Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 4

4
PEN. IIII.
Aberthau tros bechod a wnele’r offeiriad. 13 Neu’r holl gynnulleidfa. 22 Neu y pennaeth mewn anwybod.
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd.
2Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr vn o orchymynnion yr Arglwydd a gwneuthur yn erbyn vn o honynt, y pethau ni ddylyd eu gwneuthur.
3Os offeiriad eneiniog a becha i ddwyn y bobl yn euog, offrymmed tros ei bechod yr hwn a wnaeth, fustach ieuangc perffaith-gwbl yn aberth dros bechod i’r Arglwydd.
4A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod ger bron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach a lladded y bustach ger bron yr Arglwydd.
5A #Lefit.9.18.chymmered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod.
6A throched yr offeiriad ei fŷs yn y gwaed, a thaenelled o’r gwaed ar du wyneb gwahanlen y cyssegr, ger bron yr Arglwydd seithwaith.
7A gosoded yr offeiriad [beth] o’r gwaed ger bron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogldarth llyssieuoc, yr hon [sydd] ym mhabell y cyfarfod: a thywallded holl waed [arall] y bustach wrth droed allor y poeth offrwm yr hon [sydd wrth] ddrws pabell y cyfarfod.
8A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod o honaw, sef y weren fol, ar holl wêr yr hwn [fydd] ar y perfedd.
9A’r ddwy aren ar gwêr yr hwn [fydd] arnynt yr hwn [fydd] ar y perfedd, a’r rhwyden ar ’r afi a dynn efe ymmaith yng-hyd a’r arennau,
10Megis y tynnodd o ŷch yr aberth hedd: A llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poeth offrwm.
11Ond croen y bustach, #Exod.29.14.ai holl gîg ynghyd ai benn, ai draed, ai botten, ai fiswel,
12A’r holl fustach hefyd a ddwg efe allan i’r tu hwnt i’r gwerssyll i le glân wrth dywallt lê y lludw, ac ai llysc ar goed yn tân: wrth dywalltlê y lludw y lloscir ef.
13Ac os holl gynnulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a’r peth yn guddiedic o olwg y dyrfa, a gwneuthur o honynt yn erbyn yr vn o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid moi gwneuthur, a myned yn euog.
14Pan wypir y pechod yr hwn y pechasant ynddo, yna offrymmed y dyrfa fustach ieuanc yn aberth dros bechod, a dygant ef, o flaen pabell y cyfarfod.
15A gosoded henuriaid y gynnulleidfa eu dwylo ar ben y bustach ger bron yr Arglwydd, a lladdant y bustach yng-wydd yr Arglwydd.
16A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod.
17A throched yr offeiriad ei fŷs yn y gwaed a thaenelled ar du wyneb y wahan-len ger bron yr Arglwydd seith-waith.
18A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor yr hon [sydd] ger bron yr Arglwydd [sef] yr hon [sydd] ym mhabell y cyfarfod, a thywallted yr holl waed [arall] wrth waelod allor y poeth offrwm yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
19A thynned ei holl wêr allan o honaw, a llosged ar yr allor.
20A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech aberth, felly gwnaed iddo, a’r offeiriad a wna iawn trostynt, ac fe a faddeuir iddynt.
21Yna dyged y bustach allan i’r tu hwnt i’r gwerssyll, a llosged ef fel y lloscodd y bustach cyntaf, dymma aberth dros bechod y dyrfa.
22Os pecha pennaeth a gwneuthur trwy amryfusedd yn erbyn yr vn o holl orchymynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim or hynn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog.
23Os amlyga ei fai iddo yr hwn a wnaeth, dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaithgwbl.
24A gosoded ei law ar benn y llwdn, a lladded ef ger bron yr Arglwydd yn y lle y lleddir y poeth offrwm: dymma aberth tros bechod.
25A chymmered yr offeiriad o waed yr aberth tros bechod ar ei fŷs, a gossoded ar gyrn allor y poeth offrwm a thywallded ei waed ef wrth waelod allor y poeth offrwm.
26A llosged ei holl wêr ar yr allor fel gwêr yr aberth hedd, a gwnaed yr offeiriad iawn drosto am ei bechod, a maddeuir iddo.
27Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr vn o orchymynion yr Arglwydd ddim o’r [pethau] y rhai ni ddylid eu gwneuthur a bod yn euog.
28Os ei bechod yr hwn a bechodd a amlyga iddo: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith-gwbl vros ei bechod yr hwn a bechodd efe.
29A #Lefit 3.13.gosoded ei law ar benn yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth tros bechod yn lladd-fan y poeth offrwm.
30A chymmered yr offeiriad oi gwaed hi ar ei fŷs a rhodded ar gyrn allor y poeth offrwm, a thywallded ei holl waed hi wrth waelod’r allor.
31A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd, a llosged yr offeiriad [ef] ar yr allor: yn arogl esmwyth i’r Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iawn trosto a maddeuir iddo.
32Ac os dwg efe ei offrwm tros bechod [o] oen, dyged hi’n fenyw berffaith-gwbl.
33A gosoded ei law ar benn yr aberth dros bechod, a lladded hi tros berhod yn y lle y lleddir y poeth offrwm.
34A chymmered yr offeiriad ar ei fŷs o waed yr aberth tres bechod, a gosoded ar gyrn allor y poeth offrwm, a thywallded ei holl waed hi wrth waelod yr allor.
35A thynned ei #Lefit.3.9.holl wêr hi, fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd, a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor gyd ag aberth tanllyd yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iawn trosto am ei bechod yr hwn a bechodd, a maddeuir iddo.

Dewis Presennol:

Lefiticus 4: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda