Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 8

8
PEN. VIII.
Crist yn pregethu o dref i dref, 5 Yn gosod allan ddammeg yr hâd, 16 A’r gannwyll, 19 Yn dangos pwy sydd geraint iddo, 23 Yn gosteguy môr, 41 Wrth fyned gyd ag Iarus yn iachau y wraig glaf o’r diferlif gwaed, ac yn bywhau merch Iairus.
1A Bu wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas, a thref, gan bregethu, ac efangylu teyrnas Dduw, a’r deuddec [oeddynt] gyd ag ef:
2A rhai gwragedd, a’r a iachesid oddi wrth ysprydion drwg a chlefydau, Mair yr hon a elwid Magdalen, #Marc.16.9.o’r hon yr aethe saith gythrael allan,
3Ac Ioanna gwraig Chuza gorchwiliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oeddynt yn gweini iddo â’u golud.
4 # 8.4-15 ☞ Yr Efengyl ar y Sul a elwir Sexagesima. Ac #Math.13.3. Marc.4.2. wedi i lawer o bobl ymgynnull yng-hyd, a chyrchu atto o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddammeg,
5Yr hauwr a aeth allan i hau ei hâd, ac wrth hau peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd, ac ehediaid y nef a’i bwyttaodd.
6A pheth arall a syrthiodd ar y graig, a phan eginodd y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr.
7Ac arall a syrthiodd ym mysc drain, a’r drain a gyd-tyfasant, ac a’i tagasant ef.
8Ac arall a syrthiodd ar dir da, ac a eginodd ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed: wrth ddywedyd y pethau hyn efe a lefodd: y neb sydd a chlustieu iddo i wrando gwrandawed.
9A’i ddiscyblion a ofynnasant iddo gan ddywedyd: pa ddammeg oedd hon?
10Yntef a ddywedodd: i chwi y rhoddwyd gŵybod dirgeloedd teyrnas Dduw: eithr i eraill ar ddamhegion, fel #Esa.6.9. Math.13.14. Marc.4.12. Ioan.12.40. Act.28.16 yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.
11Ac dymma’r #Math.13.18. Marc.4.5.ddammeg, yr hâd yw gair Duw.
12A’r rhai ar ymyl y ffordd ydyw y rhai sy yn gwrando, wedi hynny y mae diafol yn dyfod ac yn dwyn ymmaith y gair o’u calonnau hwynt, rhag iddynt gan gredu fod yn gadwedig.
13Y rhai ar y graig [yw] y rhai pan glywant y gair a’i dderbyniant yn llawen: eithr y rhain nid oes ganddynt wreiddin, y rhai ydynt yn credu tros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.
14A’r hwn a syrthiodd ym mysc drain, yw y rhai a wrandawsant ond wedi iddynt fyned ymmaith hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a meluswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth.
15A’r hwn a [syrthiodd] ar y tîr da, yw y rhai, â chalon rywiog dda, ydynt yn gwrando y gair, ac yn ei gadw, ac ydynt yn ffrwytho trwy amynedd.
16 # Luc.11.13. Math.5.15. Marc 4.22. Nid yw neb wedi goleu cannwyll yn ei chuddio hi â llestr neu yn gosod tan wely: eithr yn ei gosod ar ganhwyll-bren, fel y caffo’r rhai a ddel i mewn weled y goleuni.
17 # Luc.12.2. Math.10.16. Marc.4.22. Canys nid oes dim dirgel, a’r ni bydd amlwg, na dim cuddiedig, a’r nis gwybydder, ac na ddaw i’r goleu.
18Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: #Math.13.12. Marc.4.25. Luc.19.24canys pwy bynnag y mae ganddo i hwnnw y rhoddir: a phwy bynnac nid oes ganddo, yr hyn y mae yn tybied ei fôd ganddo a ddygir oddi arno.
19 # Math.12.46. Marc.3.31. Daeth hefyd atto ei fam a’i frodyr, ac ni allent ddyfod yn agos atto gan y dorf.
20A mynegwyd iddo [gan rai] yn ddywedasant, y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.
21Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt: fy mam i a’m brodyr i yw y rhai sy yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.
22A bu #Math.8.23. Marc.4.36.ar ryw ddiwrnod fyned o honaw i long gyd â’i ddiscyblion, a dywedyd wrthynt: awn i’r tu hwnt i’r llynn, ac hwy a gychwynnasāt.
23Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd, a chafod o gorwynt a gododd ar y llynn, onid oeddynt yn llawn, ac mewn enbydrwydd.
24Yna yr aethant atto, ac y deffroasant ef gan ddywedyd, ô feistr, ô feistr ddarfu am danom, ac efe wedi ei gyfodi, a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr: a hwynt a beidisant, a hi a aeth yn dawel.
25Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa le y mae eich ffydd chwi? ac ofni a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd y naill wrth y llall: pwy yw hwn, sydd yn gorchymyn y gwynt a’r dwfr, a hwynteu yn vfyddhau iddo?
26Ac #Math.8.8. Marc.5.1.hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid yr hon sydd o’r tu arall ar gyfer Galilæa.
27Ac wedi iddo fyned allan i dîr, y cyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser, ac ni wisce ddillad, ac nid arhose mewn tŷ, ond yn y monwentydd.
28Hwn pan welodd yr Iesu wedi iddo ddolefain, a ddaeth atto, ac a ddywedodd â llef vchel, beth sydd i mi â thi ô Iesu fab Duw Goruchaf? yr wyf yn attolwg i ti, na’m poenech.
29Canys gorchymynase efe i’r yspryd aflan ddyfod allan o’r dŷn, canys llawer o amserau y cymmerase ef, am hynny y cedwid ef yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau, eithr wedi dryllio y rhwymeu, ef a yrrwyd gan y cythraul i’r dyffaethwch.
30A’r Iesu a ofynnodd iddo gan ddywedyd, beth yw di enw di? yntef a ddywedodd, lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethant iddo ef.
31Ac hwy a ddeisyfiasant arno, na orchymynne iddynt fyned i’r dyfnder.
32Ac yr oedd yno genfaint o foch yn pori ar y mynydd, a hwynt hwy a attolygasant iddo adel iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny: ac efe a adawodd iddynt.
33A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dŷn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llynn, ac a foddwyd.
34A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuase, hwynt hwy a ffoasant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas a’r meusydd.
35Yna yr aethant hwy allan i weled yr hwn a wnelsid yn iach, ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn o’r hwn yr aethe y cythreuliaid allan, yn ei ddillad a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: ac hwy a ofnasant.
36A’r rhai a welsent a fynegasant iddynt, pa fodd yr iachausid y cythreulic.
37A’r holl werin o gylch gwlad y Gadereniaid, a ddymunasant arno fyned ymmaith oddi wrthynt: am eu bod mewn ofn mawr: ac efe wedi myned i’r llong a ddychwelodd.
38A’r gŵr o’r hwn yr aethe y cythreuliaid allā, a ddeisyfiodd arno gael bod gyd ag ef: eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymmaith gā ddywedyd
39Dychwel i’th dŷ, a dangos faint a wnaeth Duw erot, felly yr a aeth efe tann bregethu trwy gwbl o’r ddinas faint a wnaethe’r Iesu iddo.
40A bu pan ddychwelodd yr Iesu trachefn, dderbyn o’r bobl ef, canys yr oedd pawb yn disgwil am dano ef.
41Ac #Math.9.18. Marc.5.22.wele daeth gŵr a’i enw Iairus, ac efe oedd lywodraethwr y Synagog, ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a attolygodd iddo ddyfod iw dŷ ef:
42O herwydd yr oedd iddo vn ferch yng-hylch deuddeng-mlwydd o oed, yr hon oedd ar farw, ac fel yr oedd efe yn myned, y bobl a’i gwascodd ef.
43A gwraig yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mhlynedd, ac a roese i feddygon gymaint oll a fedde, ni alle gael gan neb ei hiachau,
44Pan ddaeth hi o’r tu cefn iddo ef, hi a gyffyrddodd ag ymmyl ei wisc ef, ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.
45A dywedodd yr Iesu, pwy yw yr hwn a gyffyrddodd â mi? ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Petr a’r rhai oedd gyd ag ef, ô feistr y mae’r dorf yn dy wascu, ac yn dy flino, ac a wyt ti yn dywedyd, pwy yw yr hwn a gyffyrddodd â mi?
46A’r Iesu a ddywedodd, rhyw vn a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned rhinwedd o honof.
47Pan welodd y wraig nad oedd hi yn guddiedig, hi a ddaeth tann grynu, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a fynegodd iddo yng-ŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddase hi ag ef, ac modd yr iachausid hi yn ebrwydd.
48Ac yntef a ddywedodd wrthi, cymmer gyssur ferch, dy ffydd a’th iachâodd: dos mewn tangneddyf.
49Ac efe etto yn llefaru, fe a ddaeth vn o dŷ llywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd wrtho, bu farw dy ferch, na phoena mo’r Athro.
50A’r Iesu pan glybu hyn, a’i attebodd ef: nac ofna, creda yn vnic a hi a iacheir.
51Wedi ei fyned ef i’r tŷ, ni ollyngodd efe neb i mewn gyd ag ef, ond Petr, ac Iaco, ac Ioan, a thâd a mam y llangces.
52Ac wylo a griddfan am deni yr oeddynt oll, eithr efe a ddywedodd, nac ŵylwch: nid marw hi, eithr cyscu y mae hi.
53A hwynt ai gwatwarasant ef, am iddynt ŵybod ei marw hi.
54Yna y bwriodd efe hwynt oll allan, ac a’i cymmerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd gan ddywedyd, herlodes cyfot.
55A’i hyspryd hi a ddaeth trachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd, ac efe a orchymynnodd roi bwyd iddi.
56A rhyfeddu a wnaeth ei rhieni hi: ac efe a orchymmynnodd na ddywedent i neb y peth a wneithid.

Dewis Presennol:

Luc 8: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luc 8