Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 4

4
PEN. IIII.
Dammeg yr hâd. 30 A’r gronyn mwstard. 37 Crist yn gostegu y môr.
1Ac #Math.13.1. Luc 8.4. efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasclodd atto, hyd oni bu iddo fyned i’r llong, ac eistedd ar y môr: a’r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tîr.
2Ac efe a ddyscodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysceidiaeth ef,
3Gwrandewch, wele, hau-ŵr a aeth allan i hau:
4A darfu wrth hau, i beth syrthio ar y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant, ac a’i difâsant.
5A pheth a syrthiodd ar le caregog, lle nid oedd iddo fawr ddaiar, ac yn y fan yr eginodd am nad oedd iddo ddyfnder daiar.
6A phan gododd yr haul y poethwyd ef, ac am nad oedd gwreiddin efe a ŵywodd.
7A pheth a syrthiodd ym mhlith drain, a’r drain a dyfâsant, ac a’i tagâsant ef fel na roddes ffrwyth.
8A pheth arall a syrthiodd mewn tîr da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchol, ac a ddug, peth ei ddecfed ar hugain, a pheth ei drugeinfed, a pheth ei ganfed.
9Yna y dywedodd efe wrthynt, y nêb sydd ganddo glustiau i wrando gwrandawed.
10A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oeddynt yn ei gylch ef gŷd â’r deuddec a ofynnasant iddo am y ddammeg.
11Ac efe a ddywedodd wrthynt, i chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i’r rhai sy allan, ar ddammegion y gwneir pôb peth,
12Fel #Esa.6.9. Math.13.14. Luc.8.10. Ioan.12.40. Act.28.26. Rhuf.11.8yn gweled y gwelant, ac ni chanfyddant, ac yn clywed y clywant: ac ni ddeallant: rhag iddynt ddychwelyd a maddeu iddynt eu pechodau.
13Ac efe a ddywedodd wrthynt, oni wyddoch chwi y ddammeg honn? a pha fodd y gwybyddwch yr holl damhegion eraill?
14Yr hau-wr, sydd yn hau y gair.
15Y rhai yn ymyl y ffordd, yw y rhai lle’r hauwyd y gair, ac wedi iddynt ei wrando, yn ebrwydd y daeth Satan, ac a ddug ymmaith o’u calonnau hwynt y gair a hauasid.
16Ac felly hwynt hwy ynt y rhai a dderbyniant y gair ar le carregog, y rhai wedi iddynt wrando’r gair ydynt yn ei dderbyn yn llawen,
17Ac nid oes iddynt wreiddin ynddynt eu hunain, eithr tros amser y maent: yna pan ddêl blinder ac erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.
18Hwynt hwy hefyd yw y rhai a hauwyd ym mysc y drain, y sawl a wrandawant y gair:
19Ac y mae gofalon y bŷd hwn, #1.Tim.6.17.a hûd cyfoeth, a chwant pethau eraill yn dyfod i mewn, ac yn tagu’r gair, ac y mae efe yn myned yn ddi-ffrwyth.
20Ac hwynt hwy yw y rhai a hauwyd mewn tîr da, y rhai ydynt yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, vn ddêc ar hugain, arall drugain, ac arall gant.
21Ac efe a ddywedodd wrthynt, a #Math.5.15. Luc.8.16. & 11.33ddaw canwyll iw gosod tan lestr neu tan wely, ynte iw gosod ar ganhwyll-bren?
22Canys #Math.10.26. Luc.8.17. & 12.2nid oes dim cuddiedig yr nis amlygir, ac nid oes dim dirgel a’r nas daw i eglurdab.
23Od oes i neb glustiau i wrando, gwrandawed.
24Ac efe a ddywedodd wrthynt: edrychwch #Math.7.2; Luc 6.38. beth a wrandawoch, pa fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau: a chwanegir i chwi y rhai a wrandewch.
25Canys #Math.13 12|MAT 13:12 & 25.29|MAT 25:29. Luc 8: 18|LUK 8:18 & 19: 26. y nêb y byddo ganddo y rhoddir iddo, a’r neb ni byddo ganddo, y dygir oddi arno yr hyn a fyddo ganddo.
26Hefyd efe a ddywedodd: felly y mae teyrnas Dduw fel pe bwrie vn hâd i’r ddaiar,
27A chyscu, a chodi nôs a dydd: a’r hâd yn egino, ac yn tyfu i fynu, ac yntef heb ŵybod pa fodd:
28Canys y ddaiar a ddwg ffrwyth o honi ei hun, yn gyntaf yr eginin, yn ôl hynny y dywysen, yna’r ŷd yn llawn yn y dywysen:
29A phan ymddangoso’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhaiaf.
30Ac efe a ddywedodd ym mhellach, i ba beth y #Mat 13.31.|MAT 13:31. Luc.13.19.cyffelybwn i deyrnas Dduw? neu ar ba ddammeg y gwnawn ni gyffelybrwydd o honi?
31[Y mae] fel gronyn mustard, yr hwn pan hauer yn y ddaiar sydd leiaf o’r holl hadau a’r sydd ar y ddaiar:
32Eithr wedi ’r hauer, y mae yn codi, ac yn myned yn fwy nâ’r holl lyssiau, ac efe a ddwg ganghenhau mawrion, fel y gallo ehediaid yr awyr nythu tan ei gyscod ef.
33Ac â #Math.13.34.chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, fel y gallent ei wrando.
34Ac heb ddamhegion ni thraethodd efe iddynt [ddim:] eithr efe a eglurodd y cwbl oll iw ddiscyblion o’r nailltu.
35Ac efe a ddywedodd wrthynt y dydd hwnnw ym mîn yr hwyr, awn trosodd i’r tu hwnt.
36Ac wedi iddynt ollwng ymmaith y dyrfa, y cymmerasant ef, fel yr oedd yn y llong, ac yr oedd hefyd longau eraill gŷd ag ef.
37Ac fe a gyfodes tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong hyd onid oedd hi yn llawn weithian.
38Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong yn #Math.8.23. Luc.8.22cyscu ar obennydd, yna y deffroasant ef, gan ddywedyd wrtho: ô Athro onid gwaeth gennit er ein colli ni?
39Ac efe wedi codi i fynu a geryddodd y gwynt, gan ddywedyd wrth y môr, gostega: yna y gostyngodd y gwynt, ac y bu tawelwch mawr.
40Ac efe a ddywedodd wrthynt: pa ham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?
41Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedâsant wrth eu gilydd: pwy yw hwn, gan fôd y gwynt a’r môr yn vfyddhau iddo?

Dewis Presennol:

Marc 4: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda