Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 9

9
PEN. IX.
Aaron yn dechreu offrymmu. 22 Ac yn bendithio y bobl. 23 Gogoniant Duw yn ymddangos.
1Yna y bu ar yr wythfed dydd i Moses alw am Aaron ac am ei feibion, ac am henuriaid Israel.
2Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, cymmer it lô ieuangc yn aberth tros bechod, a hwrdd yn boeth offrwm o rai perffaith-gwbl, a dwg [hwynt] ger bron yr Arglwydd.
3Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd: cymmerwch lwdn gafr gwryw, yn aberth tros bechod, a llô, ac oen blwyddiaid perffaith-gwbl yn boeth offrwm.
4Ac eidion, a hwrdd y aberth hedd, i aberthu ger bron yr Arglwydd: a bwyd offrwm wedi ei gymmyscy trwy olew: o herwydd heddyw yr ymddengys yr Arglwydd ichwi.
5A dugasant yr hyn a orchymynnodd Moses ger bron pabell y cyfarfod: a’r holl gynnulleidfa a ddaethant ac a safasant ger bron yr Arglwydd.
6A dywedodd Moses gwnewch y peth hynn, yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd: ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi.
7Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, dos at yr allor ac abertha dy aberth tros bechod, a’th boeth offrwm a gwna iawn #Heb.7.27.drosot dy hun, a thros y bobl, ac abertha offrwm y bobl, a gwna iawn drostynt, fel y gorchymynodd’r Arglwydd
8Yna y nessaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lô yr aberth tros bechod, yr hwn [oedd] trosto ef ei hun.
9A meibion Aaron a ddugasant y gwaed atto, ac efe a wlychodd ei fŷs yn y gwaed, ac ai gossododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed [arall] wrth waelod yr allor.
10Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth tros bechod y gwêr a’r arennau, a rhwyden yr ast, fel y gorchymynase yr Arglwydd wrth Moses.
11A’r cîg, a’r croen a losgodd efe mewn tân: o’r tu allan i’r gwerssyll.
12Ac efe #Lefit.1.5.a laddodd y poeth offrwm, a meibion Aaron a ddugasant y gwaed atto, ac efe ai taenellodd ar yr allor o amgylch.
13A dugasant y poeth offrwm atto’n ddarnau ai ben hefyd: ac efe ai llosgodd hwynt ar’r allor.
14Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac ai llosgodd hwynt yng-hyd a’r offrwm poeth ar’r allor.
15Hefyd efe a ddug offrwm y bobl, ac a gymmerodd fwch yr aberth tros bechod yr hwn [oedd] tros y bobl, ac ai lladdodd, ac ai hoffrymmodd tros bechod, fel y cyntaf.
16Ac efe a ddug y poeth offrwm, ac ai hoffrymmodd yn ol y ddefod.
17Felly efe a ddug y bwyd offrwm ac a lanwodd ei law o honaw, ac [ai] llosgodd ar yr allor heb law poeth offrwm y boreu.
18Ac efe a laddodd ŷch a hwrdd yr aberth hedd, yr hwn [oedd] tros y bobl: a meibion Aaron a ddugasant y gwaed atto, ac efe ai taenellodd ef ar yr allor o amgylch.
19[Cymmerasant] hefyd o’r ŷch y gwêr: ac o’r hwrdd y gloren, ar wêren fol, a’r arennau, a rhwyden yr ast.
20A gosodasant y gwêr ar y parwydennau, ac efe a losgdd y gwêr ar yr allor.
21Y parwydennau hefyd, a’r yscwyddoc ddehau a gwhwfanodd Aaron yn offrwm cwbwfan ger bron yr Arglwydd fel y gorchymynnodd Moses.
22A chododd Aaron ei law ar y bobl, ac ai bendithiodd, ac a ddaeth i wared o wneuthur yr aberth tros bechod, a’r poeth offrwm, a’r aberth hedd.
23Yna y daeth Moses ac Aaron i babell y cyfarfod, ac aethant allan, ac a fendithiasant y bobl, a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl.
24Ac #2.Cron.7.1. 2 Mac.2.10aeth tân allan oddi ger bron yr Arglwydd, ac a yssodd y poeth offrwm, a’r gwêr ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl, a gwaeddasant a chwympasant ar eu hwynebau.

Dewis Presennol:

Lefiticus 9: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda