Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 17

17
PEN. XVII.
Crist yn erchi iw ddiscyblion na rwystrent neu na thrāgwyddent y naill y llall. 3 a maddeu o honynt iw gylidd. 6 gan ddangos mor gref iw ffydd 10 ac mor wan yw dyn o honaw ei hun, Crist yn iachau dêc o rai gwahan-gleifion, 20 ac yn mynegu am ddiwed y byd.
1Yna y dywedodd efe wrth ei ddiscyblion, #Math.18.7. Marc.9.42.ni all amgenach na dyfod rhwystrau, ond gwae efe trwy’r hwn y deuant.
2Gwell fydde iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a’i daflu i’r môr, nâg iddo rwystro vn o’r rhai bychain hynn.
3Edrychwch arnoch eich hunain, #Math.18.21.os gwna dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef: ac os edifarhâ efe, maddeu iddo.
4Ac er iddo wneuthur yn dy erbyn saith-waith yn y dydd, a throi attat saith-waith yn y dydd, a dywedyd, y mae yn edifar genif: madde iddo.
5Yna’r Apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, anghwanega i ni ffydd.
6A’r Arglwydd a ddywedodd, #Math.17.20.pe bydde gennych ffydd gymmaint a gronyn o hâd mwstard, a dywedyd o honoch wrth y sycamorwŷdden hon, ymddadwreiddia, ac ymblanna yn y môr; efe a vfuddhae i chwi.
7Pwy o honoch chwi, ac iddo wâs yn aredig, neu yn porthi anifeiliaid, a ddywed wrtho yn y mā pā ddêl o’r maes, dôs, ac eistedd i lawr?
8Ond yn hytrach a ddywed wrtho, arlwya i mi i swpperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha fi nes i mi fwytta, ac yfed: ac wedi hynny y bwyttei, ac yr ŷfi dithe.
9A ddiolche efe i’r gwâs hwnnw am wneuthur o hôno y pethau a orchymmynesid iddo? nid wyf yn tybied.
10Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll a’r a orchymynwyd i chwi, dywedwch, gweision anfuddiol ydym: o blegit yr hynn a ddylesem ei wneuthur a wnaethom.
11 # 17.11-19 ☞ Yr Efengyl y xiiii. Sul wedi y Drindod. A digwyddodd, ac efe yn myned i Ierusalem, fyned o honaw ef trwy ganol Samaria a Galilæa.
12A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, y cyfarfu ag ef ddec o wŷr gwahân-gleifion: y rhai a safasant o hirbell,
13Ac a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu y meistr, trugarha wrthym.
14A phan welodd efe [hwynt] efe a ddywedodd wrthynt: ewch, #Lefit.14.2.ymddangoswch i’r offeiriaid. Ac fe a ddarfu a hwy yn myned eu gwneuthur yn iach.
15Ac vn o honynt, pan welodd ddarfod ei iachau, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef vchel.
16Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan roddi diolch iddo, a hwnnw oedd Samariad.
17Yna’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd: oni lânhauwyd deg? a pha le y mae’r naw [eraill?]
18Ni châed nêb a ddaeth i roddi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.
19Ac efe a ddywedodd wrtho: cyfot, a dôs ymmaith, dy ffydd a’th iachaodd.
20A phan ofynnodd y Pharisæaid iddo, pa bryd y deue deyrnas Dduw, efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd: ni ddaw teyrnas Dduw wrth ei disgwil.
21Ac ni ddywedant, wele ymma, neu wele accw, canys wele, y mae genych deyrnas Dduw o’ch mewn.
22Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion: yr amser a ddaw, pan ddymunoch weled vn o ddyddiau Mâb y dŷn: ac nis cewch eu gweled.
23A hwy a #Math.24.23. Marc.13.21.ddywedant wrthych, wele ymma, neu wele accw: [eithr] nac ewch, ac na chanlynwch [hwynt.]
24Canys megis y fellden yr hon a ddiscleirio o’r naill fann dann y nef, a lewyrcha yn y fann arall dan y nef: felly y bydd Mâb y dŷn yn ei ddydd ef.
25Eithr yn gyntaf rhaid iddo ei ddioddef llawer, a’i ddiystyru gan y genhedlaeth hon.
26A megis y bu yn #Gene.7.5. Math.24.38. 1.Petr.3.20.nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mâb y dŷn.
27Bwyttasant, yfasant, gwreiccasant, a gŵrhasant, hyd y dydd yr aeth Noe i’r arch: yna y daeth y diluw, ac au difethodd hwynt oll.
28Yn yr vn modd hefyd, fel y darfu yn nyddiau Lot: bwyttasant, yfasant, prynasant, gwerthasant, plannasant, adeiladasant.
29A’r #Gene.19.24. dydd yr aeth Lot allan o Sodoma, y glawiodd tân, a brwmstân o’r nef, ac au difethodd hwynt oll.
30Fel hyn y bydd y dydd, y dadcuddir Mâb y dŷn.
31Yn y dydd hwnnw, y nêb a fyddo ar y tŷ, ai ddodrefn o fewn y tŷ, na ddescynned iw cymmeryd hwynt: a’r vn modd, y nêb a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl.
32 # Gen.19.26. Meddyliwch am wraig Lot.
33 # Pen.9.24.|LUK 9:24. Math.10.39. Marc.8.35. Ioan.12.25. Pwy bynnag a geisio gadw ei einnioes, ai cyll: a phwy bynnag ai cyll, ai bywha hi.
34Y nôs honno #Mat.24.40,41.meddaf i chwi y bydd dau yn yr vn gwely: vn a gymmerir, a’r llall a adewir.
35Dwy a fyddant yn malu yn yr vn lle: vn a gymmerir, a’r llall a adewir.
36Dau a fyddant yn y maes: vn a gymmerir, a’r llall a adewir.
37Yna gan atteb y dywedasant wrtho ef: pa le Arglwydd? ac efe a ddywedodd wrthynt: pa le bynnag y byddo’r corph, yno yr ymgasgl yr eryrod.

Dewis Presennol:

Luc 17: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luc 17