Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 2

2
PEN. II.
Crist yn iachau’r claf o’r parlys, 14 yn galw Mathew, 19 yn amddeffyn ei ddiscyblion am nad ymprydiasent, 23 ac am iddynt dynnu y tywys yd ar y dydd Sabboth.
1Ac #Math.9.1. Luc.5.18efe a aeth eilchwel i Capernaum wedi [ychydig] ddyddiau, a chlywyd ei fôd efe yn tŷ.
2Ac yn y man, llawer a ymgasclasant ynghŷd, hyd na annent mwy, nac yn y lleoedd yng-hylch y drws, ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy.
3Yna y daeth atto rai yn dwyn vn claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar.
4Ac am na allent nesau atto gan y dyrfa, didoi y tŷ a wnaethant, yn yr hwn yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri twll, gollwng i lawr a wnaethant y gwely yn yr hwn y gorwedde’r claf o’r parlys.
5A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, ha fâb, maddeuwyd i ti dy bechodau.
6Ac yr oedd rai o’r scrifennyddion yn eistedd, ac yn ymresymmu yn eu colonnau,
7Pa ham y mae hwn yn dywedyd y cyfryw gabledd? #Esa.43.25; Iob.14.4.pwy a all faddeu pechodau, onid Duw ei hun?
8Ac yn ebrwydd pan ŵybu’r Iesu yn ei yspryd iddynt resymmu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn ymresymmu am y pethau hyn yn eich calonnau?
9Pa vn hawsaf ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, maddeuwyd i ti dy bechodau? ai dywedyd, cyfot, a chymmer ymmaith dy wely, a rhodia?
10Eithr fel y gwypoch fôd i Fâb y dŷn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaiar, (ebyr efe wrth y claf o’r parlys,)
11Wrthit ti yr wyf yn dywedyd, cyfot, a chymmer dy wely i fynu, a dôs i’th dŷ.
12Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymmerth ei wely i fynu, ac yr aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll, hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd: ni welsom ni erioed y cyfryw beth.
13Yna’r aeth efe eilchwel tu â’r môr, a’r holl dyrfa a ddaeth atto, ac efe a’u dyscodd hwynt.
14Ac efe yn myned heibio, efe a #Math.9.9; Luc 5.27.ganfu Lefi [fâb] Alpheus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, canlyn fi: ac efe a gododd, ac a’i canlynodd ef.
15Ac a’r Iesu yn eistedd i fwytta yn ei dŷ ef, darfu i publicanod a phechaduriaid lawer gyd-eistedd â’r Iesu a’i ddiscyblion: canys llawer a’i dilynasent ef.
16A phan ganfu’r scrifennyddion a’r Pharisæaid ef yn bwytta gyd â’r Publicanod a’r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddiscyblion ef, pa ham y mae efe yn bwytta, ac yn yfed gŷd â’r publicanod a’r pechaduriaid?
17A phan glybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, y rhai sy iach nid rhaid iddynt wrth y meddig, ond y rhai cleifion: #1.Tim.1.15.ni ddaethym i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.
18 # Math.9.14. Luc.5.33. A discyblion Ioan a’r Pharisæaid oeddynt yn ymprydio, am hynny y daethant, ac y dywedasant wrtho, pa ham yr ymprydia discyblion Ioan a’r Pharisæaid, a’th rai di heb ymprydio?
19Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, a all plant yr stafell briodas ymprydio tra fyddo’r priodas-fâb gyd â hwynt? tra fyddo ganddynt y priodas-fâb gyd â hwynt ni allant ymprydio.
20Eithr y dyddiau a ddaw pan dyger y priodas-fâb oddi arnynt, ac yna’r ymprydiant y dyddiau hynny.
21Hefyd #Math.9.16.ni wnîa nêb ddernyn o frethyn newydd ar ddillhedyn hên: os amgen ei anghwanegiad a dŷn beth o’r hên, a gwaeth fydd y rhwygiad.
22Ac ni rydd nêb wîn newydd mewn hên gostrelau, os amgen y gwîn newydd a ddryllia’r costrelau, a’r gwîn a rêd allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a roddir mewn costrelau newyddion.
23A bu #Math.12.1. Luc.6.1.iddo fyned trwy’r ŷd ar y Sabboth, a’i ddiscyblion a ddechreuasant ymdaith tan dynnu’r tywys.
24A’r Pharisæaid a ddywedasant wrtho: wele, pa ham y gwnânt ar y Sabboth yr hyn nid yw gyfraithlon?
25Ac efe a ddywedodd wrthynt: oni ddarllenasoch er ioed beth a #1.Bren.21.6.wnaeth Dafydd pan oedd men eisieu, a newyn arno, a’r rhai oedd gyd ag ef?
26Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw tann Abiathar yr arch-offeiriad, ac y bwyttaodd y bara #Exod.24.33.(sic.)gosod, y #Leuit.24.33.(sic.)rhai nid cyfraithlon eu bwytta onid i’r offeiriaid yn vnic, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gŷd ag ef.
27Ac efe a ddywedodd wrthynt, y Sabboth a wnaethpwyd er mwyn dŷn, ac nid dŷn er mwyn y Sabboth,
28Am hynny Mâb y dŷn sydd Arglwydd hefyd ar y Sabboth.

Dewis Presennol:

Marc 2: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda