Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 17

17
PEN. XVII.
1 Ymrithiad Crist ar fynydd Thabor. 11 Am Elias, ac Ioan fedyddiwr. 20 Grym ffydd, ympryd, a gweddi. 22 Crist yn rhagfynegi am ei ddioddefaint. 24 Ac yn talu teyrn-ged.
1Ac #Mar.9.2.|MRK 9:2. Luc 9.28.chwe diwrnod wedi [hynny] y cymmerodd yr Iesu Petr, ac Iaco, ac Ioan ei frawd, ac ai dug hwynt i fynydd vchel o’r nailltu.
2Ac efe a ymrithiodd ger eu bron hwy, a’i wyneb a ddiscleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni.
3Ac wele Moses ac Elias yn ymddangos iddynt, ac yn ymddiddan ag ef.
4Yna yr attebodd Petr, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, ô Arglwydd, da ydyw i ni fod ymma: os ewyllysi, gwnawn ymma dair pabell, vn i ti, ac vn i Moses, ac vn i Elias,
5Ac efe etto yn llefaru, wele gwmwl goleu yn eu cyscodi hwynt, ac wele lef o’r cwmwl yn dywedyd, #Math.3.17. 2.Pet.1.17hwn yw fyng-haredig Fâb yn yr hwn i’m bodlonwid, gwrandewch arno ef.
6A phan glybu y discyblion hynny, syrthiasant ar eu hwynebau, ac hwy a ofnasant yn ddirfawr.
7Yna y daeth yr Iesu, ac y cyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, cyfodwch, ac nac ofnwch.
8Ac wedi iddynt dderchafu eu golwg, ni welsant neb onid yr Iesu yn vnic.
9Fel yr oeddynt yn descyn o’r mynydd y gorchymynnodd yr Iesu iddynt gan ddywedyd, na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni chyfodo Mâb y dŷn o feirw.
10A’i ddiscyblion a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, pa ham gan hynny y #Mar.9.11.12.|MRK 9:11,12 Mala.4.5.|MAL 4:5. Math.11.14.mae’r scrifennyddion yn dywedyd fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf.
11A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Elias yn ddiau a ddaw yn gyntaf, ac a edfryd bôb peth.
12Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Elias yn barod, ac nad adnabuont hwy ef, a gwneuthur o honynt iddo ef beth bynnac a synnasant: felly y bydd i Fâb y dŷn ddioddef ganddynt hwy.
13Yna y dehallodd y discyblion, mai am Ioan Fedyddiwr y dywedase efe wrthynt.
14Ac wedi ei ddyfod at y dyrfa, y daeth rhyw ddŷn, ac a ofynnodd iddo ar ei liniau,
15Ac a ddywedodd, ô Arglwydd trugarhâ wrth fy mâb: o blegit y mae efe yn lloeric, ac yn ddioddef llawer, canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr lawer gwaith.
16Ac mi #Mar.9.14.|MRK 9:14. Luc.9.37.a’i dugym ef at dy ddiscyblion di, ac ni allasant hwy ei iachau ef.
17Yna yr attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd, ôh genhedlaeth anffyddlon a gwrthnysig, pa hŷd y byddaf gyd â chwi? pa hŷd y dioddefaf chwi? dygwch ef ymma attafi.
18A’r Iesu a geryddodd y cythrael, ac efe a aeth allan o honaw: a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno.
19Yna y daeth y discyblion at yr Iesu o’r nailltu, ac y dywedasant, pa ham na allem ni ei fwrw ef allan?
20A’r Iesu a ddywedodd, o blegit eich anghredyniaeth: canys yn wîr y dywedaf i chwi, #Luc.17.6.pe bydde gennych ffydd gymaint a gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, symmut oddi ymma draw, ac efe a symmude, ac ni bydde dim amhossibl i chwi.
21Eithr nid aiff y rhywogaeth hyn allan, onid trwy weddi ac ympryd.
22Ac #Math.20.17.|MAT 20:17. Mar.9.31.|MRK 9:31. Luc.9.44.|LUK 9:44 & 24.7fel yr oeddynt hwy yn aros yn Galilæa, y dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dŷn a roddir yn nwylo dynion.
23A hwy a’i lladdant, a’r trydydd dydd y cyfyd efe: ac hwy a aethant yn drist iawn.
24Ac wedi dyfod o honynt i Capernaum, y rhai oeddynt yn derbyn arian y deyrn-ged a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, onid yw eich Athro chwi yn talu teyrn-ged?
25Yntef a ddywedodd, ydyw: ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, beth yr wyt ti yn ei dybied Simon? gan bwy y cymmer brenhinoedd y ddaiar deyrn-ged, ne dreth? gan eu plāt, ai gā estroniaid?
26Petr a ddywedodd wrtho, gan estroniaid, yna y dywedodd yr Iesu wrtho, gan hynny y mae y plant yn rhyddion.
27Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwynt, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymmer y pyscodyn cyntaf a ddêl i fynu, ac wedi agoryd ei safn, ti a gai ddarn o vgain ceiniog: cymmer hynny a dyro iddynt drosofi a thithe.

Dewis Presennol:

Mathew 17: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda