Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 13

13
PEN. XIII.
Gwyr yn myned i spio gwlâd Canaan. 24 Ac yn dwyn o ffrwyth y wlad gyd a hwynt. 28 Rhai o honynt yn peri i’r bobl arswydo myned rhagddynt i wlâd Canaan. 31 Caleb yn gwrthwynebu y rhai hynny.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:
2Anfon it wŷr i edrych tir Canaan yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi i feibion Israel: gŵr tros bob vn o lwythau eu tadau a anfonwch: pob vn yn bennaeth yn eu mysc hwynt.
3Yna Moses ai hanfonodd hwynt o anialwch Pharan wrth orchymmyn yr Arglwydd, pennaethiaid meibion Israel [oedd] y gwŷr hynny oll.
4Dymma eu henwau hwynt: tros lwyth Ruben Sammua mab Zacur.
5Tros lwyth Simeon, Saphat mab Hori.
6Tros lwyth Iuda, Caleb mab Iephun.
7Tros lwyth Issachar, Igal mab Ioseph.
8Tros lwyth Ephraim, Osea mab Nun.
9Tros lwyth Beniamin, Palti mab Raphu.
10Tros lwyth Zabulon, Gadiel mab Sodi.
11O lwyth Ioseph, tros lwyth Manasses, Gadi mab Susi.
12Tros lwyth Dan, Amiel mab Gemali.
13Tros lwyth Aser, Sehur mab Michael.
14Tros lwyth Nephthali, Nahabi mab Uaphsi.
15Tros lwyth Gad, Guel mab Machi.
16Dymma henwau y gwyr y rhai a anfonodd Moses i edrych ansodd y wlâd: a Moses a henwodd O sea fab Nun, Iosuah.
17A Moses ai hanfonodd hwynt i edrych ansodd gwlad Canaan, ac a ddywedodd wrthynt, ewch ymma tua’r dehau, a dringwch i’r mynydd.
18Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a’r bobl sydd yn trigo ynddi, ai cryf, ai gwan, ai llawer [ydynt.]
19A pheth [yw] y tir yr hwn y maent yn trigo ynddo, ai da, ai drwg, ac ym mha ddinasoedd y maent yn presswylio, ai mewn gwerssylloedd ai mewn caerau.
20A pha dir ai brâs yw efe, ai cûl, a oes goed ynddo ai nad [oes,] ymgryfhewch a chymmerwch o ffrwyth y tir: a’r dyddiau [oeddynt] ddyddiau blaen-ffrwyth grawn-win.
21A hwyntau a aethant, ac a chwiliasant y tîr o anialwch Sin hyd Rehab, ffordd y deuir i Hemath.
22Canys aethant i fynu i’r dehau, a daethant hyd Hebron ac yna [vr oedd] Ahiman, Sesai, a Thalmai, mebion Anac: a Hebron a adailadasid saith mlynedd o flaen Zoan yn yr Aipht.
23A daethant hyd #Deut.1.24.ddyffryn Escol, a thorrasant oddi yno gangen, ac vn wryscen o rawnwin, ac at dugasant ar drossol rhwng dau, [dugasātrai]o’r pomgranadau hefyd, ac o’r ffigus,
24A’r lle hwnnw a alwasant dyffr yn Escol, o achos y wryscen rawn-win yr hon a dorrodd meibion Israel oddi yno.
25A dychwelasant o chwilio y wlâd yn ôl deugain nhiwrnod.
26Yna myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynnulleidfa meibion Israel i Cades yn anialwch Pharan: a dugasant yn eu hol air iddynt, ac i’r holl gynnulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tîr.
27A mynegasant iddo a dywedasant: daethom i’r tîr lle i’r anfonaist ni: #Exod.33.3.a llifeirio y y mae o laeth a mêl: ac fel dymma ei ffrwyth ef.
28Ond [y mae] y bobl y rhai sydd yn trigo yn y tir yn gryf: a’r dinasoedd yn gaeroc, [ac] yn fawrion iawn, a gwelsom yno hefyd feibion Anac.
29Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhîr y dehau, a’r Hethiaid, a’r Iebusiaid, a’r Amoriaid yn gwladychu yn y mynydd-dir: a’r Canaaneaid yn presswylio wrth y môr, a cher llaw yr Iorddonen.
30Yna y gostegodd Caleb y bobl ger bron Moses, ac a ddywedodd: gan fyned awn i fynu, a gorescynnwn hi, canys gan orchfygu y gorchfygwn hi.
31Ond y gwŷr y rhai a aethent i fynu gyd ag ef a ddywedasant, ni allwn fyned i fynu, yn erbyn y bobl [accw,] canys cryfach ydynt na nyni.
32A rhoddasant allan anglod y tîr yr hwn a chwiliasent wrth feibion Israel gan ddywedyd: y tîr yr hwn yr aethom trosto iw chwilio, tîr yn difa ei bresswylwyr yw efe: a’r holl bobl y rhai a welsom ynddo [ydynt] wŷr corphol:
33Ac yno y gwelsom feibion Anac y cawri [y rhai a ddaethant] o’r cawri, ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwyntau.

Dewis Presennol:

Numeri 13: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda