Numeri 1
1
PENNOD. I.
1 Byddino plant Israel. 49 Bod yn rhaid i lwyth Lefi weini yn y babell.
1Yr Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y [dydd] cyntaf o’r ail mis, yn yr ail flwyddyn wedi eu myned hwynt allan o dîr yr Aipht gan ddywedyd.
2 #
Exod.30.12. Num.26.64. Cymmerwch nifer holl gynnulleidfa meibion Israel, yn ol eu teuluoedd wrth dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwryw wrth eu pennau.
3O fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron ai cyfrifwch hwynt yn ol eu lluoedd.
4A bydded gyd a chwi ŵr o bob llwyth, y gwr pennaf o dŷ ei dadau fydd hwnnw.
5A dymma henwau y gwŷr y rhai a safant gyd a chwi: o [lwyth] Ruben Elizarmab Zedeur.
6O [lwyth] Simeon, Selumiel mab Suri Sadai.
7O [lwyth] Iuda Nahesson mab Aminadab.
8O [lwyth] Issachar Nathaniel mab Zuar.
9O [lwyth] Zabulon, Eliab mab Helon.
10O feibion Ioseph [dros lwyth] Ephraim, Elisama mab Ammihud: tros [lwyth] Manasses, Gamaliel mab Pedazur.
11O [lwyth] Beniamin, Abidan mab Gedeon.
12O [lwyth] Dan, Ahiezer mab Ammi Sadi.
13O [lwyth] Aser, Pagiel mab Ocran.
14O [lwyth] Gad, Eliasaph mab Duel.
15O [lwyth] Nepthali Ahira mab Enan.
16Dymma rai enwoc y gynnulleidfa, capteniaid llwythau eu tadau, pennaethiaid miloedd Israel [oeddynt] hwy.
17A chymmerodd Moses ac Aarō, y gwŷr hyn y rhai a yspyssasyd wrth [eu] henwau.
18A chasclasant yr holl gynnulleidfa ar y [dydd] cyntaf o’r ail mis, a rhoddasant eu hachau: drwy eu teuluoedd yn ol tŷ eu tadau tann rif eu henwau o fab vgain mlwydd ac vchod erbyn eu pennau.
19Megis y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai.
20Felly meibion Ruben cyntafanedic Israel oeddynt [wedi rhifo, sef] eu cenedl eu hun, oi teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a alle fyned i ryfel.
21Eu rhifedigion hwynt o lwyth Ruben [oeddynt] chwech a deugain mil a phump cant.
22O feibion Simeon [y rhifwyd] eu cenedl eu hun, oi teuluedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, ei rifedigion [oeddynt] dan rif [eu] henwau erbyn eu pennau pob gwryw o fab vgain mlwydd ac vchod [sef] pob vn ar a alle fyned i ryfel.
23Eu rhifedigion hwynt o lwyth Simeon [oeddynt] onid vn mil tri vgain mil, a thrychant.
24O feibion Gad, eu cenedl eu hun oi teuluoedd eu hun, o dy eu tadau eu hun, dann rif [eu] henwau, pob vn a alle fyned i ryfel o fab vgain mlwydd ac vchod [a rifwyd.]
25Eu rhifedigion hwynt o lwyth Gad [oeddynt] bump a deugain mil, a chwe chant, a dec a deugain.
26O feibion Iuda, eu cenedl eu hun, oi teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dan rif [eu] henwau o fab vgain mlwydd ac vchod, pawb a’r a oeddynt yn gallu myned i ryfel [a rifwyd.]
27Eu rhifedigion hwynt o lwyth Iuda [oeddynt] bedwar ar ddec a thri vgain mil, a chwe chant.
28O feibion Issachar, eu cenedl eu hun oi teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dann rif [eu] henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn a’r a oedd yn gallu myned i ryfel [a rifwyd.]
29Eu rhifedigion hwynt o lwyth Issachar [oeddynt] bedwar ar ddec a deugain o filoedd a phedwar cant.
30O feibion Zabulon, eu cenedl eu hun, oi teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dan rif [eu] henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel [a ryfwyd.]
31Eu rhifedigion hwynt o lwyth Zabulon [oeddynt] ddwy fil ar bymthêc a deugain, a phedwar cant.
32O feibion Ioseph [sef] o feibion Ephraim eu cenedl eu hun, oi teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dan rif [eu] henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod pob vn a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel [a rifwyd.]
33Eu rhifedigion hwynt o lwyth Ephraim [oeddynt] ddeugain mil, a phum cant.
34[Ac] o feibion Manasses eu cenedl eu hun ei teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dan rif [eu] henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel [a rifwyd.]
35Eu rhifedigion hwynt o lwyth Manasses [oeddynt] ddeuddeng mil ar hugain, a dau cant.
36O feibion Beniamin eu cenedl eu hun, oi teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dan rif [eu] henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod pob vn a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel [a rifwyd.]
37Eu rhifedigion hwynt o lwyth Beniamin [oeddynt] bymtheng mil ar hugain a phedwar cant.
38O feibion Dan eu cenedl eu hun, oi teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dan rif [eu] henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel [a rifwyd.]
39Eu rhifedigion hwynt o lwyth Dan, oeddynt ddwy a thrugain o filoedd, a saith cant.
40O feibion Aser eu cenedl eu hun, oi teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dan rif [eu] henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a ydoedd yn gallu myned i ryfel [a rifwyd.]
41Eu rhifedigion hwynt o lwyth Aser [oeddynt] vn mil a deugain, a phum cant.
42[O] feibion Nephtali eu cenedl eu hun, oi teuluoedd eu hun, o dŷ eu tadau eu hun, dan rif [eu] henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel [a rifwyd.]
43Eu rhifedigion hwynt o lwyth Nepthali [oeddynt] dair mil ar ddec a deugain, a phedwar cant.
44Dymma y rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a chapteniaid Israel: [sef] y deuddeng-wr [y rhai] oeddynt bob vn dros dŷ eu tadau.
45Felly yr ydoedd holl rhifedigion meibion Israel, wrth dy eu tadau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel.
46 #
Exod.12.37. Num.11.21. A’r holl rifedigion oeddynt chwe chant mil, a thair mil, a phum cant, a dec a deugain.
47Ond y Lefiaid drwy [holl] lwythau eu tadau ni rifwyd yn eu mysc hwynt.
48Canys llefarase yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.
49Etto na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymmer eu nifer hwynt ym mysc meibion Israel.
50Ond dod ti i’r Lefiaid awdurdod ar babell y destiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn, ac ar yr hyn oll a [berthyn] iddi: hwynt a ddygant y babell, ai holl ddodrefn, ac ai gwasanaethant, ac a werssyllant o amgylch i’r babell.
51A phan symmudo y babell, y Lefiaid ai tynn hi i lawr: a phan arhoso y babell, y Lefiaid ai cyfyd hi: lladder y dieithr a ddelo yn agos.
52A gwerssylled meibion Israel, bob vn yn ei werssyll ei hun, a phob vn wrth ei luman ei hun, drwy eu lluoedd.
53A’r Lefiaid a werssyllant o amgylch pabell y destiolaeth, fel na byddo sorriant yn erbyn cynnulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wiliadwriaeth pabell y destiolaeth.
54A meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaethant.
Dewis Presennol:
Numeri 1: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.