Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 5

5
PEN. V.
Crist yn dangos dedwyddwch neu wynfyd dyn. 13 Bod eglwyswyr yn halen y ddaiar, yn oleuni y byd, ac yn ddinas ar wedi ei gosod ar fryn. 16 Am weithredoedd da. 19 Dyfod Crist i gyflawni’r gyfraith.
1 # 5.1-19 ☞ Yr Efengyl ar ddydd calan gaiaf. A phan welodd [yr Iesu] y tyrfaoedd, efe a escynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddiscyblion a ddaethant atto:
2Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dyscodd gan ddywedyd,
3Gwyn eu bŷd y #Luc.6 20.tlodion yn yr yspryd, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
4Gwyn eu byd y rhai sydd #Esai.61.23. & 65: 13. Luc 6.21galarus, canys hwynt a ddiddênir.
5Gwyn eu bŷd #Psal.37.11.y rhai addfwyn: canys hwy a feddiannant y ddaiar.
6Gwyn eu bŷd y rhai sy #Esa.65.13.arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.
7Gwyn eu bŷd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.
8Gwyn eu bŷd #Psal.14.4.y rhai glân o galon: canys hwy a welant Dduw.
9Gwyn eu bŷd y tangneddyf-wŷr: canys hwy a elwir yn blant Duw.
10Gwyn eu bŷd y rhai #1.Pet.3.14.a erlidir er mwyn cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
11Gwyn eich bŷd #Act.5.41 1.Pet.4.14.pan eich cablo dynion a’ch erlid, a dywedant bob rhyw ddryg-air am danoch er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog:
12Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oherwydd felly yr erlidiasant hwy y prophwydi y rhai a [fuant] o’ch blaen chwi.
13Chwi #Marc.9.50.ydych halen y ddaiar, eithr o diflasodd yr halen, â #Luc.14.34.pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim, onid iw fwrw allan, a’i sathru gan ddynion.
14Chwi yw goleuni y byd, dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio.
15Ac ni oleuant ganwyll a’i dodi dan lestr, #Marc.4.21. Luc.8.16 & 21.33. 1.Pet.2.12onid mewn canhwyllbren, a goleuo a wna hi i bawb a’r sy yn y tŷ.
16Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelant eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddant eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
17Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith, neu’r prophwydi, ni ddaethym i dorri, ond i gyflawni.
18Canys yn wir meddaf i chwi, hyd oni #Luc.16.17.ddarfyddo nef a daiar, ni dderfydd vn iod, nac vn tippin o’r gyfraith hyd oni chwpleir oll.
19Pwy bynnac can hynny a dorro’r vn o’r gorchymynnion lleiaf hyn, ac a ddysc i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nef: ond pwy bynnag ai gwnelo, ac ai dysco i eraill, hwnnw a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd.
20 # 5.20-26 ☞ Yr Efengyl ar y chweched Sul wedi ’r Drindod. Canys meddaf i chwi, oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach nâ [chyfiawnder] yr scrifennyddion a’r Pharisæaid, nid ewch i deyrnas nefoedd.
21Clywfoch ddywedydgan y #Luc.11.39. Exod.20.13. Deut.5.17.rhai gynt, Na ladd: a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn.
22Eythr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, mai pwy bynnac a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn, a phwy bynnac a ddywedo wrth ei frawd, Raca, fydd euog o gyngor: a phwy bynnac a ddywedo, ô ynfyd, a fydd euog o dan vffern.
23A chan hynny os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn:
24Gâd ti yno dy offrwm ger bron yr allor, a dos ymmaith: yn gyntaf cymmod â’th frawd, ac yno tyret, ac offrwm dy rodd.
25Cytuna â’th wrthwynebwr yn gyflym, tra fyddech ar y ffordd gyd ag ef, #Luc.22.58.rhag i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r ynad, ac i’r ynad dy roddi at y rhyngill, a’th daflu yng-harchar.
26Yn wir meddaf i ti, ni ddeui di allan oddi yno hyd oni thelech yr hatling eithaf.
27Clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, #Exod 20.14.na wna odineb.
28Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, pwy bynnac a edrycho ar wraig iw chwennychu hi, iddoi wneuthur eusus â hi odineb yn ei galon.
29Os #Math.18.8. Marc.9.47.dy lygad dehau dithe a’th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit: canys gwell iti golli vn o’th aelodau, nâ thaflu dy holl gorph i vffern.
30Hefyd os dy law ddehau a’th rwystra, torr hi ymmaith, a bwrw oddi wrthit: canys gwell i ti golli vn o’th aelodau, nâ thaflu dy holl gorph i vffern.
31Dywetpwyd hefyd, #Math.19.7. Deut.24.1. Marc.10.4. Luc 16.18. 1 Cor.7.10.pwy bynnac a ollyngo ymmaith ei wraig, rhoed iddi lythr yscar.
32Ond yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, mai pwy bynnac a ollyngo ei wraig ymmaith, onid o achos godineb, a wna iddi fod yn gwneuthur godineb, a phwy bynnac a briodo yr hon a yscarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.
33Trachefn chwi a glywsoch ddywedyd wrth y rhai o’r cynfyd, #Exo.20.7. leuit.19.12. Deut.5.11.na thwng anudon, eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd.
34Ond meddaf i chwi, na thwng ddim, nac i’r nef, canys gorseddfa Duw ydyw:
35Nac i’r ddaiar, canys maingc ei droed ef ydyw: nac i Ierusalem, canys dinas y brenin mawr ydyw.
36Ac na thwng i’th ben, am na elli wneuthur vn blewyn yn wynn, neu yn ddu.
3737 Eithr #Iaco.5.12.bydded eich ymadrodd chwi, Ie, Ie, nag ê nag ê, oblegit beth bynnac sydd tros ben hyn, o ddrygioni y mae.
38Clywsoch ddywedyd, #Exo.21.24. Leuit.24.20. Deut.19.21.llygad am lygad, a daint am ddaint.
39Eithr yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi, #Luc.6.29. Rom.12.17. 1 cor.6.7.na wrthwynebwch ddrwg, ond pwy bynnac a’th darawo ar dy rudd ddehau, tro’r llall atto hefyd.
40Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd.
41A phwy bynnag a’th gymhello vn filltir, dôs gyd ag ef ddwy.
42 # Deut 15.8. Dyro i’r hwn a gais gennit, ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwyna gennit.
43Clywsoch ddywedyd, #Leuit.19.18.câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.
44Eithr yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi, cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melldithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, #Luc 6.27. & 23-34. act 7.60a gweddiwch tros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiāt.
45Fel #1 Cor 4.13. luc 6.35.y byddoch blant eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri iw haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn.
46Oblegit os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr vn peth?
47Ac os cyferchwch eich brodyr yn vnig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur, onid ydyw y publicanod yn gwneuthur felly?
48Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, yn berffaith.

Dewis Presennol:

Mathew 5: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda