Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 16

16
PEN. XVI.
Atteb Crist i’r rha a geisiâsant gāddo ef arwydd. 6 Cyngor i wrthod sur a llefeinllyd athrawiaeth y Pharisæaid. 13 Tyb y bobl am Grist, 17 Ffydd yn dyfod oddi wrth Dduw. 18 Craig yr Eglwys, ac agoriadau nef. 21 Crist yn prophwydo am ei farwolaeth. 24 Cyflwr y gwir ddiscybl. 27 A dyfodiad Crist.
1Yna y #Math.12.38. Mar.8.11.|MRK 8:11. Luc.12.54.Pharisæaid a’r Saducæaid, gan ddyfod a themtio a geisiâsant ganddo ddangos iddynt arwydd o’r nef.
2Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, pan fyddo hi yn hwyr y dywedwch, hi a fydd tywydd têg, canys y mae’r wybr yn gôch.
3A’r boreu, [y dywedwch] heddyw [y bydd] dryg-hin, am fôd yr wybr yn gôch, ac yn drist: ô ragrith-wŷr, medrwch ddeall wyneb yr wybr, ac oni [fedrwch] farnu am arwyddiō yr amserau?
4Y mae y #Math.12.34.genhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd, ac arwydd ni’s rhoddir iddi, onid arwydd y prophwyd #Ionas.1.17.Ionas: ac felly efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymmaith.
5Ac #Mar.8.14.|MRK 8:14. Luc.12.1.wedi dyfod ei ddiscyblion ef i’r lann arall, hwy a ollyngasent tros gof gymmeryd bara [gŷd ag hwynt.]
6A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, edrychwch, a mogelwch rhag sur-does y Pharisæaid, a’r Saducæaid.
7Ac hwy a resymmâsant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, hyn sydd am na ddugasom fara.
8A’r Iesu yn gŵybod [y peth,] a ddywedodd wrthynt, chwy-chwi o ffydd fechan, pa ham yr ydych yn meddwl ynoch eich hunain, na ddygasoch fara?
9Onid #Math.14.17; Ioan 6.9ydych chwi yn ddeall etto, nac yn cofio pum torth, pan oedd bum mîl [o bobl] a pha sawl bascedaid a gymmerasoch chwi?
10Na’r #Math.15.34saith torth pan oedd saith mil [o bobl,] a pha sawl cawellaid a gymmerasoch chwi?
11Pa ham nad ydych yn deall, mai nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd ohonoch rhag sur-does y Pharisæaid, a’r Saducæaid?
12Yna y deallasant hwy, na ddywedase efe am ymogelyd o honynt rhag sur-does bara, ond rhac athrawiaeth y Pharisæaid, a’r Saducæaid.
13 # 16.13-19 ☞ Yr Efengyl ddigwyl Bedr Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cæsaria Philip, efe a ofynnodd iw ddiscyblion, #Mar.8.27.|MRK 8:27. Luc.9.18.|LUK 9:18. Ioan.6.69pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i Mâb y dŷn.
14A hwy a ddywedasant, rhai sy yn dywedyd mai Ioan Fedyddiwr, a rhai mai Elias, ac eraill mai Ieremias, neu vn o’r prophwydi.
15Ac efe a ddywedodd wrthynt, pwy meddwch chwi ydwyfi?
16Yna Simon Petr a attebodd, ac a ddywedodd, ti #Ioan.1.23.ydwyt Crist, Mâb y Duw byw.
17A’r Iesu a ddywedodd wrtho, gwyn dy fŷd ti Simon mâb Ionas, canys nid cîg a gwaed a ddatcuddiodd [hyn] i ti, eithr fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
18Yr ydwyf fi hefyd yn dywedyd i ti, mai ti ydwyt Petr, ac ar y graig hon yr adailadaf fy Eglwys, a phyrth vffern ni’s gorchfygant hi.
19Ac #Ioan.20.23.mi a roddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd, a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaiar, a fydd rhwymedic yn y nefoedd: a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaiar, fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.
20Yna y gorchymynnodd efe iw ddiscyblion na ddywedent i neb, mai efe oedd Iesu Grist.
21O hynny allan y dechreuodd yr Iesu fynegu iw ddiscyblion fod yn anghenrhaid iddo fyned i Ierusalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a chan yr arch-offeiriaid, a’r gwŷr llên, a’i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.
22Yna Petr a’i cymmerth ef o’r nailltu, ac a ddechreuodd ei geryddu ef, gā ddywedyd, Arglwydd trugarhâ wrthit ty hun, ni’s bydd hyn i ti.
23Yna y trôdd efe, ac a ddywedodd wrth Petr; dôs ar fy ôl Satan, canys rhwystr ydwyt ti i mi, am nad ydwyt yn deall y pethau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.
24Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddiscyblion, #Math.10.38. Mar.8.34.|MRK 8:34. Luc.9.23os myn nêb ddyfod ar fy ôl i, gwaded ag ef ei hun, a chymmered ei groes, a dilyned fi.
25 # Math.10.39. Mar.8.35.|MRK 8:35. Luc.9.24.|LUK 9:24. Ioan.12.25. Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll, a phwy bynnac a gollo ei fywyd o’m plegit i, a’i caiff.
26Canys pa lesâd i ddŷn er ennill yr holl fŷd, o chyll efe ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dŷn yn gyfnewid am ei enaid?
27Canys Mâb y dyn a ddaw yng-ogoniant ei Dâd, gyd â’i angelion, ac #Psal.62.12. Rhuf.2.6.yna y rhydd efe i bob dŷn yn ôl ei weithredoedd.
28 # Mar.9.1.|MRK 9:1. Luc.9.27. Yn wîr y dywedaf wrthych, fod rhai o’r sawl sydd yn sefyll ymma, a’r ni phrofant angeu, hyd oni welant Fâb y dŷn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.

Dewis Presennol:

Mathew 16: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda