Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 20

20
PEN. XX.
Crist yn gostegu yr arch-offeiriad gan ofyn, o ba le yr oedd bedydd Ioan, 9 Yn dangos ar ddammeg y winllan ddinistr yr Iddewon. 22 Yn rhoi atteb doeth am deyrn-ged, 27 Ac am yr adgyfodiad. 46 Ac yn dangos rhagrith yr scrifennyddion.
1A #Math.21.23. Mar.11.27,28digwyddodd ar vn o’r dyddiau hynny, ac efe yn dyscu’r bobl yn y Deml, ac yn pregethu’r Efengyl, yr arch-offeiriaid, a’r scrifenyddion, gŷd â’r pennaethiaid a ddaethant atto ef,
2Ac a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, dywet i ni drwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw yr hwn a roddes i ti yr awdurdod hon?
3A chan atteb efe a ddywedodd wrthynt, a minne a ofynnaf i chwithau vn peth: dywedwch chwithau i mi:
4Bedydd Ioan ai o’r nef yr ydoedd, ai o ddynion?
5A hwy a resymmasant yn eu plith eu hunain gan ddywedyd: os dywedwn mai o’r nef: efe a ddywed, pa ham gan hynny na chredech ef?
6Ac os dwedwn mai o ddynion, yr holl bobl a’n llabyddiant ni, canys y mae yn siccr ganddynt fod Ioan yn brophwyd.
7Ac am hynny hwy a attebasant na’s gwyddent o ba le [yr oedd.]
8Yna’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ac nid wyf finne yn dywedyd î chwithau trwy ba awdurdod y gwnafi y pethau hyn.
9Ac #Esai.5.1.|ISA 5:1. Iere.2.21.|JER 2:21. Math.21.33. Mar.12.1efe a ddechreuodd ddywedyd y ddammeg hon wrth y bobl. * Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a’i gosododd hi i lafur-wŷr,
10Ac mewn amser, efe a anfonodd ei wâs at y llafur-wŷr, fel y rhoddent [iddo] o ffrwyth y winllan: a’r llafur-wŷr a’i curasant ef, ac a’i anfonasant ymmaith yn wag-law.
11Ac efe a anfonodd wâs arall: a hwy a gurasant, ac a amharchasant hwn hefyd, ac a’i hanfonasant ymmaith yn wag-law.
12A thrachefn efe a anfonodd y trydydd: ac wedi iddynt glwyfo hwn, hwy a’i bwriasant ef allan.
13Yna y dywedodd arglwydd y winllan, pa beth a wnaf? mi a anfonaf fy annwyl fâb, fe a alle pan welant, y parchant ef.
14a phan welodd y llafur-wŷr ef, ymresymmu â’u gilydd a wnaethant, gan ddywedyd: hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni.
15A hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant ef: pa beth gan hynny a wna Arglwydd y winllan iddynt?
16Efe a ddaw, ac a ddifetha y llafur-wŷr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill, a phan glywsant hyn dywedasant, na atto Duw.
17Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd: pa beth yntef yw hyn a scrifennwyd: y #Psal.118.22. Esai.28.16.|ISA 28:16. Act.4.11. 1.Petr.2.7maen yr hwn a wrthododd yr adailad-wŷr a wnaethpwyd yn ben congl.
18Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw a ddryllir, ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef.
19Yna yr arch-offeiriaid a’r scrifennyddion a geisiasant roddi dwylo arno yn y pryd hynny: ond yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedase efe y ddammeg honno.
20Ac am hynny hwy a * yrrasant gynllwyn-wŷr y rhai a gymmerent arnynt eu bod yn gyfiawn iw ddisgwil ef, fel y dalient ef yn ei ymadrodd, iw roddi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.
21A gofynnasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom y dywedi, ac y dysci di yn iniawn, ac nad ydwyt ti yn derbyn wyneb, ondyn dyscu ffordd Dduw yn iniawn.#Math.22.16. Mar.12.13
22Ai cyfraithlon i ni roi teyrn-ged i Cæsar ai nid yw?
23Ac efe yn deall eu cyfrwysdra hwynt, a ddywedodd wrthynt: pa ham y temtiwch fi?
24Dangoswch i mi geiniog, pwy piau y llun a’r scrifen sydd arni? a chan atteb y dywedasant Cæsar.
25Yna efe a ddywedodd wrthynt, #Rhuf.13.7.rhoddwch gan hynny’r eiddo Cæsar i Cæsar, a’r eiddo Duw i Dduw.
26Ac felly ni allasant feio ar ei eiriau ef ger bron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei attebion ef, hwynt hwy a dawsant.
27Yna rhai o’r #Math.22.23. Marc.12.18.Saducæaid, (y rhai sy yn gwadu bôd adgyfodiad) a ddaethant atto ef, ac a ofynnasant iddo,
28Gan ddywedyd, Athro, #Deut.25.5.Moses a scrifennodd i ni, os bydde farw brawd neb ag iddo wraig, a marw o honaw ef yn ddi-blant, fod iw frawd gymmeryd ei wraig ef, a chodi hâd iw frawd.
29Felly, yr ydoedd saith o frodyr, a’r hynaf a gymmerth wraig, ac a fu farw yn ddi-blant.
30A’r ail a gymmerth y wraig, ac a fu yntef farw yn ddi-blant.
31Yna, y trydydd a’i cymmerth hi: ac felly y saith hynny a fuant feirw, ac ni adawsant blant, eithr buant feirw.
32Yn ddiweddaf oll, y bu farw y wraig hefyd.
33Felly, yn yr adgyfodiad, gwraig i bwy vn o honynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig.
34Yna yr attebodd yr Iesu gan ddywedyd wrthynt, plant y bŷd hwn sy yn gwreica, ac yn gwra.
35Eithr y rhai a fyddo teilwng i gael y bŷd hwnnw, a’r adgyfodiad oddi wrth y meirw, ni wreicânt ac ni wrant:
36ac ni allant feirw mwy: canys cydstad ydynt a’r angelion, a phlant Duw ydynt, am eu bôd yn blant yr adgyfodiad.
37Ac y cyfid y meirw, #Exod.3.6.Moses a ddangosodd wrth y berth, lle y mae efe yn dywedyd: Arglwydd Dduw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob.
38Canys nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.
39Yna rhai o’r scrifennyddion gan atteb a ddywedasant: Athro, da y dywedaist.
40Ac ni feiddiod nêb mwyach ofyn dim iddo ef.
41Ac #Math.22.44. Mar.12.35.efe a ddywedodd wrthynt, pa fodd y maent yn dywedyd fôd Crist yn fâb i Dafydd?
42Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Psalmau: #Psal.110.1.yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheu-law,
43Hyd oni osodwyf dy elynion yn faingc i’th traed?
44Am hynny a Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fâb iddo?
45Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, a’r holl bobl yn ei glywed,
46Ymogelwch rhag yr scrifennyddion, y rhai a fynnant fyned mewn dillad lleision: ac a garant gyfarch iddynt yn y marchnadoedd: a’r eisteddleoedd vchaf yn y Synagogau: a’r lleoedd pennaf yn y gwleddoedd.#Pen.11.43.|LUK 11:43. Math.23.6. Mar.12.38.
47Y rhai ydynt yn difa tai gwragedd gweddwon ac yn rhith yn hîr-weddîo, y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.

Dewis Presennol:

Luc 20: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda