Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 27

27
PEN. XXVII.
Yr Iddewon yn rhoddi Crist yn rhwym at Pilat. 34 Hwy yn ei roddi ef ar y groes, ac yn ei gablu, 50 Ac yntef yn marw. 57 Ioseph yn ei gladdu ef.
1A Phan #Mar.15.1.|MRK 15:1. Luc.22.66. Ioan.18.28.ddaeth y boreu, yr ymgynghorodd yr holl arch-offeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu fel y rhoddent ef i farwolaeth.
2Ac hwy a aethant ymmaith ag ef yn rhwym, ac a’i rhoesant at Pontius Pilatus y rhaglaw.
3Yna pan weles Iudas yr hwn a’i bradychodd ef fyned barn yn ei erbyn ef, fe a fu edifar ganddo, ac a ddug trachefn y dêc ar hugain arian i’r arch-offeiriaid a’r henuriaid,
4Gan ddywedyd, pechais gan fradychu gwaed gwirion, hwytheu a ddywedasāt, pa beth yw hynny i ni? edrych ti.
5Ac wedi iddo daflu’r arian yn y Deml, efe a ymadawodd, ac a aeth, #Act.1.18.ac a ymgrogodd.
6A’r arch-offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y tryssor-dŷ, canys gwerth gwaed ydyw.
7Ac wedi iddynt ymgynghori, hwy a brynnasant ag hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa diethriaid.
8Ac am hynny y gelwir y maes hwnnw, #Act.1.19.maes y gwaed, hyd heddyw.
9(Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywetpwyd trwy Ieremias y prophwyd, gan ddywedyd, ac hwy a gymmerasant #Zach.11.12.ddec ar hugain o arian, gwerth y gwerthedic, yr hwn a brynnasant gan feibion Israel.
10Ac hwy ai rhoesāt am faes y crochenydd, megis y gosodes yr Arglwydd i mi)
11A’r #Mar.15.2.|MRK 15:2. Luc.23.3. Ioan.18.33.Iesu a safodd ger bron y rhaglaw, a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd: a wyt ti yn frenin yr Iddewon? a’r Iesu a ddywedodd wrtho, ti a’i ddywedaist.
12A phan gyhuddwyd ef gan yr arch-offeiriaid a’r henuriaid, nid attebodd efe ddim.
13Yna y dywedodd Pilatus wrtho, oni chlywi faint o bethau y maent hwy yn eu testiolaethu yn dy erbyn?
14Ac nid attebodd efe iddo vn gair, fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.
15Ac ar yr ŵyl honno yr arfere y rhaglaw ollwng i’r bobl vn carcharor, yr hwn a ofynnent.
16Yna yr oedd ganddynt garcharor hynod a elwyd Barrabas.
17Ac wedi iddynt ymgasclu yng-hyd, Pilatus a ddywedodd wrthynt, pa vn a fynnwch i mi ei ollwng i chwi? Barrabas, ai’r Iesu ’r hwn a elwir Crist?
18Canys efe a ŵydde yn dda, mai o genfigen y rhoddasent ef.
19Ac efe yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ei wraig a ddanfonodd atto gan ddywedyd, na fydded i ti a wnelech â’r cyfiawn hwnnw, canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwydion o’i achos ef.
20A’r #Mar.15.11.|MRK 15:11. Luc.23.18.|LUK 23:18. Ioan.15.40.(sic.)|JHN 18:40. Act.3.14arch-offeiriaid a’r henuriaid a hudasant bobl i ofyn Barrabas, a difetha’r Iesu.
21A’r rhaglaw a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, pa vn o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng i chwi? hwythau a ddywedasant, Barrabas.
22Pilatus a ddywedodd wrthynt, pa beth a wnaf i Iesu ’r hwn a elwir Crist? hwy oll a ddywedâsant wrtho, croes-hoelier ef.
23Yna y dywedodd y rhaglaw, ond pa ddrwg a wnaeth efe? yna y llefâsant yn fwy, gan ddywedyd, cros-hoelier ef.
24Pan welodd Pilatus na thyccie iddo, ond bôd mwy o gynnwrf yn codi, efe a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo ger bron y bobl, gan ddywedyd, dieuog ydwyf oddi wrth waed y cyfiawn hwn, edrychwch chwi.
25A’r holl bobl a attebodd, ac a ddywedodd, bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.
26Yna y gollyngodd efe Barrabas iddynt, ac efe a fflangellodd yr Iesu, ac a’i rhoddes iw groes-hoelio.
27Yna #Mar.15.16.|MRK 15:16. Ioan.19.2.mil-wŷr y rhaglaw a gymmerasant yr Iesu i’r dadleudŷ, ac a gynhullasant atto yr holl fyddin.
28Ac hwy a’i dioscasant, ac a roesant am dano fantell o scarlat,
29Ac a blethâsant goron ddrain, ac a’i dodasant ar ei benn, a chorsen yn ei law, ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarâsant, gan ddywedyd, henffych well, Brenin yr Iddewon.
30Ac hwy a boerâsant arno, ac a gymmerasant gorsen, ac a’i tarawsant ar ei benn.
31Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i dioscasant ef o’r fantell, ac a’i gwiscasant ef â’i ddillad ei hun, ac a aethant ag ef iw groes-hoelio.
32 # Mar.15.21.|MRK 15:21. Luc.23.26. Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddŷn o Ciren a elwyd Simon: a hwn a gymhellhâsant hwy i ddwyn ei groes ef.
33A #Mar.15.22.|MRK 15:22. Luc.23.20. Ioan.19.17.phan ddaethant i le a elwyd Golgatha, sef yr hwn yw y benglogfa,
34Hwy a roesant iddo iw yfed finegr yn gymyscedic â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.
35Ac #Mar.15.24.wedi iddynt ei groes-hoeli ef, hwy a rannasant ei ddillad, ac a fwriasant goel-brennau, er cyflawni y peth a ddywetpwyd trwy’r prophwyd: #Psal.22.18.hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fyng-wisc y bwriasant goel-brennau.
36Ac hwy a eisteddâsant, ac a’i gwiliâsant ef yno.
37Ac hwy a osodâsant hefyd vwch ei benn ef ei achos yn scrifennedic, Hwn Yw Iesv Brenin Yr Iddewon.
38Yna y croes-hoeliwyd dau leidr gŷd ag ef, vn ar y llaw ddehau, ac arall ar yr asswy.
39A’r rhai oeddynt yn myned heibio a’i cablasant ef, gan escwyt eu pennau,
40A dywedyd, ti’r hwn a #Ioan.1.19.ddestruwi’r Deml, ac a’i hadailedi mewn tri-diau, cadw dy hun, os ti yw Mâb Duw, descyn oddi ar y groes.
41A’r vn modd yr arch-offeiriaid a’i gwatwarasant ef, gŷd â’r scrifennyddion a’r henuriaid, gan ddywedyd,
42Efe a waredodd eraill, nis gall efe ei ymwared ei hun: os Brenin yr Israel yw efe, descynned yr awr hon oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.
43Efe a #Psal.22.8.ymddyriedodd yn Nuw, rhyddhaed efe ef yr awr hon os myn ef: canys efe a ddywedodd, Mâb Duw ydwyf.
44Yr vn peth hefyd a edliwiodd y lladron, y rhai a grogasid gŷd ag ef, iddo ef.
45Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch mawr ar yr holl ddaiar, hyd y nawfed awr.
46Ac yng-hylch y nawfed awr, y llefodd yr Iesu â llef vchel, gan ddywedyd Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, #Psal.22.1.fy Nuw, fy Nuw, pa ham i’m gwrthodaist?
47A rhai o’r sawl oeddynt yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedâsant, y mae hwn yn galw ar Elias.
48Ac yn y fan vn o honynt a redodd, ac a gymmerth #Psal.69.20.yspwrn, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddes ar gorsen, ac a’i rhoes iddo, iw yfed.
49Eraill a ddywedâsant, gad ti iddo: edrychwn a ddaw Elias iw waredu.
50Yna y llefodd yr Iesu trachefn â llef vchel, ac a ymadawod â’r yspryd.
51Ac wele, #2.Cron.3.14.llen y deml a rwygwyd yn ddau, o’r cwrr vchaf hyd yr isaf, a’r ddaiar a grynodd, a’r main a holltwyd.
52A’r beddau a ymagorâsant, a llawer o gyrph y sainct y rhai a oeddynt yn huno, a godâsant,
53Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosâsant i lawer.
54Pan welodd y canwriad, a’r rhai oeddynt gŷd ag ef yn gwilied yr Iesu, y ddaiar yn crynu, a’r pethau a wnaethid, hwy a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, yn wir Mâb Duw ydoedd hwn.
55Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych arno o hir-bell, y rhai a ganlynâsent yr Iesu o’r Galilæa gan weini iddo ef.
56Ym mhlith y rhai ’r oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iaco, ac Ioses, a mam meibion Zebedeus.
57 # 27.57-66 ☞ Yr Efengyl nos Basc. Ac wedi ei #Mar.15.42.|MRK 15:42 Luc.23.50. Ioan.19.38.myned hi yn hwyr fe a ddaeth gŵr goludog o Arimathia, a’i henw Ioseph, yr hwn a fuase yntef yn ddiscybl i’r Iesu.
58Hwn a aeth at Pilatus, ac a ofynnodd gorph yr Iesu: yna y gorchymynnodd Pilatus roddi’r corph.
59Ac felly y cymmerth Ioseph y corph, ac a’i hamdoes â lliain main glân.
60Ac a’i rhoddes yn ei fedd newydd, yr hwn a dorrase efe mewn craig, ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymmaith.
61Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a Mair arall yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
62A thrannoeth yr hwn sydd ar ôl y darparwyl yr ymgynhullodd ’r arch-offeiriaid a’r Pharisæaid at Pilatus,
63Ac a ddywedasant, ô arglwydd y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyll-wr hwnnw, ac efe etto yn fyw, o fewn tri-diau y cyfodaf.
64Gorchymyn gan hynny gadw y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod ei ddiscyblion o hŷd nos a’i ladratta ef, a dywedyd wrth y bobl, efe a gyfododd o feirw, ac felly y bydd yr amryfusedd dyweddaf yn waeth nâ’r cyntaf.
65Yna y dywedodd Pilatus wrthynt, y mae gennych wiliadwriaeth, ewch, gwnewch mor ddiogel ac y medroch.
66Ac hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel a’r wiliadwriaeth, ac a seliasant y maen.

Dewis Presennol:

Mathew 27: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda