Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 13

13
PEN. XIII.
1 Eglurdab am gyflwr teyrnas Dduw trwy ddammeg yr hâd, 34 yr achos yr ymddiddanodd Crist trwy ddamhegion, 24 Damhegion eraill am yr efrau, 31 am yr hâd mustard, 33 am y sur-does, 44 y tryssor cuddiedig, 45 am y perl, 47 ac am y rhwyd, 53 Crist yn cael ei esceuluso gan ei wlad-wyr ei hun.
1Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd efe wrth lann y môr.
2A #Mar.4.1.|MRK 4:1. Luc.8.4.phobl lawer a ymgynnullasent atto ef, hyd oni [orfu] iddo fyned i’r llong, ac eistedd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lann.
3Yna y llefarodd efe wrthynt lawer o bethau drwy ddamhegion, gan ddywedyd, wele’r hau-wr a aeth allan i hau.
4Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar hyd y ffordd, a’r adar a ddaethant, ac a’i difâsant.
5Peth arall a syrthiodd ar dir carregog lle ni chawsant fawr ddaiar, ac yn y man y tyfasant, can nad oedd iddynt ddyfnder daiar.
6Ac wedi cyfodi’r haul y poethasant, ac o eisieu gwreiddio y gwywâsant.
7A pheth a syrthiodd ym mhlith drain, a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy.
8Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tîr da, ac a ddugasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei drugeinfed, arall ar ei ddecfed ar hugain.
9Y neb sydd iddo glustiau i wrando, gwrādawed.
10Yna y daeth y discyblion, ac a ddywedasant wrtho, pa ham yr wyt yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?
11Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, a’m roddi i chwi ŵybod dirgelwch teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.
12O blegit #Math.25.29.pwy bynnac sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnac nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir yr hyn sydd ganddo.
13Am hynny ’r ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled: ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall,
14Felly ynddynt hwy y cyflawnwyd prophwydoliaeth Esaias, #Esai 6.9.|ISA 6:9. Mar.4.12.|MRK 4:12. Luc.8.10. Ioan.12.40. Act.28.26. Rhuf.11.8.yr hon sydd yn dywedyd: gan glywed y clywch, ac ni ddehellwch, ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch.
15Canys brashauwyd calon y bobl hyn, ac hwy a glywsant a’u clustiau yn drwm, ac a gaeâsant eu llygaid, rhag canfod â’r llygaid, a chlywed â’r clustiau a deall â’r galon, a throi fel yr iachawn i hwynt.
16Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled, a’ch clustiau, am eu bod yn clywed.
17O blegit yn wîr y dywedaf i chwi, mai #Luc.10.24.llawer o brophwydi a rhai cyfiawn a ddeisyfiasant weled y pethau a welwch chwi, ac ni welsant: a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac ni chlywsant.
18Gwrandewch chwithau ddammeg yr hau-wr.
19Pa #Marc.4.15. Luc.8.11.bryd bynnac y clyw neb air y deyrnas, ac efe heb ei ddeall, y mae y drwg yn dyfod, ac yn cippio’r hyn a hauwyd yn ei galon ef: ac dymma’r hwn a hauwyd ar hŷd y ffordd.
20A’r hwn a hauwyd ar y tîr carregog, yw’r vn sydd yn gwrando y gair, ac yn ebrwydd drwy lawenydd yn ei dderbyn.
21Ond nid oes wreiddyn ynddo ei hun, a thros amser y mae efe: a phan ddelo trallod neu erlid o blegit y gair, yn y fan efe a rwystrir.
22A’r hwn a hauwyd ym mhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando y gair: onid gofal y bŷd hwn, a thwyll cyfoeth sydd yn tagu y gair, ac yr ydys yn ei wneuthur ef yn ddiffrwyth.
23Ond yr hwn a hauwyd yn y tîr da, yw yr hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn ei ddeall, sef yr hwn sydd yn dwyn, ac yn rhoddi ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ei drugeinfed, arall ei ddecfed ar hugain.
24Dammeg arall a osodes efe iddynt, gan ddywedyd, #13.24-30 ☞ Yr Efengyl y pummed Sul wedi ’r YstwyllTeyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddŷn a hauodd hâd da yn ei faes.
25A thra yr oedd y dynion yn cyscu, y daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ym mhlith y gwenith, ac a aeth ymmaith.
26Ac wedi i’r egin dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.
27A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho: arglwydd, oni hauaist ti hâd da yn dy faes? o ba lê gan hynny y mae yr efrau ynddo?
28Ac yntef a ddywedodd wrthynt, y gelyn ddŷn a wnaeth hyn: a’r gweision a ddywedasant wrtho, a fynni di i ni fyned ai casclu hwynt?
29Ac efe a ddywedodd, na fynnaf, rhag i chwi wrth gasclu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyd â hwynt.
30Gadewch i’r ddau gŷd-tyfu hyd y cynhaiaf, ac yn amser y cynhaiaf, mi a ddywedaf wrth y medel-wŷr, cesclwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch yn yscubau iw llosci, a chesclwch y gwenith i’m yscubor.
31Dammeg #Mar.4.30.|MRK 4:30. Luc.13.9.arall a roddes efe iddynt, gan ddywedyd, cyffelyb yw teyrnas nefoedd, i ronyn o hâd mwstard, yr hwn a gymmer dŷn, ac a haua yn ei faes.
32Yr hwn sydd leiaf o’r holl hadau: ond wedi iddo dyfu, mwyaf vn o’r llysiau ydyw, ac efe a aiff yn brenn fel y delo adar yr awyr a nythu yn ei gangau ef.
33Dammeg #Luc.13.21.arall a ddywedodd efe wrthynt, gan ddywedyd, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmere gwraig, ac ai cuddie mewn tri phecced o flawd, hyd sure y cwbl.
34Hyn oll a ddywedodd yr Iesu #Mar.4.33.trwy ddamhegion wrth y dyrfa, ac heb ddamhegion ni ddywedodd efe ddim wrthynt.
35Fel y cyflawnid yr hyn a ddywetpwyd gan y prophwyd, gan ddywedyd, #Psal.78.2.agoraf fyng-enau mewn damhegion, a mynegaf ddirgelion er pan seiliwyd y bŷd.
36Yna yr anfonodd yr Iesu y dyrfa ymmaith, ac yr aeth i’r tŷ, a’i ddiscyblion a ddaethant atto gan ddywedyd, eglura i ni ddammeg efrau y maes.
37Yna yr attebodd efe, ac a ddywedodd wrthynt, yr hwn sydd yn hau yr hâd da, yw Mâb y dyn:
38A’r maes yw’r bŷd, a’r hâd da, hwynt hwy yw plant y deyrnas: a’r efrau ydynt blant y drwg.
39A’r gelyn yr hwn a’u hauodd hwynt hwy, yw diafol, #Ioel 3.13.|JOL 3:13. Gwel.14.15.a’r cynhaiaf yw diwedd y bŷd, a’r medel-wŷr yw’r angelion.
40Megis gan hynny y cynhullir yr efrau, ac eu lloscir yn tân, felly y bydd yn niwedd y bŷd.
41Mâb y dŷn a ddenfyn ei angelion, ac hwy a gynhullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnant anwiredd.
42Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân, yno y bydd ŵylo a rhingcian dannedd.
43Yna #Daniel.12.3.|DAN 12:3. Doeth.3.7.y llewyrcha y rhai cyfiawn, fel yr haul yn nheyrnas eu Tâd: yr hwn sydd iddo glustiau i wrando, gwrandawed.
44Drachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor cuddiedic mewn maes, yr hwn wedi i ddŷn ei gaffael, a’i guddie efe, ag o lawenydd am dano, efe a gilie, ac a werthe yr hyn oll a fedde, ac a bryne y maes hwnnw.
45Drachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farsiandŵr, yr hwn a geisie berlau da,
46Ac wedi iddo gaffael vn perl gwerth-fawr, a âe, ac a werthe gymmaint oll ac a fedde, ac a’i pryne ef.
47Trachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwrid yn y môr, yr hon a gascle o bob rhyw beth.
48Yr hōn wedi ei llenwi, a ddygent i’r lann, ac a eisteddent, ac a gasclent y rhai da mewn llestri, ac a fwrient heibio y rhai drwg.
49Felly y bydd yn niwedd y bŷd, yr angelion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn,
50Ac a’i bwriant hwy i’r ffwrn dân, yno y bydd ŵylofain a rhingcian dannedd.
51A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ddarfu i chwi ddeall hyn oll? hwythau a ddywedasant wrtho, do Arglwydd.
52Yna y dywedodd efe wrthynt, am hynny pob scrifennudd wedi ei ddyscu i deyrnas nefoedd, a gyffelybir i berchen tŷ, yr hwn a ddwg allan o’i dryssor [bethau] newydd a hên.
53Ac wedi i’r Iesu ddywedyd y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno.
54Ac efe a ddaeth iw wlâd ei hun, ac a’u dyscodd hwynt yn eu Synagogau, #Mar.6.1.|MRK 6:1. Luc.4.16oni synnodd arnynt, gan ddywedyd, o ba le y daeth y doethineb hyn a’r gwrthiau i’r dŷn hwn?
55Ond #Ioan.6.42.hwn yw mab y saer? onid ei fam ef a elwir Mair? a’i frodyr Iaco, ac Ioses, a Simon, ac Iudas?
56Ac onid yw ei chwiorydd oll gyd â ni? o ba le gan hynny y mae ganddo y pethau hyn oll?
57Ac hwy a rwystrwyd o’i blegit ef, yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, #Mar.6.4.|MRK 6:4. Luc.4.24. Ioan.4.44.nid yw prophwyd heb anrhydedd onid yn ei wlâd ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.
58Ac ni wnaeth efe fawr wrthiau yno, o blegit eu hanghreduniaeth hwynt.

Dewis Presennol:

Mathew 13: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda