tŷ tad [sef] gan bob vn oi pennaethiaid, tros dy eu tadau, deuddec gwialen: scrifenna henw pob vn ar ei wialen.
3Ac scrifenna henw Aaron ar wialen Lefi: canys vn wialen [fydd] dros [bôb] pennaeth tŷ eu tadau.
4A gâd hwynt ym mhabell y cyfarfod, ger bron y destiolaeth #Exod.25.22.lle y cyfarfyddaf a chwi.
5A gwialen y gŵr a ddewiswyf a flodeua: a gwnaf i furmur meibion Israel y rhai y maent yn murmurio i’ch erbyn beidio a mi.
6Felly y llefarodd Moses wrth feibion Israel, ai holl bennaethiaid a roddasant atto wialen tros bôb pennaeth yn ol tŷ eu tadau, [sef] deuddec gwialen: a gwialen Aaron [oedd] ynghanol eu gwiail hwynt.
7A Moses a adawodd y gwiail ger bron yr Arglwydd ym mhabell y destiolaeth.
8A thrannoeth y daeth Moses i babell y destiolaeth: ac wele gwialen Aaron a flagurase tros dŷ Lefi, îe bwriase flagur, a blodeuase, ac a addfedase almonau.
9Yna y dug Moses allan yr holl wiail oddi ger bron yr Arglwydd, at holl feibion Israel: hwythau a edrychasant, ac a gymmerasant bôb vn ei wialen ei hun.
10A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, #Heb.9.4.dod wialen Aaron drachefn ger bron y destiolaeth iw chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar: fel y gwnelech iw tuchan hwynt beidio a mi, ac na byddant feirw.
11A gwnaeth Moses, fel y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo, felly y gwnaeth efe.
12Yna meibion Israel a lefarasant wrth Moses gan ddywedyd, wele ni yn trengu, darfu am danom, darfu am danom ni oll.
13Bydd farw pôb vn gan nessau a nessao idabernacl yr Arglwydd: a orphennwn ni drengu?
Dewis Presennol:
Numeri 17: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.