Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 25

25
PEN. XXV.
Sabboth y seithfed flwyddyn. 8 Y Iubili yn y ddecfed flwyddyn a deugain. 14 gwerthiad a gollyngdod tiroedd, tai, a dynion.
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses ym mynydd Sinai, gan ddywedyd:
2Llefara wrth feibion Israel a dywet wrthynt, pan ddeloch i’r tîr yr hwn a roddaf i chwi, yna gorphywysed y tîr [bydded] Sabbeth i’r Arglwydd.
3Chwe blynedd yr heui dy faes, #Exod, 23.10.a chwe blynedd y torri dy winllan ac y cescli ei chnwd,
4Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Sabboth gorphywysdra i’r tîr, [sef] Sabborth yr Arglwydd: na haua dy faes, ac na thorr dy winllan.
5Na chynhaiafa yr hynn a dyfo o honaw ei hun, ac na chynnull dy rawnwin gwahanedic, bydded yn flwyddyn orphywysdra i’r tîr.
6Ond bydded [ffrwyth] Sabboth y tîr yn ymborth i chwi, [sef] i ti, ac i’th wasanaethwr; ac i’th wasanaeth ferch, ac i’th wenidog cyflog, ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyd a thi.
7Ith anifail hefyd, ac i’th fywst-fil, yr hwn [fydd] yn dy dîr y bydd ei holl gnwd yn ymborth.
8Cyfrif hefyd it saith Sabboth o flynyddoedd, [sef] saith mlynedd saith waith, dyddiau y saith Sabboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain.
9A phar ganu it vdcorn y Iubili ar y seithfed mîs ar y decfed dydd o’r mis, ar ddydd y cymmod cenvich yr vdcorn trwy eich holl wlâd
10A sancteiddiwch y ddecfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch rydd-did yn y wlâd iw holl drigolion, Iubili fydd hi i chwi, a dychwelwch bôb vn yw etifeddiaeth, îe dychwelwch bôb vn at ei deulu.
11y ddecfed flwyddyn a deugain honno fydd Iubili i chwi, na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a ddyfo o honaw ei hun: ac na chynhullwch ei gwinllanoedd gwahanedic hi,
12Am ei bod yn Iubili bydded sanctaidd i chwi, o’r maes y bwyttewch ei ffrwyth hi.
13O fewn y flwyddyn Iubili hon y dychwelwch bôb vn iw etifeddiaeth.
14Pan werthech ddim i’th gymydog neu brynnu ar law dy gymydog, na orthrymmwch bawb ei gilydd.
15Prynn gan dy gymydog yn ôl rhifedi y blynyddoedd ar ôl y Iubili: a gwerthed efe i tithê yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau.
16Yn ôl amldra y blynyddoedd y chwanegi ei brîs, ac yn ôl anamldra y blynyddoedd y lleihei di ei brîs: o herwydd rhifedi y cnydau y mae efe yn ei werthuit.
17Ac na orthrymmwch bôb vn ei gymydog, ond ofna dy Dduw, canys myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw chwi.
18Gwnewch chwithau fy-neddfau, a chedwch fy-marnedigaethau, a gwnewch hwynt, a chewch drigo yn y tîr yn ddiogel.
19Y tîr hefyd a rydd ei ffrwyth, a chewch fwytta digon, a chewch drigo ynddo yn ddiogel.
20A hefyd os dywedwch beth a fwyttawn y seithfed flwyddyn: wele ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd.
21Myfi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn, a hi a ddwg ei ffrwyth [i wasanaethu] dros dair blynedd.
22A’r wythfed flwyddyn yr heuwch, ond bwyttewch o’r hên gnwd: yr hên a fwyttewch hyd y nawfed flwyddyn, nes dyfod ei chnwd hi.
23A’r tîr ni cheir ei werthu yn llwyr, canys eiddo fi [yw] y tîr, o herwydd dieithraid, ac alltudion ydych gyd a mi.
24Ac yn holl dîr eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tîr.
25Os tloda dy frawd a gwerthu [dim] oi etifeddiaeth, a dyfod ei gâr nessaf iddo, [yna] efe a gaiff ollwng yr hynn a werthodd ei frawd.
26Ond os gŵr ni bydd gollyngûdd iddo, a chyrhaeddyd oi law ef ei hun gael digon iw ollyngdod.
27Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hynn fyddo tros ben i’r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo, felly aed eilwaith iw etifeddiaeth.
28Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo, yna bydded yr hynn a werthodd efe yn llaw yr hwn ai prynnodd hyd flwyddyn y Iubili, ac aed [y prynnwr] allan yn y Iubili, a deued [y gwerthwr] drachefn iw etifeddiaeth.
29A phan wertho gŵr dŷ annedd [o fewn] dinas gaeroc, yna bydded ei ollyngdod hyd [ben] blwyddyn gyflawn wedi ei werthu, [tros] flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.
30Ac oni ollyngir nes cyflawni iddo flwyddyn gyfan, yna siccerhaer y tŷ ’r hwn fydd yn y ddinas gaeroc yn llwyr i’r neb ai prynnodd [ac] iw hiliogaeth, nid aiff allan yn a Iubili.
31Ond tai trefi y rhai nid oes caeroedd o amgylch iddynt a gyfrifir fel maes o dîr: bid gollyngdod iddynt, ac aed [y prynnwr] allan yn y Iubili.
32Ond dinasoedd y Lefiaid a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i’r Lefiaid eu gollwng bôb amser.
33A [bydded] yr hwn ai gollwng [vn] o’r Lefiaid, ac aed [y prynnwr] allan o’r tŷ a werthwyd a dinas ei etifeddiaeth ef yn y Iubili: canys tai danasoedd y Lefiaid ydynt eu hetifeddiaeth hwynt ym mysc meibion Israel.
34Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragywyddol yw efe iddynt.
35A phan dlodo dy frawd gyd a thi, a llithro ei law, yna cynnorthwya ef: fel y byddo byw gyd a thi, [megis] y dieithr-ddyn, a’r alltud.
36 # Exod.22 25.|EXO 22:25. deut.23.19.|DEU 23:19. psal.15.5.|PSA 15:5. dihar.28.8.|PRO 28:8. ezeciel.18.8. Na chymmer ganddo occreth, na llôg: ond ofna dy Dduw, a gad ith frawd fyw gyd a thi.
37Na ddod dy arian iddo mewn vsuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar lôg.
38Myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw chwi yr hwn a’ch dygais allan o dîr yr Aipht, i roddi iwch dîr Canaan, [ac] i fod yn Dduw i chwi.
39A phan dlodo dy frawd gyda thi ai werthu ef it: #Deut.15.12. ierem.34.14.na wna iddo wasanaethu yn gaeth.
40Bydded gyd a thi fel gwenidog cyflog: fel alltud, hyd flwyddyn y Iubili y caiff wasanaethu gyda thi.
41Yna aed oddi wrthit ti efe ai blant gyd ag ef, a dychweled at eî dylwyth ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.
42Canys fyng-weision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dîr yr Aipht, na werther hwynt yn gaeth-werthiad.
43 # Ephes.6.9. col.4.1. Na feistrola arno ef yn galed, ond ofna dy Dduw.
44A [chymmer] dy wasanaeth-wr, a’th wasanaeth-ferch y rhai fyddant itti, o fysc y cenedloedd y rhai [ydynt] o’ch amgylch: o honynt y prynnwch wasanaeth-wr a gwasanaeth ferch.
45A hefyd o blant yr’alltudion y rhai a ymdeithiant gyd a chwi, prynnwch o’r rhai hyn, ac oi tylwyth y rhai [ynt] gyda chwi, y rhai a genhedlasant hwynt yn eich tîr chwi: byddant hwy i chwi yn etifeddiaeth.
46Ac etifeddwch hwynt i’ch plant ar eich ôl iw meddiannu [hwynt] yn etifeddiaeth: gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond am eich brodyr meibion Israel, pôb vn am ei frawd, na festrola yn galed arno.
47A phan gyrhaeddo llaw dŷn dieithr neu alltud [gyfoeth] gyd a thi, ac i’th frawd dlodi gyd a thi, ai werthu ei hun i’r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyd a thi, neu i vn o hiliogaeth ty-lwyth y dieithr-ddyn,
48Wedi ei werthu ceir ei ollwng yn rhydd: vn oi frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd.
49Naill ai ei ewythr frawd ei dâd, at mab ei ewythr ai gollwng ef yn rhydd, neu [vn] o gyfnessaf ei gnawd ef oi dylwyth ei hun ai gollwng ef yn rhydd, neu ei law a gyrredd ei waredu ei hun.
50A chyfrifed ai brynnwr o flwyddyn y Iubili: a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi y blynyddoedd, megis dyddiau gwenidog cyflog y bydd efe gyd ag ef.
51Os llawer [fydd] o flynyddoedd yn ol, taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny.
52Ac os ychydic flynyddoed fydd yn ol hyd flwyddyn y Iubili pan gyfrifo ag ef, taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd.
53Megis gwâs cyflog y bydd efe gyd ag ef [o] flwyddyn i flwyddyn, ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di.
54Ac os efe ni ollyngir o fewn [y blynyddoedd] hynn, yna aed allan flwyddyn y Iubili efe ai blant gydag ef.
55Canys gweision i mi [yw] meibion Israel, fyng-weision ydynt y rhai a ddygais o dîr yr Aipht. Myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw chwi.

Dewis Presennol:

Lefiticus 25: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda