Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 14

14
PEN. XIIII.
Yr Iddewon yn cydfwriadu yn erbyn Crist. 3 Mair Magdalen yn ei eneinio ef. 12 Crist yn bwyta’r oen Pasc. 18 Yn rhag-rybuddio y bradychid ef. 22 Ac yn ordeinio ei fendigedig swpper. 45 Yr Iddewon wedi i Iudas ei fradychu ef â chusan yn ei ddal ef, ac yn ei gystuddio. 67 A Phetr yn ei wâdu ef deir-gwaith.
1 # 14.1-72 ☞ Yr Efengyl y llun nesaf cyn y Pasc. A’r ben deuddydd wedi yr oedd y Pasc a [gŵyl] y bara croiw: #Math.26.1. Luc.22.1.a’r arch-offeiriaid a’r scrifennyddion a geisiasant pa fordd y dalient ef trwy dwyll iw ladd.
2Eithr dywedasant: nid ar yr ŵyl, rhac bod cynnwrf ym mhlith y bobl.
3Pan oedd efe ym Bethania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o spicnard gwerthfawr, a hi a dorrodd y blwch, ac a’i tywalldodd ar ei ben ef.
4Am hynny yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain ac gan ddywedyd: i ba beth y gwnaethbwyd y golled hon ar enaint?
5O blegit fe a allasid gwerthu hwn vwchlaw trychan ceiniog, a’u rhoddi i’r tlodion, ac hwy a derfyscasant yn ei herbyn hi.
6A’r Iesu a ddywedodd, Gedwch iddi, pa ham yr ydych yn anheddychu arni? hi a wnaeth weithred dda arnafi:
7Canys bob amser y cewch y tlodion gyd â chwi, a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt: ond myfi ni chewch bob amser.
8Hon a wnaeth hynn a allodd, hi a eneiniodd fyng-horph ym mlaen llaw erbyn y claddedigaeth.
9Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon a adroddir er coffa am deni.
10Yna #Math.26.14. Luc.22.4.Iudas Iscariot vn o’r deuddeg a aeth ymmaith at yr arch-offeiriaid iw fradychu ef iddynt.
11A phan glywsant ef, llawen oedd ganddynt, ac hwy a addawsant roddi arian iddo: am hynny y ceisiodd, pa fodd y galle yn gymmwys ei fradychu ef.
12A’r #Math.26.17. Luc.22.7dydd cyntaf o ŵyl y bara croiw, pan aberthâsant y Pasc, y dywedodd ei discyblion wrtho: I ba le yr wyt yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti fwytta’r Pasc?
13Ac efe a anfonodd ddau o’i ddiscyblion gan ddywedyd wrthynt: Ewch i’r ddinas, ac fe a gyferfydd dŷn â chwi yn dwyn stened o ddwfr, dilynwch ef:
14A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ: fod yr Athro yn ddywedyd, Pa le y mae’r llettŷ, lle y gallwyf mi â’m discyblion fwytta’r Pasc?
15Ac efe a ddengys i chwi stafell fawr wedi ei thânu yn barod, yna paratoiwch i ni.
16A’i ddiscyblion a aethant, ac a ddaethant i’r ddinas, ac a gawsant megis y dywedase efe wrthynt, ac a baratoâsant y Pasc.
17Ac yn yr hwyr y daeth efe gyd â’r deuddeg.
18Pan eisteddasant a bwytta, #Math.26.21. Luc.22.21. Iohn.13.21dywedodd yr Iesu, yn wîr meddaf i chwi, vn o honoch a’m bradycha fi yr hwn sydd yn bwytta gyd â mi.
19Hwythau a ddechreuasant dristau, a dywedyd wrtho ol yn ol: ai myfi? ac arall, ai myfi?
20Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, un o’r deuddec yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddyscl [yw efe.]
21Mab y dŷn yn wir sydd yn myned ymmaith fel y mae yn scrifennedic am dano: ond gwae’r dŷn hwnnw trwy’r hwnn y bradychir Mab y dŷn, da fuase i’r dŷn hwnnw pe buase heb ei eni.
22Ac fel #Math.26.26. Luc.21.19. 1.Cor.11.24.yr oeddent yn bwytta, yr Iesu a gymmerth fara, ac wedi iddo roi diolch, efe a’i torres ac a’i rhoddes iddynt, ac a ddywedodd, cymmerwch, bwyttewch, hwnn yw fyng-horph.
23Ac efe a gymmerth y cwppan, ac wedi iddo ddiolch, efe a’i rhoddes iddynt, a hwynt oll a yfasant o honaw.
24Ac efe a ddywedodd wrthynt, hwnn yw fyng-waed i o’r Testament newydd, yr hwnn a dywelldir tros lawer.
25Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych: nad yfaf mwy o ffrwyth y winŵydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.
26Ac wedi iddynt roi moliant, hwynt hwy a aethant allan i fynydd Olewydd.
27A dywedodd yr Iesu wrthynt: #Iohn.16.32.y nos hon i’ch rhwystrir chwi oll o’m hachos i. Canys scrifennedic yw, #Zach.13.7.Tarawaf y bugail, a’r defaid a wascerir.
28Eithr wedi i mi adgyfodi #Marc.16.7.mi a âf o’ch blaen i Galilæa.
29Petr a ddywedodd wrtho: pe byddai rhwystrid pawb, ni [rhwystrir] mo honofi.
30Yna y dywedodd yr Iesu wrtho: yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti: heddyw o fewn y nos hon cyn canu o’r ceiliog ddwy-waith, y gwedi fi dair-gwaith.
31Ac efe a ddywedodd yn gadarnach o lawer, pe gorfydde i mi farw gyd â thi ni’th wadaf, yr vn modd hefyd y dywedasant oll.
32Ac #Math.26.36. Luc.22.39.wedi iddynt ddyfod i’r lle a elwir Gethsemane, yna efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, eisteddwch ymma tra fyddwyf yn gweddio.
33Ac efe a gymmerth gyd ag efe Petr ac Iaco, ac Ioan, ac a ddechreuodd arswydo, a thristau yn ddirfawr.
34Ac efe a ddywedodd wrthynt: y mae fy enaid yn drist hyd angeu, arhoswch, a gwiliwch.
35Ac efe a aeth ychydig pellach, ac a syrthiodd ar y ddaiar, ac a weddiodd, o bai bossibl ar fyned yr awr honno oddi wrtho.
36Ac efe a ddywedodd: Abba, Dad, pob peth a elli di, tro ymmaith y cwppan hwn oddi wrthif: eithr [bydded] nid yr hyn a fynnwyf fi, eithr yr hyn [a fynnech] di.
37Ac efe a ddaeth ac a’u cafodd hwynt yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr: Simon, a’i cyscu yr wyt? ani allit wilio vn awr?
38Gwiliwch a gweddiwch, rhag eich myned mewn temtasiwn: yr yspryd yn ddiau sydd ewyllyscar, eithr y cnawd sydd wann.
39Ac wedi iddo fyned eil-waith, efe a weddiodd gan ddywedyd yr vn ymadrodd.
40Ac wedi iddo ddychwelyd, efe ai cafodd hwynt eil-waith yn cyscu, (canys yr oedd eu llygaid hwynt yn drymmion) ac ni ŵyddent beth a attebent iddo.
41Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, cyscwch weithian a gorphywyswch, digon yw: daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dŷn i ddwylo pechaduriaid.
42Cyfodwch, awn: wele y mae yr hwn sydd i’m bradychu yn agos.
43Ac #Math.26.47. Luc.22. Ioan.18.3.yn y man ag efe etto yn llefaru daeth Iudas vn o’r deuddec, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffynn, oddi wrth yr arch-offeiriaid a’r scrifennyddion a’r henuriaid.
44A’r hwn a’i bradychodd ef a roddase arwydd iddynt gan ddywedyd: pwy bynnag a gussanwyf, hwnnw yw, deliwch ef, a dygwch ymmaith yn siccr.
45A phā ddaeth, yn ebrwydd yr aeth atto, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi, ac a’i cusanodd ef.
46A hwynt a ymafaelant ynddo, ac a’i daliasant.
47Ac vn o’r rhai oeddynt yn sefyll ger llaw a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ef.
48A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, chwi a ddaethoch allan fel at leidr, â chleddyfau, ac â ffynn i’m dala i.
49Beunydd yr oeddwn gyd â chwi, yn athrawiaethu yn y Deml, ac ni’m daliasoch, ond rhaid yw cyflawni’r scrythyrau.
50Yna hwynt hwy oll a’i gadawsant ef, ac a ffoasant.
51Ac vn gwr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef wedi ymwisco â lliain main ar [ei gorph] noeth, y gwŷr ieuaingc a ddaliasant hwn.
52Yr hwn a adawodd y lliain, ac a ddiangodd yn noeth-lwm oddi wrthynt.
53 # Math.26.57. Luc.22.54. Ioan.18.24. Ac hwy a ddugasant yr Iesu at yr arch-offeiriad: a’r oll arch-offeiriaid a’r henuriaid, a’r scrifennyddion a ymgasclasant gyd ag ef.
54A Phetr oedd yn ei ddilyn ef o hirbell, oni ddaeth efe i mewn i lŷs yr arch-offeiriad, ac yr oedd efe yn eistedd gyd â’r gwasanaeth-wŷr, yn ymdwymno wrth y tân.
55A’r #Math.26.59.arch-offeiriaid a’r holl gyngor oedd yn ceisio destiolaeth yn erbyn yr Iesu, iw roi ef iw farwolaeth, ac ni chawsant.
56Canys llawer a ddugasant gau destiolaeth yn ei erbyn ef, eithr nid oedd eu testiolaethau hwynt yn gysson.
57Yna y cyfodes rhai i gam destiolaethu yn ei erbyn ef gan ddywedyd:
58Ni a’i clywsom ef yn dywedyd, #Ioan.1.19. mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw.
59Ac etto nid oedd eu testiolaeth hwynt gymmwys.
60Yna y cyfododd yr arch-offeiriad yn eu canol hwynt, ac a fynnodd i’r Iesu gan ddywedyd: Ond attebi di ddim? Beth y mae y rhai hyn yn ei destiolaethu yn dy erbyn?
61Ac efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. drachefn yr arch-offeiriad a ofynnodd iddo gan ddywedyd wrtho: ai ty di yw Christ Mab y Bendigedig?
62Yr Iesu a ddywedodd, Myfi yw, a #Math.24.30.chwi a gewch weled Mab y dŷn yn eistedd ar ddeheu gallu Duw, ac yn dyfod yng-hwmylau’r nef.
63Yna yr arch-offeiriad gan rwygo ei ddillad a ddywedodd: Pa raid i ni mwy wrth dystion?
64Chwi a glywsoch gabledd, beth dybygwch chwi? a hwynt oll a’i barnasant yn euog o farwolaeth.
65Yna y dechreuodd rhai boeri arno a chuddio ei wyneb, a’i gernodio, a dywedyd wrtho, prophwyda, a’r gweinidogion a’i tarawsant â gwiail.
66Ac fel #Math.26.69. Luc.22.55. Ioan.18.25.yr oedd Petr yn y neuadd i wared daeth vn o forwynion yr arch-offeiriad:
67A phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd: Tithe hefyd oeddit gyd ag Iesu o Nazareth.
68Ac efe a wadodd, gan ddywedyd: Nid adwen i, ac ni wn, beth yr wyt yn ei ddywedyd, ac efe a aeth allan i’r porth, a’r ceiliog a gânodd.
69Yna #Math.27.71.(sic.)|MAT 26:71. Luc.22.56. Ioan. 18.25.’r forwyn pan welodd hi ef trachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oeddynt yn sefyll yno, y mae hwn o honynt.
70Ac efe a wadodd trachefn: ac ychydig wedi y rhai oeddynt yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Petr trachefn, yn wir yr wyt o honynt, canys Galilead wyt, a’th leferydd sydd debyg.
71Pan y dechreuodd efe regu a thyngu, nid adwen i mo’r dŷn yr hwn yr ydych chwi yn ei ddywedyd.
72 # Math.27.57. Ioan. 13.38. Yna y cânodd y ceiliog eilchwel: a Phedr a gofiodd y gair a ddywedase’r Iesu wrtho, cyn cânu o’r ceiliog ddwy-waith, ti a’m gwedi deir-gwaith: a chan ruthro allan efe a ŵylodd.

Dewis Presennol:

Marc 14: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda