Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 21

21
PEN. XXI.
Crist yn marchogaeth ar assyn i Ierusalem, 12 yn gyrru y pryn-wyr a’r gwerth-wyr o’r Deml, 19 y ffigys-pren yn gwywo, 25 bedydd Ioan, 28 pwy fydd yn gwneuthur ewyllys Duw, 35 y gwinllan-wyr anghyfiawn yn arwyddocau anniolchgarwch yr Iddewon.
1 # 21.1-13 ☞ Yr Efengyl y Sul cyntaf o’r Adfent. A #Mar.11.1|MRK 11:1. Luc.19.29Phan ddaethant yn gyfagos i Ierusalem a’u dyfod hwy i Bethphage i fynydd yr Oliwŷdd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddiscybl,
2Gan ddywedyd wrthynt, ewch i’r dref sydd ar eich cyfer chwi, ac yn y man chwi a gewch assyn yn rhwym, ac ebol gyd â hi: gollyngwch hwynt, a dygwch attafi.
3Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch fod yn rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man, efe a’u gollwng hwynt.
4A hyn oll a wnaethpwyd i gyflawni yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwyd, gan ddywedyd,
5 # Esai.62.11.|ISA 62:11. Zacha.9.9.|ZEC 9:9. Ioan.12.15. Dywedwch i ferch Sion, wele, dy Frenin yn dyfod attat yn fwyn, ac yn eistedd ar assyn, ac ebol llwdn assyn arferol â’r iau.
6Y discyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynnodd yr Iesu iddynt.
7A hwy a ddugasant yr assyn a’r ebol, ac a ddodâsant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef ar hynny.
8A thyrfa ddirfawr a danâsant eu dillad ar y ffordd: eraill a dorrasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u tanâsant ar hyd y ffordd.
9A’r dyrfa bobl y rhai oeddynt yn myned o’r blaen, a’r rhai oeddynt yn dyfod ar ôl a lefâsant, gan ddywedyd: Hosanna i fâb Dafydd: bendigedic fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd, Hosanna yn y goruchelder.
10Ac wedi ei ddyfod ef i Ierusalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, pwy yw hwn?
11A’r bobl a ddywedasant, hwn yw’r Iesu y prophwyd o Nazareth yn Galilæa.
12 # Mar.11.15.|MRK 11:15. Luc.19.45. Ioan.2.13. A’r Iesu a aeth i mewn i Deml Dduw, ac ai taflodd hwynt oll allan bawb y rhai oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newid-wŷr arian, a chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu colomennod.
13Ac a ddywedodd wrthynt, y #Esai.56.7.mae yn scrifennedic, tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ maufi, eithr #Iere.7.11.|JER 7:11. Marc.11.17. Luc.19.46.chwi a’i gwnaethoch yn ogof ladron.
14Yna y daeth y deillion a’r cloffion atto yn y Deml, ac efe a’u hiachaodd hwynt.
15A phan welodd yr arch-offeiriaid a’r scrifennyddion y rhyfeddodau a wnaethe efe, a’r plant yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fâb Dafydd, hwy a lidiâsant,
16Ac hwy a ddywedâsant wrtho, a wyt ti yn clywed yr hyn a ddywed y rhai hyn? a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ydwyf, oni ddarllennâsoch chwi er ioed, #Psal.8.2o enau plant bychain, a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?
17Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o’r ddinas, i Bethania, ac a leteuodd yno.
18A’r boreu fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno newyn.
19A phan welodd efe ryw ffigus-bren ar y ffordd, efe a ddaeth atto, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn vnic, ac efe #Mar.11.13.a ddywedodd wrtho, na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach, ac yn ebrwydd y crinodd y ffigus-bren
20A phan welodd y discyblion, hwy a ryfeddâsant gan ddywedyd, pa fodd y crînodd y ffigus-bren yn y fann?
21A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, #Math.17.20.yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd, ac heb ammau dim, ni wnewch yn vnic hyn [a wnaethym] i’r ffigus-bren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, ymgyfot, a bwrw dy hun i’r môr, hynny fydd.
22A’r hyn #Math.7.7. Ioan.14.13. 1.Ioan.5.14.oll a ddymunoch mewn gweddi gan gredu, a dderbyniwch chwi.
23Ac wedi ei ddyfod efe i’r Deml, yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant atto fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd hyn, #Marc.11.27. Luc.20.2.wrth ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hyn?
24A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, minne a ofynnaf i chwithau vn gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnef a fynegaf i chwithau, wrth ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
25Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? yna y rhesymmâsant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd: os dywedwn mai o’r nef: efe a ddywed wrthym, pa ham gan hynny na’s credâsoch ef.
26Ac #Math.14.5. Marc.6.20.os dywedwn mai o ddynion, y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb oll yn cymmeryd Ioan fel prophwyd.
27Yna yr attebâsant i’r Iesu gan ddywedyd, ni ŵyddom ni: ac yntef a ddywedodd wrthynt, nid wyf finne yn dywedyd i chwi wrth pa awdurdod yr wyf yn gwneuthur hyn.
28Ond beth a dybygwch chwi? yr oedd i ŵr ddau fab, ac efe a ddaeth at yr hynaf, ac a ddywedodd, dôs fâb a gweithia heddyw yn fy ngwinllan.
29Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, nid âf fi: ond wedi hynny yn ôl edifarhau arno, efe a aeth.
30A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr vn modd, ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, mi a âf arglwydd: ac nid aeth efe.
31Pa vn o’r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? dywedasant wrtho, y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, yn wir meddaf i chwi, yr aiff y Publicanod a’r puteinied o’ch blaen chwi i deyrnas Dduw.
32Canys #Math.3.4.daeth Ioan attoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef: ond y Publicanod a’r puteiniaid a’i credâsant ef: chwithau yn gweled nid edifarhausoch wedi hynny fel y credech ef.
33Clywch ddammeg arall: #Esa.5.1. Ier 2.21.|JER 2:21. Mar.12.1.|MRK 12:1. Luc.20.9.yr oedd rhyw ddŷn o berchen tŷ yr hwn a blannodd win-llan, ac ai caeodd hi o amgylch, ac a wnaeth ei win-wryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd i lafur-wŷr, ac a aeth i bell.
34A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafur-wŷr, i ddorbyn i dderbyn ei ffrwythau hi:
35A’r llafur-wŷr a ddaliasant ei weision ef, ac a darawsant vn, ac arall a laddâsant, ac arall a labyddiâsant hwy.
36Trachefn efe a anfonodd weision eraill mwy na’r rhai cyntaf: ac hwy a wnaethant iddynt yr vn modd.
37Ac yn ddiweddaf oll efe a anfonodd attynt hwy ei fâb ei hun, gan ddywedyd, hwy a barchant fy mâb i.
38A phan welodd y llafur-wŷr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, #Math.26.3. Ioan.11.53.hwn yw yr etifedd: deuwch lladdwn ef, a chymerwn ei etifeddiaeth ef.
39Ac wedi iddynt ei ddal ef, hwy a’i cymerâsant ef, ac a’i taflâsant allan o’r winllan, ac a’i lladdâsant ef.
40Am hynny, pan ddel arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafur-wŷr hynny?
41Hwy a ddywedasant wrtho, efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y win-llan i lafur-wŷr eraill, y rhai a roddant iddo ffrwyth yn eu hamserau.
42A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr scrythyrau, #Psal.118.22. Act.4.11. Rhuf.9.33. 2.Pet.2.7.y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwnnw a wnaethpwyd yn benn congl? yr Arglwydd a’i gwnaeth, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.
43Am hynny meddaf i chwi, y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwyth.
44A phwy #Esa.8.14.bynnac a syrthio ar y maen hwn efe a ddryllir: ac ar bwy bynnac y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.
45A phan glybu’r arch-offeiriaid a’r Pharisæaid ei ddamhegion, hwy a ŵybuant mai am danynt hwy y dywedase efe.
46Ac hwy yn ceisio ei ddala, a ofnasant y bobl, am eu bod yn ei gymmeryd ef fel prophwyd.

Dewis Presennol:

Mathew 21: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda